 |
 |
 |
Ymweld 芒 Gwlad Pwyl Gorffennaf 2002 Yn ystod gwyliau'r haf bydd tri aelod o chweched dosbarth Ysgol Gyfun Ystalyfera yn teithio gydag Urdd Gobaith Cymru i gartref plant yn nhref Legnicia yng ngwlad Pwyl. |
 |
 |
 |
Bwriad yr ymweliad yw cymdeithasu, gwneud ffrindiau a gwneud ychydig o waith i wella safon byw y plant.
Bydd Cerith Jones, Rhys Owen a Martyn Williams yn gadael De Cymru ac yn cychwyn ar y daith hir i Wlad Pwyl ar Orffennaf 19.
Bydd saith disgybl arall o Ysgolion Rhyd y Waun, Plasmawr a Gwynllyw yn mynd gyda nhw ar y daith.
Codi arian Ers wythnosau bellach mae'r disgyblion wedi bod wrthi'n codi arian er mwyn gwneud gwaith angenrheidiol yn y cartref sydd wedi ei leoli yn un o rannau tlotaf y wlad.
Maen nhw'n derbyn gwerth deg punt y mis gan y llywodraeth i ddilladu, bwydo ac addysgu'r plant, felly mae'r arian a gesglir yma yng Nghymru yn hollol bwysig.
Gyda'r arian a gasglwyd llynedd llwyddwyd i brynu llawer o nwyddau angenrheidiol i'r cartref, gan gynnwys cyfrifiaduron, peiriant ffacs a llungop茂wr.
Llwyddwyd i drawsnewid un ystafell yn gegin newydd er mwyn i'r bobol ifanc yn y cartref ddysgu sut i edrych ar 么l eu hunain pan ddaw'r amser iddyn nhw adael y cartref a chwilio am waith.
 |
 |
 |
 |
|

|