成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Tomos a Rosa Cornel Natur: Eira
Mawrth 2009
Dewi Lewis sy'n cofio rhai o aeafau mwyaf llwm Cwm Tawe ar hyd y blynyddoedd, yng nghanol yr eira mawr eleni.

Heb os nac oni bai, eira fu prif nodwedd y tywydd ar ddiwedd mis Ionawr a dechrau mis Chwefror. Prin bod yr un ardal ym Mhrydain gyfan wedi osgoi ei effeithiau. Dyma yn 么l y proffwydi dywydd oedd yr eira gwaethaf i daro'r wlad ers deunaw mlynedd. Cafodd ardal Llundain ei heffeithio yn wael a bu plant ardal y Llais hefyd yn lwcus i gael dyddiau ychwanegol o 'wyliau'. Mae'n debyg mai gwasgedd uchel wedi ei leoli uwchben Scandinafia oedd yn gyfrifol am y tywydd oer - a diolch byth amdano, meddai ambell un. Sawl gwaith y clywyd unigolion yn dweud bod angen gaeaf caled i ladd y 'germs'. O'r diwedd, fe gafwyd gaeaf oer. Wrth gwrs, nid felly yr oedd hi ers talwm. Ar un adeg, roedd hi'n arferol cael gaeaf caled (neu normal) yn flynyddol. Dyma felly edrych yn 么l ar rai o'r gaeafau hynny.

Credir mai'r gaeaf oeraf oedd hwnnw ym 1684. Cofnododd John Evelyn yn ei ddyddiadur ei fod wedi gallu teithio ar draws yr afon Tafwys gyda cheffyl a throl. Hyd at ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd "Ffeiriau Rhew" yn cael eu cynnal yn flynyddol ar y Tafwys wrth iddi rewi. Cynhaliwyd y "Ffair Rew" olaf ym 1814 pryd tywyswyd eliffant ar hyd wyneb yr afon rhewllyd. Beth fyddai Iechyd a Diogelwch yn ei wneud o'r fath sefyllfa heddiw?

Ym 1812, ganed Charles Dickens. Erbyn iddo ddathlu ei nawfed penblwydd, roedd wedi profi chwech Nadolig gwyn. Dyma yn 么l rhai, pam bod eira mor amlwg yn ei nofelau Oliver Twist a Christmas Carol.

Digwyddodd y gwymp eira waethaf ym Mhrydain yn Lewes, Dwyrain Sussex ym 1836. Yn dilyn 'storm eira' bu i drwch gwympo ar res o dai gan ladd wyth o bobl. Erbyn heddiw, ceir tafarn ar y safle o'r enw Snowdrop Inn i gofio'r digwyddiad.

Ym 1947 y disgynodd yr eira mwyaf yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'n debyg bod eira wedi disgyn ymhob man ym Mhrydain bob diwrnod rhwng Ionawr 22 a Mawrth 17. Y gaeaf oeraf oedd 1963. Mae'n siwr bod gan sawl un o'r darllenwyr atgofion am y ddau aeaf yma. Beth am anfon gair a rhannu eich atgofion.

Ym Mehefin 1975, gohiriwyd g锚m griced yn Buxton pan ddisgynodd modfedd o eira ar y llain. Ym 1966, mae gennyf gof am gawod eira trwm pan aned fy mrawd ar Fai 21ain.

Yn y Cairngorms yn yr Alban y ceir yr eira sydd yn parhau hiraf ym Mhrydain. Ceir dau lecyn a elwir yn Sphinx a'r Pinnacles. Ar un adeg, roeddynt yn parhau gydol y flwyddyn ond yn y blynyddoedd diwethaf, maent yn meirioli erbyn yr Hydref.

Tybed a fydd rhagor o eira neu ai dyma'r cyfan am ddeunaw mlynedd arall?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy