成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Darren James Cydnabod Campau Darren
Ebrill 2006
Mae Darren James o Graig Cefn Parc ar sail yr anrhydeddau a'r cyfrifoldebau sylweddol sydd wedi dod i'w ran yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, wedi creu enw da i'w hunan yn y byd peirianwaith sifil.
Rydym fel cymuned ar y Graig yn hynod falch ohono, a dyma ychydig o'i hanes.

Mab yw i Vincent ac Audrey ac yn frawd i Miranda. Mae'n briod 芒 Bethan ac mae ganddi nhw ddau o blant hyfryd sef Rhiannon ac Angharad. Cafodd Darren ei addysgu ynYs卢gol Babanod Clydach, Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe, ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Yna i Brifysgol Surrey yn Guildford i astudio peirianwaith sifil.

Tra'n astudio yno, ymunodd 芒 Chwmni Costain ym 1988 am ei flwyddyn hyfforddiant, a chafodd brofiad gwerthfawr yn gweithio ar y ffordd groesi newydd yng Nghonwy ar yr A55. Golyga hyn gosod chwech o diwbiau enfawr, oedd yn 118 metr mewn hyd ac yn pwyso 33,000 tunnell yr un o dan Afon Conwy i ffurfio dwy l么n i'r traffig. Roedd yn brosiect unigryw a'r cyntaf o'i fath ym Mhrydain.

O ganlyniad i'r profiad hwnnw a thrylwyredd ei adroddiad am y prosiect, teilyngwyd i Darren The ICE Institution Medal yn 1990. Gan gymaint o argraff wnaeth Darren ar Costain dychwelodd i'r brifysgol am ei flwyddyn olaf gyda nawdd oddi wrth y cwmni. Yn haeddiannol iawn graddiodd Darren ym 1990 gyda gradd anrhydedd dda iawn o Adran Beirianwaith Sifil Prifysgol Surrey. Ers hynny, mae Darren wedi cael profiad o weithio ar rai o brif brosiectau peirianwaith sifil yma yng Nghymru, a thu draw yn Lloegr.

Yn ystod y nawdegau cynnar, roedd Darren wedi ei gadw'n brysur iawn wrth weithio ar ffordd gyswllt yr M4 rhwng Earlswood a L么n Las ger Abertawe. Wedyn bu'n ymwneud 芒'r heolydd o gwmpas ail bont Hafren hyd 1993, pan gafodd Darren ei secondio i gwmni Cass Hayward yng Nghasgwent. Yna gafodd hyfforddiant gwerthfawr yn y gwahanol agweddau sy'n ymwneud ag adeiladu pontydd. Roedd y profiad yma wedi bod o fudd mawr i Darren, oherwydd yn fuan wedyn roedd yn rhan o d卯m o reolwyr oedd yn gyfrifol am atgyfnerthu traphont (viaduct) Avonmouth. Tra'n gweithio ar y prosiect hwn, llwyddodd yn ei arholiadau proffesiynol MICE, i'w gydnabod fel peiriannydd siartredig ym 1996.

Roedd y flwyddyn hon yn un nodedig i Darren hefyd, gan iddo gael ei anrhydeddu gyda'r I.C.E. James Renne Medal, am ei waith rhagorol yn ei faes arbenigol fel peiriannydd sifil o dan 35 oed. Dyma un o'r anrhydeddau mwyaf clodfawr ac urddasol yn y maes peirianwaith sifil, a'r flwyddyn honno pan ddyfarnwyd y medal i Darren, cafodd ei ddewis allan o fil o ymgeiswyr teilwng eraill.

Ar gyfer yr anrhydedd, roedd yn rhaid i Darren baratoi papur ar y cynllun i atgyfnerthu traphont Avonmoutjh, sy'n rhan hefyd o'r datblygiad i ledaenu'r M5 rhwng cyffyrdd 18 a 19 ger Bryste. Yn ychwanegol i hyn, gorfu iddo hefyd wneud cyflwyniad ar lafar am y prosiect, ac ateb llu o gwestiynau. Diddorol yw nodi fod Darren wedi cael ei wahodd i fod yn un o'r beirniaid, er mwyn dewis ymgeisydd teilwng ar gyfer 2006.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn nid yw ffynhonnell anrhydeddau wedi sychu i Darren. Yn y flwyddyn 2003, derbyniodd Darren ar ran Cwmni Costain wobr arbennig iawn sef "The Considerate Construction Scheme Gold Award", tra'n gweithio ar y gwelliannau i gyffordd A34/M4 yn Chieveley. Dyfarnwyd y wobr i'r cwmni am iddynt fod mor ystyriol o'r gymuned leol gan gynnwys ei thrigolion, y cyhoedd yn gyffredinol a hefyd yr amgylchfyd.

Ar hyn o bryd mae Darren yn gweithio ar Ffordd Liniaru'r Porth yn Rhondda, ac yn sicr mae'r datblygiad hwn mewn dwylo medrus gyda Darren wrth y llyw. Wrth ymgymryd 芒'r prosiect hwn, mae Cwmni Costain yn 么l ei arfer yn gweithio'n agos iawn 芒'r gymuned leol. Er mwyn hybu'r berthynas honno, trefnwyd cyngerdd yn y Porth yng nghwmni Kathryn Jenkins, Castell Nedd. Er taw hi oedd y prif westai, seren y noson oedd Rhiannon, merch hynaf Darren a Bethan a chwaer Angharad, wrth iddi gael ei galw mlaen i gyflwyno tusw o flodau i'r gantores enwog.

Mewn amser byr mae Darren wedi dod 芒 chlod i'w hunan ac i Gwmni Costain, sydd wedi elwa'n sylweddol o'i ddoniau amlwg a'i wasanaeth iddynt. Nid yw'n syndod felly i Costain ei ddyrchafu i fod yn Gyfarwyddwr Adran Priffyrdd Cenedlaethol y cwmni yn ddiweddar.

Yn naturiol, mae Darren yn cael boddhad mawr o'i waith. Ceisia ymlacio wrth dreulio amser gyda'i deulu hyfryd, ac ar draws y cyfan oll, mae e' wedi codi llawer o arian ar gyfer achosion da wrth iddo gymryd rhan yn marathonau tebyg i'r un yn Llundain, a her y tri phigyn sef Yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis yng nghwmni ei frawd yng nghyfraith Gwyn, g诺r Miranda.

Does neb ag unrhyw hawl ar lwyddiant. Mae amodau i lwyddiant, sef gwaith caled ac ymroddiad er enghraifft, nodweddion amlwg iawn ym mherson Darren a hefyd cefnogaeth anfesuradwy ei anwyliaid. Darren fyddai'r cyntaf i gydnabod ei ddyled mawr i'w deulu a'i ffrindiau am bob cefnogaeth ar hyd ei yrfa. Cofiai yn arbennig iawn cyngor datcu Rhydygwin iddo flynyddoedd n么l:
"Aim high, there is plenty of room". Yn sicr mae Darren wedi cyrraedd y brig ac wedi ennill ei blwy ymhlith peirianwyr mwyaf dawnus ei ddydd.

Gareth Hopkin


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy