成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Lili wen fach Yr hinsawdd yn y newyddion eto
Rhagfyr 2002
Bu'r hinsawdd yn y newyddion unwaith eto dros fisoedd yr haf, gyda sawl dinas hanesyddol cyfandir Ewrop dan fygythiad lIifogydd a chafwyd daeargryn yn y canolbarth a ysgwydodd rannau o Gymru.
Bu cryn ddyfalu ynglyn 芒'r rhesymau am y digwyddiadau yma, ac ar flaen y gad yr oedd twymo byd eang.

Dangosodd archwiliad diweddar gan Coed Cadw (enw gyda llaw sydd yn dyddio'n 么l i gyfreithiau'r canol oesoedd er mwyn disgrifio coedwigoedd a oedd i'w diogelu a'u rheoli) bod arwyddion fod y Gwanwyn yn cyrraedd tipyn bach yn gynt nag yr oedd yn y gorffennol.

Y pryder yw y gall y newidiadau yma fod yn niweidiol nid yn unig i fyd natur yn gyffredinol ond hefyd rhywogaethau brodorol unigol. Gofynwyd i oddeutu 17,000 o wirfoddolwyr i gasglu gwybodaeth yn ystod y Gwanwyn.

Mae'r wybodaeth a ddaeth i law wedi esgor ar ystadegau diddorol. Nid yw dyfodiad y Gwanwyn wedi ei gyfyngu i fis Mawrth a cheir arwyddion ei fod yn cyrraedd lIawer cynharch. Nid yw'r Hydref chwaith yn dod i ben ar ddiwedd mis Hydref a cheir arwyddion bod yr Hydref yn ymestyn.hyd at ddiwedd mis Tachwedd.

Dangoswyd bod tymheredd uwch nag arferol wedi cael cryn effaith ar y Gwanwyn. Ar gyfartaledd roedd patrwm y Gwanwyn tua thair wythnos yn gynt na'r lIynedd, gyda thrychfilod megis pili-pala a'r gacynen i'w gweld yn hedfan llawer cynt yn y flwyddyn. Roedd blodau a choed yn deilio llawer cynt a chaed cnwd o riwbob bron i fis yng ngynt na'r arferol.

Nodweddion o'r Gwanwyn cynnar
Rhai nodweddion amlwg arall o'r Gwanwyn cynnar oedd;Galwad y gwcw -pum niwrnod yn gynharach na llynedd.Coed cyll yn blodeuo -23 niwrnod yn gynharch na llynedd.Lili wen fach yn ymddangos 7 niwrnod yn gynharch na llynedd. Carpedi o Glychau'r Gog -i'w gweld 16 niwrnod yn gynharach na llynedd.Coed Gwern -yn deilio 13 niwrnod yn gynharach na llynedd.Y ddraenen wen -yn deilio 17 niwrnod yn gynharach na llynedd.

Gan fod yna berthynas agos a chlos rhwng holl elfennau byd natur mae'r newidiadau yma nid yn unig yn fygythiad i batrwm y tymhorau ond hefyd i barhad rhai rhywogaethau.

Ond nid dyfodiad cynnar y Gwanwyn sydd yn achos pryder, mae amseriad yr Hydref a'r Gaeaf hefyd a'u sgil heffeithiau. Canlyniad anffodus yr Hydref hwyr i rai yw'r ffaith eu bod yn gorfod torri'r lawnt trwy gydol y flwyddyn!. Ar y llaw arall mae pryderon gwirioneddol ynglyn 芒 iechyd gyda gaeafau mwyn.

Mae rhai'n credu fod y ffaith nad ydym yn cael Gaeafau oer yn gyfrifol am y cynnydd mewn salwch y frest. Y gred yw nad yw'r bacteriwm yn cael ei ladd gan dywydd oer ac o'r herwydd mae'n ffynnu o flwyddyn i flwyddyn.Ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth gadarn fod newidiadau pendant ym mhatrwm yr hinsawdd ac mae rhai gwyddonwyr yn dadlau bod newidiadau llawer mwy wedi digwydd yn y gorffennol a bod byd natur wedi llwyddo i addasu i'r newidiadau yma.

Yn sicr mae storiau am y tywydd yn y newyddion yn ennyn trafodaeth frwd ymysg y cyhoedd ac yn codi damcaniaethau lu. Mae sawl damcaniaeth ar led yn barod ynglyn 芒 thywydd y Gaeaf a'r Nadolig.

Rwyf am ddweud wrthoch nad ydwyf am ddarogan y tywydd eleni. A'r unig gyngor y gallaf ei roi i chi a'r "gwr o Rhyd y Pandy. byddwch yn barod am dywydd gwahanol i dywydd y llynedd!

Dewi Lewis.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy