成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Robin goch Amser i roi cymorth i'r adar
Hydref 2002
Gyda thymor yr haf bron ar ben, mae'n amser delfrydol i roi cymorth i'r adar sydd yn ymweld 芒ch gardd. Erbyn yr adeg yma o'r flwyddyn mae'r tymor magu ar ben ac mae'r adar ifanc ar fin wynebu eu gaeaf cyntaf.
Efallai fod digonedd o fwydydd naturiol megis aeron a phryfed ar gael ond gyda'r tywydd yn oeri, prinhau y mae'r cyflenwad o fwydydd naturiol.

Os am ddechrau bwydo adar yn eich gerddi mae'n ddoeth i ddechrau gwneud hynny tua diwedd mis Medi neu ganol mis Hydref. Bydd dechrau bwydo yn ystod y cyfnod yma yn rhoi digon o amser i'r adar arfer 芒'r amgylchedd a hefyd i arfer 芒 chyflenwad o fwyd cyn bod y tywydd yn oeri.

Bwydo yn rheolaidd
Mae'n bwysig iawn eich bod yn parhau 芒'r bwydo yn rheolaidd ac yn gyson gan fod yr adar yn gallu dod yn ddibynnol ar y cyflenwad ac mae hyn yn eu harbed rhag hedfan yn bell i chwilio am fwyd sydd yn ei dro yn arbed ynni'r adar, yn enwedig yn ystod cyfnod o rew neu eira.

Mae'n bwysig iawn mynd ati i drefnu a chynllunio rhywfaint cyn mentro ar fwydo. Rhaid meddwl yn ofalus ynglyn 芒 safle bwydo, mathau o fwydydd i'w bwydo a faint o fwyd i'w gynnig i'r adar.

Mae dewis safle pwrpasol o bwysigrwydd er mwyn diogelu'r adar a defnyddwyr eraill o'r ardd. Ceisiwch ddewis safle sydd tipyn o bellter oddi wrth lwyni a gwrychoedd er mwyn sicrhau na all cath guddio ynddyn nhw ac ymosod ar yr adar.

Ceisiwch hefyd gadw bwydydd draw o'r ty er mwyn sicrhau glendid yn enwedig lle mae llwybrau. Gellir prynu byrddau adar neu fwydwyr pwrpasol y gellir eu crogi ar ganghennau coed er mwyn sefydlu safle pwrpasol.

Rhaid cofio nad ar fara yn unig y bydd yr adar fyw ac mae'n bwysig cynnig amrywiaeth helaeth o fwydydd er mwyn denu gwahanol rywogaethau.

Gallaf awgrymu eich bod yn darparu cymysgedd o hadau, cnau mwnci, siwet, caws a chrawn cig moch wedi ei goginio gydag afalau.

Denu sawl rhywogaeth
Fe ddylai dewis ac amrywiaeth digon sylfaenol o'r math yma fod yn ddigon i ddenu sawl rhywogaeth i'ch gardd. Cofiwch hefyd geisio gwasgaru'r bwyd ar wahanol lefelau gan fod adar yn tueddu i fwydo mewn cynefinoedd gwahanol.

Peidiwch 芒 chael eich temtio i roi gormod o fwyd allan. Sylwedd ac nid swm sydd yn denu fel arfer. Dim ond digon o fwyd sydd ei angen. Bydd bwydydd sydd yn weddill ar ddiwedd y dydd fel arfer yn denu llygod, felly byddwch yn wyliadwrus.

Nid bwyd yn unig sydd yn bwysig er mwyn helpu'r adar i oroesi'r gaeaf ond dwr hefyd. Gellir gosod dysgl o ddwr neu brynu baddon pwrpasol er mwyn darparu dwr.

Rhaid sicrhau hefyd bod y dwr o wahanol ddyfnder ar gyfer gwahanol rywogaethau. Byddwch yn ofalus nad yw'r dwr yn rhewi ac ni ddylid ar unrhyw gyfrif ychwanegu gwrthrewydd i'r dwr.

Ar gyfer cynlluniau tymor hir gellir mynd ati yn ystod yr Hydref i blannu planhigion a llwyni a fyddai'n denu adar i'ch gardd. Mae dewis eang ar gael o goed sydd yn dwyn ffrwyth yn yr Hydref ac sydd yn ei dro yn gyflenwad o fwyd i'r adar.

Unwaith eto mae'n syniad da i geisio cael cymaint o amrywiaeth a phosib er mwyn ceisio denu cymaint o rywogaethau 芒 phosib.

Denu'r adar i'r ardd
Gyda'r tymor garddio ar ben hefyd fe ellir mynd ati i greu twmpath gwrtaith yn eich gardd. Fe fydd y twmpath nid yn unig yn darparu deunydd organig i'ch gardd ond fe fydd hefyd yn lloches i nifer helaeth o bryfed a thrychfilod a fydd yn fwyd i'r adar.

I'r rhai mwyaf brwdfrydig yn eich plith fe ellir mynd ati i gyfri a nodi yr holl adar sydd yn ymweld 芒'ch gardd.

Dros gyfnod o amser fe all y cofnodi gynhyrchu rhestrau diddorol sydd nid yn unig yn nodi rhif ac amrywiaeth yr adar ond hefyd yr amrywiaeth sydd yn yr ymwelwyr o dymor i dymor.

Felly gyda'r haf bron 芒 diflannu a'r Hydref ar y trothwy beth am fynd ati i roi cymorth i'r adar?

Erthygl gan Dewi Lewis



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy