成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Heledd Cynwal a Iolo Williams yn ffilmio'r rhaglen Crwydro ar S4C Heledd a Iolo yn crwydro'r Cestyll
Hydref 2003
Ar ddechrau mis Medi bu Heledd Cynwal a'r naturiaethwr Iolo Williams ar daith o Gastell Dinefwr i Gastell Carreg Cennen. Roedd y ddau yn cael eu ffilmio ar gyfer y gyfres deledu boblogaidd Crwydro a gynhyrchir gan gwmni Teledu Telesg么p i S4C.

Dechreuodd y daith yng Nghastell Dinefwr ac yna trwy'r Parc heibio i Lyn y Felin, y guddfan adar a thrwy'r Parc Ceirw. Golwg wedyn ar blasty'r Drenewydd ac yna trwy dref Llandeilo lawr at Afon Tywi. Codi wedyn uwchben Tregib i ben y gefnen sy'n edrych tuag at Gastell Carreg Cennen a diweddu'r daith yn y Castell ei hun.

Mae'n addas iawn fod Heledd wedi dewis ardal Llandeilo ar gyfer Crwydro gan fod ganddi hi atgofion melys iawn am y dref a theimlad clos iawn at yr ardal o'i chwmpas. Mae'r cestyll naill ben i'r daith yn hen gestyll y Cymry ac mae hynny hefyd yn bwysig iddi yn enwedig o gofio mai Dinefwr oedd cartref yr Arglwydd Rhys.

Mae Heledd yn werthfawrogol iawn o ddylanwad Llandeilo ar ei bywyd cynnar. Cafodd ei magu heb fod ymhell o bentref Bethlehem ac aeth i'r ysgol gynradd yno yn un o ddeunaw o blant - ysgol sydd bellach wedi ei chau. Wedyn aeth i Ysgol Bro Myrddin ac i'r Coleg yn Aberystwyth. Yn yr ysgol yng Nghaerfyrddin mae hi'n s么n am ddau athro dylanwadol. Wyn Jenkins a Tudur Dylan Jones ac mae hi' n eu cofio'n arbennig am eu hanogaeth i ysgrifennu'n greadigol ac yn cofio'r ffydd ddangoson nhw ynddi hi fel disgybl.

Yn y Coleg yn Aberystwyth bu'n astudio Cymraeg a Drama er y byddai wrth ei bodd yn dweud mai bywydeg m么r ac anthropoleg oedd ei phynciau ond, chwedl hithau. "Cymraeg a Drama wnes i fel pawb arall!"


Heledd a Iolo ar grwydr yn ardal Y Lloffwr
Heledd a Iolo ar grwydr yn ardal Y Lloffwr
Mae hi'n cofio dylanwad Hazel Walford Davies arni yn Aberystwyth, yn enwedig am iddi hi ei chyflwyno i ddramodwyr Americanaidd fel Tennessee Williams, Sam Sheppard a David Mammett. Roedd Hazel Walford Davies yn gwneud ei darlithoedd yn wirioneddol fyw ac un o'r dram芒u sydd wedi gwneud argraff fawr ar Heledd ydy A Streetcar Named Desire.

Dylanwad arall arni yn y Coleg oedd Huw Meirion Edwards fu yn ei hannog i ysgrifennu'n greadigol ac un o'r uchafbwyntiau creadigol oedd ysgrifennu geiriau emyn gafodd ei chanu yn ei phriodas, oedd yn brofiad gwefreiddiol, meddai Heledd.

Roedd hi'n mwynhau perfformio ac actio a chymryd rhan mewn sioeau cerdd yn y coleg ar ysgol, ond fe wnaeth hynny yn llwyr o'i gwirfodd.

Cafodd Heledd ei swydd gyntaf ym myd teledu fel ymchwilydd ar Bacha hi O'ma, swydd oedd yn golygu mynd i chwilio am gyfranwyr i dafarnau a chlybiau a dwyn persw芒d ar bobl hanner meddw a gwaeth i ymddangos ar y rhaglen. Cymysgedd o charm a blackmail meddai hi, oedd yr abwyd gorau. Wedyn bu hi'n gweithio ar raglen Pwy 'Di Pwy'? a dyna pryd cafodd hi gynnig prawf sgrin ar gyfer cyflwyno Uned 5, a dyna lle cafodd hi un o uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yn hyn sef taith fythgofiadwy i Lapland i chwilio am Si么n Corn. Mae Heledd wedi gweithio arHeno ac erbyn hyn mae hi'n adnabyddus fel cyflwynwraig ar Wedi 7.

Am fwy o straeon difyr cofiwch wylio Crwydro ar S4C ddechrau 2004.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy