成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Dai Jones Mynyddoedd Cwm Tawe trwy'r tymhorau
Mehefin 2006
Mynyddoedd Cwm Tawe fydd yn denu Dai Jones mewn cyfres newydd o Cefn Gwlad sy'n dechrau nos Lun 19 Mehefin, 2006 ar S4C.
"Mae gennym ni bedair rhaglen arbennig o Fynydd y Gwair a Mynydd y Baran, yn mynd 芒 ni drwy'r tymhorau," esbonia Dai. "A dyna i chi le arbennig. Mae'n hyfryd yn yr haf ond yn enbyd pan ddaw caledi'r gaeaf."

Mae llawer o bobl o'r tu allan i'r fro yn ystyried yr ardal yn un ddiwydiannol. Ond meddai Dai fod traddodiad hir o amaethu yng Nghwm Tawe a'r mynyddoedd cyfagos.

"Mae 'na bobl ddiddorol tu hwnt yn byw ar y mynyddoedd yma. Pobl y pyllau glo oedden nhw ers talwm ond yn y gorffennol byddent hefyd yn gwneud bywoliaeth dda o werthu llysiau cartref i farchnadoedd lleol. Ond gyda thyfiant yr archfarchnad, mae'r hen fywoliaeth wedi marw. Serch hynny, mae'r gymuned yr un mor glos ag yr oedd hi erioed."

Pennod 1 - Y Gaeaf
Yn y bennod gyntaf, bydd Dai yn ymuno 芒'r amaethwyr yn ystod y gaeaf. Mae'r tywydd yn arw, ond mae ffermwyr yr ardal yn brysur yn porthi eu hanifeiliaid. Bydd Dai yn ymweld 芒 fferm Jethro ac Euryl Harries lle mae'r gwartheg yn cael trin eu traed. Er y prysurdeb, caiff sgwrs 芒 chymeriadau'r ardal gan roi help llaw i ambell un gyda'r gwaith, megis Nancy Williams, Fferm Maestirmawr.

Bydd e hefyd yn ymweld 芒 theulu Llwyngwenno, Felindre i weld y stoc ac yn cael sgwrs gydag Arwel Jones am ei waith contractio, a'i ddawn i addasu peiriannau i wneud y gwaith yn haws.

Pennod 2 - Y Gwanwyn
Mae ffermwyr yr ardal yn brysur gyda thymor yr wyna ac mae'r gwaith o fwydo'r gwartheg a'r defaid yn parhau. Yn ogystal 芒 chyfarfod ffermwyr yr ardal, bydd Dai yn siarad 芒'r Parchedig Eirion Phillips gan gael hanes un o gapeli hyna'r fro, Capel Gellionnen. Bydd Dai hefyd yn ymweld ag Arwel Williams, Cefn Myddfai, Felindre, sydd yn meithrin ac yn gwerthu blodau a phlanhigion o bob math gyda chymorth ei fam Nancy Maestirmawr. Yn ogystal, bydd Dai yn ymuno 芒phlant Ysgol Gynradd Felindre, wrth iddynt ddathlu Dydd G诺l Dewi.

Pennod 3 - Yr Haf
Mae'r ffermwyr yn brysur gyda'r silwair, ac mae pawb ar fynd. Bydd Dai yn cyfarfod nifer o gymeriadau gan gynnwys y brodyr John, Wil a Dai Williams, sydd wedi teithio ar hyd a lled de Cymru dros y blynyddoedd, yn cneifio defaid, gyda John, yn parhau i gneifio er ei fod bellach yn ei saithdegau. Bydd Dai yn ymuno ag aelodau a chyfeillion Capel y Baran, wrth iddynt ddathlu Daucanmlwyddiant y capel, gyda gwasanaeth arbennig. Mae'r capel dan ei sang gyda thorf fawr y tu allan hefyd, yn gwrando ar y gwasanaeth ar ddiwrnod hyfryd o haf.

Pennod 4 - Yr Hydref
Mae'r anifeiliaid yn edrych ar eu gorau wedi'r haf ac mae'n dymor mawr yr arwerthiannau. Bydd Dai yn ymuno 芒 rhai o bobl yr ardal ym Mart Castell-nedd ac yn cael sgwrs gydag ambell gymeriad. Mae'r tywydd yn dechrau troi'n aeafol, ac mae'n rhaid dechrau porthi'r anifeiliaid unwaith eto. Bydd Dai yn cadw cwmni i Alun a Wendy Jacob, wrth iddynt ymweld 芒 gyr o'u gwartheg ifanc sydd wedi bod yn pori dros yr haf yn ardal Llandeilo, ac sydd ar fin dychwelyd yn 么l i fferm Twll y Gwyddil, dros y gaeaf.

Meddai Dai, "Er gwaetha'r holl ddarogan gan y proffwydi nad oes dyfodol yn y byd amaethyddol, mae Alun a Wendy Twll y Gwyddil, fel llawer eraill o'r ardal, wedi cau dannedd a mynd amdani go iawn, yn gweithio'n galed bob dydd. Mae'r bobl yma wedi'u geni a'u magu ar y mynyddoedd a gyda phrofiad blynyddoedd, maent yn deall y tywydd a'r tirlun i'r dim. Rhaid cofio mai'r bywyd gwledig a chefn gwlad mewn ardaloedd fel Mynyddoedd y Gwair a'r Baran sydd wrth wraidd rhyddid y gymdeithas yng Nghymru."

Cefn Gwlad: Y Pedwar Tymor ar Fynydd y Gwair a'r Baran
Nos Lun, 19 Mehefin, 8.25pm, S4C. Hefyd, nos Sadwrn, 24 Mehefin.
Cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy