成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Chwaraewr p锚l fasged Ffarwel i "Fyd y Cyrff"
Chwefror 2003
Yn ddiweddar ro'n i'n Llundain ac yn gorfod aros dros nos, a hynny oherwydd galwadau gwaith. Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ro'n i'n gwybod am arddangosfa arbennig a oedd yn yr hen Truman Brewery ar Brick Lane, yng ngogledd y ddinas.
Arddangosfa yw hon o'r enw "Body Worlds ", sef Cyrff wedi eu plastineiddio ('plastination'). Beth, meddech chi yw ystyr hyn? Wel yn syml, proses o gadw corff marw heb iddo bydru, sychu, na cholli dim ar ei elfennau naturiol. Yn debyg i'r broses o berarogli corff, rhaid tynnu pob hylif ohono. Felly, gan fy mod yn Llundain, a bod yr arddangosfa yn dod i ben ar 9 Chwefror, mentrais i fyd anatomegol rhyfeddol.

Dull o arddangos cyrff yw hwn a ddatblygwyd gan Almaenwr o'r enw'r Athro Gunther von Hagens. Chwarter canrif yn 么l y datblygodd y dull hwn, ac ers hynny mae gwahanol bobl wedi gadael eu Cyrff i'r Athro er mwyn eu hastudio a'u harddangos. Fe grewyd rhywfaint o gyffro pan aeth yr Athro von Hagens ati i gynnal autopsy/post mortem llawn ar gorff go iawn o flaen cynulleidfa fyw (a oedd yn talu i fod yn bresennol). Fe ffilmiwyd y cyfan a'i ddangos ar Channel 4 (yn hwyr y nos fis Tachwedd 2002). Beth bynnag am hynny, roedd yn ffordd wych o dynnu sylw at yr arddangosfa.

I rai wrth gwrs, fe fyddai gweld corff go iawn wedi ei arddangos, yn codi braw, ond gallaf eich sicrhau nad braw a deimlais, ond chwilfrydedd a mwy na hynny, ymdeimlad o gael fy ngoleuo yn addysgiadol am gyfrinachau'r corff.

Yn draddodiadol mae'r wyddor anatomegol wedi arwain at gyrff yn cael eu dangos mewn un ffordd yn unig. Yn yr arddangosfa hon fe aed ati yn fwriadol i arddangos y corff mewn cynifer o wahanol ffyrdd gan ganolbwyntio ar wahanol rannau ac agweddau.

Arddangosfa i danio dychymyg
Roedd yma arddangosfa o'r cyhyrau mewn corff person a oedd yn g么l-geidwad; corff gwraig a oedd saith mis yn feichiog, fel petai yn gorwedd ac yn dangos yn glir fel yr oedd organau eraill wedi cael eu gwthio i fyny i wneud lle i'r baban yn y groth; dyn yn nofio, gan ddangos maint y cyhyrau; person yn gweithio ar gyfrifiadur; person yn chwarae p锚l fasged; a hen wr yn chwarae gwyddbwyll, gan ddangos effaith henaint ar ei esgyrn a'i gyhyrau. Roedd yma hefyd drawsdoriad o ddyn ar gefn ceffyl, er mwyn dangos maint y gwahanol organau a'u lleoliad mewn dyn a cheffyl.

Un o'r pethau mwyaf hynod am yr arddangosfa yw ei fod yng nghanol cymuned Bengali yng ngogledd Llundain. Yn union fel mae Chinatown yn llawn o siopau a bwytai Tseiniaidd, felly y mae Brick Lane yn f么r o liw ac o ddiwylliant Bengalaidd. Dwi ddim yn siwr pa fath o ymateb a fu gan y bobl leol i'r arddangosfa, yn sicr nid oeddwn i am bryd o fwyd o unrhyw fath yn syth ar 么l dod allan, ac er hynny, roedd y cyfan wedi tanio fy nychymyg. A dyna efallai grisialu'r profiad, sef ei fod yn ennyn ymateb eithafol a gwahanol mewn pobl.

Prynais y llyfr swyddogol, a gan i mi ddangos diddordeb ar ddechrau'r arddangosfa, rwyf wedi derbyn manylion a chylchlythyron yn gyson gan y trefnwyr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Yn y cylchlythyr olaf, a gyrhaeddodd rai diwrnodau'n 么l, roedd gwahanol adolygiadau yn profi yr ymatebion eithafol i'r cyfan.


Corff wrth y cyfrifiadur
Corff wrth y cyfrifiadur
I mi, dw i'n hynod o falch fy mod wedi gallu mynd yno. Fe ddysgais lawer am y corff a dwi'n tristau fod yr arddangosfa yn dod i ben cyn i mi allu mynd 芒'm plant yno. Mae rhai pobl (62 ohonyn nhw o Brydain) wedi arwyddo i ddweud eu bod ar eu marwolaeth yn gadael eu Cyrff i'r Athro von Hagens. Dwi ddim yn siwr am hynny, ond mae cyfle i chi wneud, neu i ddysgu mwy am yr arddangosfa drwy ymweld a'i gwefan ar www.bodyworlds.com neu fynd (ar 么l 28 Chwefror) i Korperwelten, Munich, yn yr Almaen, oherwydd yno mae cartref newydd "Body Worlds" am y flwyddyn nesaf.

Efallai fod hwn yn opsiwn gwell na chladdu neu amlosgi, sef bod yn rhan o arddangosfa, yn noeth o bob dilledyn a hyd yn oed eich croen, i filoedd gael eich gweld a dysgu drwy hynny... Beth ddywedodd T.H.Parry Williams "Mae darnau ohonof ar wasgar ar hyd y fro"... wel nid drwy blastineiddio!

W.D.D


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy