Yma mae'n cyflwyno'i hun i ddarllenwyr Llais ac yn s么n am ei argraffiadau cynnar yn ei swydd newydd, a'r hyn y mae'n gobeithio'i gyflawni.Profiad cyffrous a chynhyrfus oedd dechrau'r swydd newydd a symud i fyw o'r dref i'r wlad. Gadael teulu a ffrindiau yng nghymoedd y de a mynd i aros gyda rhieni fy mhartner ym Maldwyn. Y plant yn newid ysgol, a Dad yn newid swyddfa.
Mae dechrau swydd newydd yn debyg i fynd yn 么l i'ch diwrnod cyntaf yn yr ysgol - dy'ch chi ddim yn gwybod pwy yw pwy, ac yn dibynnu ar eich ffrindiau newydd i ddangos y llefydd pwysig i chi, fel y peiriant coffi a'r tŷ^ bach agosaf.
Roedd dechrau gwaith gyda Chyngor Sir Powys yn arbennig o ryfedd oherwydd yr iaith newydd yr oedd yn rhaid ei dysgu. Dwi ddim yn s么n am acen siaradwyr y canolbarth, ond yn hytrach y 'jargon' sy'n gyffredin, mae'n debyg, i bob cyngor sir. Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi dechrau dod yn fwyfwy cyfarwydd a chynlluniau rheoli perfformiad, polis茂au 'traws-adrannol' a dulliau o ryngwynebu 芒'r cyhoedd.
Os yw'r 'jargon' yn niwlog, rwy'n gweld fy ngwaith i yn ddigon clir. Rwyf am sicrhau fod y cyngor yn darparu mwy a mwy o'i wasanaethau yn ddwyieithog, a bod mwy a mwy o Gymry Cymraeg y sir yn ei defnyddio.
Mae ein Cynllun Iaith ni yn ymrwymo'r cyngor i barhau i ddatblygu gwasanaeth cyson ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Mae na sawl ffordd y gallwch chi Gymry Cymraeg wneud defnydd o'r o'r gwasanaethau hynny trwy lenwi ffurflenni yn Gymraeg, trwy lythyru / e-bostio yn Gymraeg a thrwy ofyn am siaradwr Cymraeg wrth ffonio swyddfeydd y cyngor.
Ar hyn o bryd, mae yna adrannau o fewn y cyngor lle nad oes yna ddigon o staff sy'n siarad Cymraeg. Mae ymdrechion ar y gweill i newid hyn trwy wersi yn y gweithle.
Ond hefyd, mae'r cyngor yn awyddus i benodi mwy o Gymry Cymraeg. Byddai hynny'n ein helpu ni i ddatblygu ein gwasanaethau a chynnig rhagor trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae sgiliau ieithyddol yn werthfawr iawn, ac mae yna gyfle i siaradwyr Cymraeg gael gyrfa gyda'r cyngor, gweithio'n ddwyieithog a helpu gwasanaethu'r 21% o bobl y sir sydd yn siaradwyr Cymraeg.
Yn ogystal 芒 dechrau swydd newydd rydw i wedi dechrau ar fath o fywyd newydd yma ym Mhowys. Ers symud o Bontypridd i Lanbrynmair rwyf wedi troi'n gymudwr go iawn - yn fy swydd flaenorol, ugain munud oedd y daith i ystafell newyddion 成人快手 Cymru yng Nghaerdydd. Nawr rwy'n gyrru am awr a newid tonfedd radio dwsin o weithiau trwy Faldwyn a Maesyfed cyn cyrraedd Llandrindod.
Fe benderfynais newid gyrfa er mwyn cael her newydd - fe fydd hi'n her yn sicr yn y swydd newydd. Ond, ar 么l cael croeso cynnes gan staff uned Gymraeg y sir, rwy'n mwynhau ac yn edrych ymlaen at y blynyddoedd sydd i ddod.
Nod y sir yw parhau i ddatblygu gwasanaeth Cymraeg o ansawdd da i'r cyhoedd - ond os nad ydych yn fodlon gydag unrhyw agwedd o'n darpariaeth Gymraeg mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni. Dyma fy manylion cyswllt i- craig.duggan@powvs.gov.uk , a'r rhif ffon 01597 826467.
Craig Duggan