成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Aderyn Cornel Natur - Hiraeth am adre'
Hydref 2004
Yn un o'i ganeuon, canodd Bryn F么n am "Strydoedd Aberstalwm". Felly y teimlais innau yn ystod gwyliau'r haf eleni.

Wrth i mi baratoi'r llith yma 'rwy'n eistedd mewn gwersyll gwyliau yng Nghatalonia, rhyw hanner can milltir i'r gogledd o Barcelona. 'Rydym tua hanner ffordd trwy'r gwyliau a'r tywydd wedi bod yn dwym ac heulog. Wrth i mi ysgrifennu (am 8 yr hwyr) mae s诺n taradr a chlochdar adar y to i'w glywed ymhobman o'm cwmpas.

Fel' na mae hi wedi bod bob diwrnod ers i ni gyrraedd y gwersyll. Mae clochdar yr adar yn dechrau tua chwech o'r gloch y bore ac yn parhau trwy gydol y dydd hyd at 8.30 yr hwyr. Mae'n syndod, yn yr amser byr yr ydym wedi bod yma sut mae rhywun yn cynefino'i hun 芒 s诺n natur. Clywed clebran a tharadr yr adar a wnaeth i mi feddwl mai dyna sut roedd pethau erstalwm gartref.

'Roedd s诺n adar y to yn ran annatod o fywyd holl bentrefi a threfi Cymru tua deng mlynedd ar hugain yn 么l ond nid dyna'r stori erbyn heddiw. Bu cryn ostyngiad yn eu niferoedd yn enwedig yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf, Llygredd a chynllunio trefol ynghyd ag adeiladwaith tai modern sydd yn cael y bai. Mae'n debyg nad yw'r bywyd modern yn cyd-fynd 芒 bywyd aderyn y to. Enw Lladin yr aderyn yw passer domesticus sydd yn adlewyrchu ei hoffter o fyw yn agos at ddyn. Erbyn heddiw nid yw adeiladau yn cynnig yr un cynefin iddo gydag adeiladau yn cael eu cynllunio a'u hadeiladu heb dyllau 芒 chilfachau addas ar gyfer nythu a chlwydo.

Ond nid felly y mae hi yma yn Pals. Mae ar y safle gwersyll le i gannoedd o garafannau a phebyll a daw ymwelwyr yma o bob rhan o Ewrop a thu hwnt. Gyda'r holl fwrlwm dynol a digonedd o fwyd mae'n ymddangos fod aderyn y to yn ffynnu yma ac yn hapus ei fyd. Yn wir mae rhai o'r adar wedi manteisio ar y carafannau gan adeiladu eu nythod o dan do rhai ohonynt. Er nad yw'r adar yn ymddangos mor ddof 芒 rhai o'n hadar brodorol yng Nghymru fe ddaw rhai ohonynt i elwa ar y briwsion bwyd yn agos i'r garafan. Mae rhai cannoedd o'r adar yma o tua hanner awr wedi chwech hyd at hanner awr wedi wyth yr hwyr mae'r adar yn dychwelyd i'w clwydfan.

Yr hyn maent yn ei wneud yw dilyn rhes o blanhigion bambw sydd yn nodi ffin y gwersyll ac sydd gyda llaw gyferbyn 芒'n carafan. Yn ystod y cyfnod o ddwy awr gellir cyfri rhai cannoedd o adar yn hedfan mewn heidiau bach o tua ugain o adar ar y tro. Anelu maent at blanhigfa o goed p卯n sydd tua dwy filltir i ffwrdd ar yr arfordir. Dyma lle maent yn treulio'r nos. Un noson tra ar y traeth bu^m yn gwylio'r adar cyn iddynt ddistewi am y nos. Si诺r o fod bod tua thair mil ohonynt yn un cwmwl swnllyd cyn iddynt blymio i'r coed pob un i'w priod le am y noson.

Aderyn arall sydd i'w glywed yma gyda'r hwyr yw Gwybedog y Gwenyn (Bee-eater) aderyn hynod o liwgar sydd yn gweddu i'r dim i'r hinsawdd heulog. Dim ond ar achlysuron prin mae'r aderyn hwn i'w weld ym Mhrydain ond yma mae tua hanner cant ohonynt yn dod i lawr i'r coed i glwydo'r nos. Mae chwiban yr aderyn yn fy atgoffa o ffliwt y gylfinir y gri hiraethus honno sydd i'w chlywed wedi i'r haul fynd i'w fedd.

Yn ystod yr haf pan oeddwn yn hogyn ym Mhorthmadog 'roedd cri'r gylfinir i'w glywed drwy'r ffenestri agored yn ystod y nos. Arferai p芒r neu ddau nythu yn yr ardal ond nid felly mwyach. Dyma aderyn arall sydd wedi dioddef dan law dyn yn enw datblygiad.Dyna ni ddau aderyn yng Nghatalonia sydd wedi codi hiraeth ac sydd wedi gwneud i mi feddwl mai fel 'na roedd hi erstalwm.

Dewi Lewis.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy