成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Dadlau dros enw'r Rhos
Tachwedd 2002
Rhaid croesawu'r arwydd newydd sydd wedi ei osod ar gyrion y Rhos a da o beth oedd sylwi fod yr enw wedi'i sillafu'n gywir.
Ond gwae ni, bu rhai o'n papurau Saesneg lleol, eto fyth, yn ceisio codi hen fwganod ynglyn 芒 sawl " n" sydd yn Rhosllannerchrugog ac yn holi pobol ar hyd strydoedd y pentre'.

Ers blynyddoedd a blynyddoedd bellach, mae Pwyllgor laith a Llenyddiaeth Bwrdd y Gwybodau Celtaidd wedi bod yn cynghori'r swyddogion sydd yn paratoi Mapiau O.S. ar ffurfiau cywir enwau lleoedd yng Nghymru.

Gwrthod cyngor
Ond er hyn ni ddilynodd pobol yr O.S. gyngor penaethiaid Adrannau Cymraeg ein Prifysgolion ac arbenigwyr eraill yn achos y Rhos.

Ymhlith yr arbenigwyr iaith mae gw欧r fel y diweddar Syr Ifor Williams (Bangor), yr Athro Thomas Jones (Aberystwyth), yr Athro Melville Richards (Lerpwl a Bangor), yr Athro G.J.Williams (Caerdydd) ac R.J.Thomas.

Cyhoeddwyd eu hymchwil yn gyfrol ddefnyddiol ym 1975, sef Rhestr Enwau Lleoedd - a Gazetteer of Welsh Place - Names.

Yn y rhestr mae sillafiad cywir enw pob tref a phentref yng Nghymru - ac yn eu plith Rhosllannerchrugog.

Mae cofnod hynaf yr enw yn mynd yn 么l i 1544. O ran tarddiad yr enw, gellir cynnig:

Rhos - tir agored uchel heb ei drin (heath, moor)
llannerch - lle agored mewn coedwig (clearing, glade)
grugog - lle yn llawn grug (heathery, covered with heather)

Peth da felly oedd darllen bod swyddogion ein Cyngor Sir bellach yn derbyn awdurdod y gyfrol uchod wrth benderfynu pa enwau sy'n cael eu rhoi ar eu harwyddion.

Llongyfarch y Cyngor Sir
Mae swyddogion a chynghorwyr y Cyngor Sir i'w llongyfarch am godi'r arwyddion a hefyd am ofalu bod yr arwyddion hynny'n gywir.

Pethau sy'n newid yw enwau lleoedd, mae'n wir, ond gan fod y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, ers tro byd wedi hen sefydlu cywirdeb sillafiad safonol enwau lleol yng Nghymru, torri glo m芒n yn glapie wna'r dadleuon di-fudd am 'n'-iau r Rhos.

Does neb bellach, diolch byth, yn cynddeiriogi uwchben materion o dragwyddol bwys fel pa un ai Dolgelley, Dolgelle neu Ddolgellau sy'n gywir, Ponkey neu Ponciau a pha bryd y bu gw欧r y wasg yn holi pobol Wrecsam ynglyn 芒 pha ffurf yr hoffen nhw ei weld ar arwyddion y dre - Wristleham neu Wrettesham neu Wrechcessam neu Gwrexham neu Grwegsam neu Wrightlesham neu Wryxham neu Wrixham?

Penderfynwyd enwi'r tri lle yn Dolgellau, Ponciau a Wrexham / Wrecsam.

Onid ydy hi'n hwyr glas i bawb dderbyn cywirdeb sillafiad safonol enw ein pentre' yn 么l awdurdod y gyfrol Rhestr Enwau Lleoedd?

Roedd problemau ymarferol cysodi a cheisio ffitio pob gair yn dwt yn ei le yn eitha rheswm dros ateb Freddie Mills pan waeddodd ei frawd Harri arno uwch clecian gwyllt peiriannau argraff Herald y Rhos, 'slawer dydd:

Harri: Pa sawl "n" sy'n penderfynu?
Freddie: Faint o le s'gyn ti?

Does gennym ni mo'r esgus hwnnw ym 2002!


Cyfrannwch

Cari Sioux o Lanuwchllyn
Dwi'n cofio cael fy nghywiro yn yr ysgol uwchradd am beidio rhoi dwy 'nn' yn enw'r pentre. Hefyd yn ysgrifennu at y cyngor yn gobeithio a fuasent yn ei gywiro. 24 mlynedd wedyn...diolch bod rywyn wedi'i wneud!
Mon Feb 11 21:05:20 2008


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy