成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Steffan Rhys Thomas Cyfarfod Steffan Rhys Thomas
Ionawr 2006
Enillodd Steffan Rhys Thomas o Graig Cefn Parc ei gap glas golau wrth gynrychioli Caergrawnt yn y g锚m fawr yn erbyn Rhydychen yn Twickenham ar Ragfyr 6, 2005.
Mae Steffan yn fab i Tudor a Marion Thomas, Heol Clydach, Craig Cefn Parc, ac mae'r holl ardal yn ymfalch茂o yn llwyddiant Steffan gan iddo ennill ei gap glas golau wrth gynrychioli Caergrawnt yn y g锚m fawr yn erbyn Rhydychen yn Twickenham ar Ragfyr 6. I nodi'r achlysur arbennig iawn aeth un o ohebwyr y Llais i gwrdd 芒 Steffan er mwyn ei longyfarch ac i gael tipyn o'r hanes ganddo.

Pryd ddechreuaist ti gymryd diddordeb mewn rygbi?
Rwyf wastod wedi cael diddordeb yn rygbi, ond fe ddechreuais chwarae gynta' yn ystod fy mlwyddyn ola' yn Ysgol Lon Las. Yr hyn rwy'n cofio am yr amser hynny yw chwarae i d卯m yr ysgol yn erbyn ysgolion lleol ac yng nghystadleuthau rygbi yr Urdd, ac er taw canolwr yw'r safle wy'n chwarae heddi, yr adeg 'na doedd safle ddim yn bwysig. Ar 么l i'r chw卯b ganu, cwrso ar 么l y b锚l amdani, gyda Mr Alun Jones yr athro yn gweiddi pob math o bethe o ochr y cae.

Beth wyt ti'n ei gofio am dy ddyddie rygbi yn Ysgol Gyfun G诺yr?
Rwy'n cofio i mi gynrychioli'r ysgol ar bob lefel tra'n ddisgybl yno. Mr Aled Tinnuchie oedd yn gyfrifol am y timoedd rygbi ym mlynyddoedd 7 - 11. Tra ym mlwyddyn 10, roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn aelod o'r t卯m oedd wedi ennill pencampwriaeth Ysgolion Abertawe. Trechon ni Ysgol Gyfun Gellifedw yn y rownd derfynol.

Yn ystod y cyfnod yma hefyd, fe ddechreuais chwarae i d卯m iau Casllwchwr, o dan hyfforddiant Mr Lyndon Bowen, oherwydd bod gennyf nifer o ffrindiau o'r pen yna oedd yn gysylltiedig 芒'r clwb. Wedyn ar 么l cyrraedd y chweched gyda Mr Dai Long yn hyfforddi, fe wnaeth t卯m yr ysgol yn dda iawn trwy gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth timoedd 7 bob ochr Cymru.

Yn ychwanegol fe gyrhaeddodd y t卯m rownd cyn cyn derfynol yn y 'Rosslyn Park Invitation Sevens". Roedd e'n dipyn o anrhydedd cael gwahodd卢iad i gymryd rhan heb s么n am wneud mor dda yn y gystadleuaeth gan ystyried taw Millfield enillodd y cwpan y flwyddyn honno.

A chyrraedd Caergrawnt, beth wedyn?
Ar 么l astudio Mathemateg, Mathemateg pellach, Ffiseg a Chemeg yn fy nghwrs Lefel 'A' ces i'n nerbyn i astudio peirianneg yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt. Roedd e'n dipyn o naid o'r Graig i Gaergrawnt ac fe gymerodd e amser i mi ymgartrefu yno. Ond eto roedd chwarae rygbi yn help i mi setlo a gwneud ffrindiau newydd. Yn ystod y tymor cyntaf yno ces fy newis i chwarae i d卯m Caergrawnt o dan un ar hugain, ac yna yn yr ail dymor ces fy ystyried ar gyfer t卯m cyntaf Caergrawnt.

Y g锚m gyntaf ges i oedd yn erbyn Crawshays Welsh XV, ac ers hynny rwy wedi chwarae tua 25 o gemau i'r t卯m cyntaf, nifer ohonynt erbyn hyn yn erbyn timoedd fel Caerl欧r (Leicester) a'r Wasps, Harlequins a Leinster.

Rwyf hefyd wedi mynd ar dair taith gyda'r t卯m cyntaf i Toulouse, Seville a Siapan, ac roeddwn wedi cynrychioli'r Coleg yn y g锚m Varsity o dan un ar hugain yn Twickenham pan guron ni Rhydychen 20 i 17 o bwyntiau. Roedd hynny yn ystod fy ail mlwyddyn coleg.

Beth am y g锚m fawr ar Ragfyr 6, 2005?
Ydy mae'n dipyn o g锚m ac mae disgwyl mawr amdani, ac yn gysylltiedig 芒'r achlysur mae pob math o ddefodau a thraddodiadau yn cael eu cynnal. Er enghraifft ar 么l i'r capten gael gwybod pwy sy'n chwarae a phwy sydd ar y fainc a phwy sy'n cael ei adael allan yn gyfan gwbl, mae'n mynd ar ei feic o gwmpas aelodau'r garfan i roi'r newyddion priodol iddynt. Ces i wybod fy mod i wedi cyrraedd y fainc o leiaf, ac roedd hynny yn ei hunan yn ddigon o anrhydedd, ond ychydig yn siomedig ar yr un pryd am nad oeddwn wedi cael fy newis i chwarae.

Ond gwireddwyd breuddwyd, ar 么l rhyw 5 munud mewn i'r g锚m fe gafodd Ian Mc Inroy niwed, ac mewn wincad ro'n i ar y cae. Yn ddoniol iawn nawr, ond ddim ar y pryd, ar 么l pum munud o chwarae o'n i bant o'r cae wedi cael fy nharo yn anymwybodol. Ond diolch i'r drefn des rown, ac ro'n i n么l ar y cae ar 么l ychydig funudau a phara wedyn hyd y diwedd. A Chaergrawnt yn ennill wrth gwrs.

Diwedd bendigedig i achlysur cwbl arbennig. Roedd hi'n awr wefreiddiol yn fy hanes i ac yn brofiad cwbl unigryw. Diolch am y cyfle gael rhannu'r wefr honno gyda darllenwyr y Llais.

Bellach, bydd enw Steffan ymhlith yr anfarwolion hynny sydd 芒'u henwau wedi eu naddu ar y bwrdd, sy'n cael lle parchus iawn yng nghlwb rygbi Caergrawnt. Caiff hefyd ei gyflwyno gyda'i gap glas golau, bleser, tei a sgarff i nodi'r anrhydedd oedd wedi dod i'w rhan wrth iddo gael ei ddewis i gynrychioli Caergrawnt, ar achlysur sydd gyda'r pwysicaf yng nghalendar y byd rygbi.

Nid yw'n syndod bod Steffan wedi gwneud enw i'w hunan ym myd y b锚l hir gron, oherwydd roedd ei dad Tudor yn aelod o d卯m rygbi buddugol Prifysgol Abertawe, a enillodd bencampwriaeth timau rygbi Prifysgolion Cymru a Lloegr ym 1965, a hefyd iddo ennill cap wrth gynrychioli Prifysgolion Cymru yn ddiweddarach. Bellach roedd Marion ei fam yn chwaraeydd hoci o fri yn ystod ei chyfnod fel disgybl yn Ysgol Ramadeg Pontardawe. Llongyfarchiadau mawr i Steffan ac am berfformiad clodwiw yn y g锚m a gyfrannodd gymaint at fuddugoliaeth ei d卯m.

  • Sgwrs gyda Steffan Thomas ym mhapur bro Llais - Ionawr 2007


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy