Mae Cymru'n genedl Fasnach Deg gynta'n y byd! Dyna i chi gamp! Camp, ond sialens hefyd. Nid cael statws Masnach Deg yw'r gamp, ond parhau i gadw hwnnw.
Mae baner Masnach Deg ar daith ar hyn o bryd o amgylch Cymru. Fe ddaeth i Glydach ar Sul, Ionawr 25. Cafwyd myfyrdod am 9.30 gan Annette Hughes ar waith a phwysigrwydd Masnach Deg.
Cafodd ei harddangos yn yr oedfa ac yn dilyn yr oedfa, cafwyd cwpanaid o de a stondin Masnach Deg yn y festri.
Yn y prynhawn, roedd y faner gydag aelodau'r eglwys Wesleaidd yn eu hoedfa nhw ac wedyn aethpwyd 芒 hi i Hafan Glyd i'r trigolion yno gael ei gweld.
Trosglwyddir y faner o Gyngor Dinas a Sir Abertawe i Sir Nedd Port Talbot ddiwedd Ionawr.
Cynhelir Pythefnos Masnach Deg eleni rhwng Chwefror 23 a Mawrth 8fed.
 |