Mae yna Gymro Cymraeg lleol wedi cyrraedd y pump olaf yn y sioe a ddaw i ben yng nghanol mis Rhagfyr. Ydych chi'n un o wylwyr selog y rhaglen deledu? Wel os ydych fe fyddwch wedi gwylio'r canwr bariton dawnus a'r cymeriad hyderus o ardal Pontsenni sef Rhydian Roberts.
Mae yna ddiddordeb mawr gan bobl o bob rhan o Brydain yn anturiaethau ac hyfforddiant cerddorol y g诺r ifanc wrth iddo geisio cael cefnogaeth beirniaid y sioe a'r cyhoedd i ennill y gystadleuaeth a dod yn fyd-enwog.
Cafodd Rhydian ei addysg yn Ysgol Feithrin Pontsenni; Ysgol Gynradd Gymraeg Y Bannau, Aberhonddu a Choleg Preswyl Llanymddyfri ac fe ddywed taw un o gyfnodau hapusaf ei fywyd oedd yn y Coleg ac mae'n teimlo hi'n fraint aruthrol iddo orffen ei gyfnod yno fel prif-fachgen. Ynghyd 芒 bod yn ganwr gwych mae'n chwarae'r trwmped a'r corned yn hyderus. Contractiwr trydanol yw ei dad Malcolm wrth ei alwedigaeth ac mae ei fam Angela yn gweithio i Croesffyrdd, yr elusen sy'n gofalu am ofalwyr. Mae'r teulu'n cadw cysylltiad agos 芒'r ardal, a thra ar ymweliad 芒 Choleg Llanymddyfri cafodd gohebydd Y Lloffwr gyfle i holi Rhydian a'i rieni balch.
Dywedodd Angela fod yna gefnogaeth anhygoel wedi bod i'w mab a'i fod yntau'n ddiffuant yn ddiolchgar i bawb sy'n pleidleisio bob wythnos. Bob prynhawn Gwener mae Rhydian yn s么n am ddigwyddiadau'r wythnos ar rhaglen radio Dylan a Meinir ar 成人快手 Radio Cymru ac mae'n rhoi gwybodaeth a negeseuon ar ei wefan - ac yno rhoddodd deyrnged i Ray Gravell. Bob Dydd Sadwrn mae wyth o'i gefnogwyr yn cael mynd i'r Thames Talk Back Studio ger Wembley i'w gefnogi - arwah芒n i'w rieni sy'n mynd yn rheolaidd mae Rhydian yn ceisio gwahodd gwahanol bobl sydd wedi ei helpu ar hyd ei yrfa i fynd i weld y sioe gyffrous.
Deallir ei bod hi'n uchelgais ganddo gael cytundeb recordio; i ganu gyda Kathryn Jenkins ac i ganu'r Anthem Genedlaethol mewn G锚m Rygbi Rhyngwladol yng Nghaerdydd. Mae Rhydian yn 诺r heini gan yr arferai chwarae criced a rygbi yn Aberhonddu ac yn yr ysgol roedd yn godwr pwysau penigamp. Cyfrifir Rhydian fel g诺r ifanc annwyl, serchog, hapus ac ymroddgar gan ei deulu a'i ffrindiau, ac mae'n haeddu pob llwyddiant.
Gwrandewch ar y cyfweliadau gyda Rhydian Roberts ar raglen Dylan a Meinir ar 成人快手 Radio Cymru.
Gwrando Rhydian yn gorffen yn ail
|