Yn yr arwerthiant celf blynyddol a gynhaliwyd yng ngwesty Dewi Sant, Caerdydd ddiwedd Medi gwerthwyd darluniau gan arlunwyr cyfoes Cymru er budd Shelter Cymru. Ymhlith y gwaith celf roedd darlun 'Y Colier' gan Meic Jones, Pontardawe. Y prynwyr oedd neb llai, na'r Parchedig Barry Morgan, Archesgob Cymru, sy'n edmygwr mawr o'r arlunydd. Bydd y darlun yn cael lle parchus yn ei 'balas' yng Nghaerdydd.
 |