成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
John Stephen Jones Dyn rali'n crwydro'r byd
Gorffennaf 2007
Fel ymhob math o rasio ceir, gall ralio fod yn beryglus. Oherwydd hyn, mae rhaid i D卯m Ralio Pencampwriaeth y Byd Subaru fod yn barod i wynebu pob math o broblemau meddygol - boed hynny'n ddamwain ddifrifol neu gur pen.
Mae angen arbenigwr craff i weld a rhwystro unrhyw beth a allai effeithio ar iechyd a ffitrwydd unrhyw un o aelodau'r t卯m ralio ... ac mae T卯m Subaru yn cynnwys 50 i 55 o aelodau, fel arfer, a thua 40 ar Rali go faith mewn gwlad bell.

Tipyn o gyfrifoldeb! A'r dyn sy'n gyfrifol am bopeth meddygol ar ran t卯m ralio Subaru ac arweinydd t卯m parameddygon Subaru ydy John Jones, un o blant yr ardal, sy'n byw efo'i deulu yn G芒t y Stablau, Johnstown.

Ar hyd yr wythnos mae John yn gweithio fel arweinydd t卯m o barameddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Wrecsam. Ond yn lle derbyn t芒l am yr oriau gwaith ychwanegol, mae'n cael dyddiau i ffwrdd o'r gwaith.

Dyna sut mae'n medru dilyn T卯m Ralio Subaru o gwmpas y byd fel prif barameddyg y t卯m ... Cenia, Seland Newydd, Mecsico, Japan, Awstralia, a holl wledydd Ewrop.

John wrth ei waith gyda Subaru Ble bynnag y bydd Subaru yn cymryd rhan mewn Rali Ceir Pencampwriaeth y Byd (WRC) bydd John yno. Yn ogystal 芒'r Raliau, bydd rhaid i John fod ar gael pan fydd gyrwyr a pheirianwyr Subaru yn cynnal profion ar hyd ffyrdd culion coedwigoedd gwledydd Ewrop.

Dechreuodd diddordeb John mewn ralio, flynyddoedd yn 么l, ym mis Rhagfyr 1991 ond y pryd hynny roedd yn aelod o d卯m Hyundai. Yn fuan wedyn ymunodd 芒 th卯m ralio Subaru.

Pan fydd Subaru yn cynnal profion ar wahanol rannau o'r rali gall John fod oddi cartref rhwng 4 a 6 diwrnod, gan weithio 16 - 18 awr bob dydd! Mae pethau'n haws yn ystod rali go iawn - dim ond 12 awr y dydd y bydd yn gweithio dros gyfnod o 6 - 8 diwmod.

Cyfrifoldebau John fel prif barafeddyg Subaru
Ar wah芒n i'r pethau amlwg fel trin anafiadau bach a mawr (llosgiadau ydi'r pethau mwyaf cyffredin gan fod y mecanics yn gweithio ar beiriannau poeth o hyd) a gofalu bod tabledi ac ati ar gael ar gyfer pob math o anhwylder, John, fel prif drefnydd iechyd a diogelwch Subaru, sy'n gyfrifol am ddiogelwch nid yn unig yn y garej ond hefyd ar y ffyrdd y bydd y ceir yn rasio ar hyd-ddynt. Mae rheolau'n newid o hyd a deddfau gwahanol mewn un wlad rhagor y llall a rhaid iddo wybod am y rhain i gyd.

Ef hefyd sy'n gyfrifol am roi cyfarwyddiadau i'r stiwardiaid ar hyd y cwrs - eu gosod mewn mannau diogel ar y trofeydd a dweud pryd y dylen nhw fynd i helpu gyrwyr wadi damwain a phryd i sefyll draw - os mai cefn y car sydd wedi'i niweidio, lle mae'r tanc petrol, rhaid bod yn dra gofalus.

Ar ben hyn, mae gan Subaru bolisi goleuedig iawn o safbwynt diogelwch ac mae'n rhaid i John a'i gyd-barafeddygol ddilyn cyrsiau a derbyn hyfforddiant yn y datblygiadau meddygol mwyaf diweddar. Mae'r enwau rydyn ni wedi eu clywed ar raglenni ralio ceir ar y teledu yn bobl y mae John yn eu 'nabod yn dda - Alistair McCrae a'i frawd Colin, Tony Makinnen ac, wrth gwrs, Petter Solberg o Norwy a'r Cymro o'r Drenewydd, Phil Mills, sy' n gyrru ceir Subaru.

O s么n am raglenni ralio ar y teledu, mae'n canmol rhaglen Ralio S4C i'r cymylau - yn 么l John y rhaglen Ralio Ceir orau ar y teledu am fod y camer芒u'n dilyn bob un o'r gyrwyr yn y rali ac nid yn canolbwyntio ar y ddau neu dri sydd ar y blaen, fel y gwna llawer o raglenni eraill ar y teledu.

Rhaglen waith John yn ystod tali neu brofion
Fel arfer bydd John yn cyrraedd pob rali ar y dydd Mawrth, bedwar diwrnod cyn y gystadleuaeth. Un o'i ddyletswyddau cyntaf ydy gofalu fod pob gyrrwr a'i gyd颅yrrwr yn cyrraedd y rali'n iach a ffit ac yn barod ar gyfer y ras. "Os bydd y gyrwyr wedi teithio'n syth o sesiwn profi'r car, mi fydda i'n cael sgwrs efa parameddyg y t卯m cynnal profion er mwyn gwneud yn siwr na fu unrhyw broblem yn ystod y profion."

O ddydd Mercher ymlaen bydd John i'w weld ym mharc gwasanaethau t卯m Subaru yn sgwrsio efo hyfforddwr perfformio'r t卯m. John hefyd ydy meddyg y t卯m ar y daith, yn gofalu am iechyd pob un o'r t卯m ralio, yn eu helpu i gadw'n ffit ac iach, a bod yn barod i daclo pob math o argyfyngau annisgwyl.

Ar ddechrau wythnos y rali bydd John yn gwneud yn si诺r fod y pecyn meddygol yn gyflawn ac yn newid unrhyw gyffur neu dabledi sydd wedi dyddio. Bydd hefyd yn mynd i gyfarfod 芒 doctoriaid y rali yng nghwmni cynrychiolwyr meddygol y timau ralio eraill.

Unwaith y bydd y rali wedi dechrau, byddwch yn gweld John yn safle gwasanaethau'r t卯m yn paratoi diodydd ar gyfer y gyrwyr a'u cyd-yrwyr, sef y "pecynnau camel".

"Mae'r rhain yn bwysig iawn i'r gyrwyr tra byddan nhw'n rasio," pwysleisiodd John, "yn enwedig pan fydd y rali mewn gwledydd poeth iawn."

Mae John yn cario bocsus enfawr yn llawn offer meddygol i bob rali. Mae un bocs yn cynnwys offer i atal symudiadau os bydd rhywun wedi anafu ei asgwrn cefn.

Yn yr ail focs mae 'offer ymateb' meddygol sy'n cynnwys teclyn i gadw pibellau anadlu'n glir mewn argyfwng a hefyd y peiriant adfywio sy'n cadw'r ysgyfaint ar fynd unwaith y bydd y pibellau anadlu'n glir.

Hefyd yn y bocs hwn mae offer i chwistrellu cyffuriau i mewn i'r corff yn uniongyrchol drwy'r gwythiennau mewn argyfwng.

Mae'r trydydd bocs yn cynnwys tabledi a chyffuriau y gellwch eu prynu dros y cownter - ffisig cyffredinol i drin man anhwylderau sy'n cael eu hachosi gan feirws. Hefyd ym mocs tri mae moddion i drin clefyd siwgr a llosgiadau. Dyma'r bocs sy'n cael ei ddefnyddio amlaf meddai John, gan fod y technegwyr yn cael toriadau a llosgiadau byth a hefyd wrth drin a thrafod peiriannau poeth y ceir.

John oedd yn gyfrifol am y t卯m parameddygol pan gafodd Petter Solberg a Phil Mills gais main mewn damwain gas yn Rali Deutschland ym 2004. Bu'n rhaid cymryd Phil i'r ysbyty ar 么l iddo gael ei daro'n anymwybodol a'i gymryd mewn ambiwlans i'r ysbyty.

"Es i efo Phil i'r ysbyty lle oedd o'n cael triniaeth yn yr uned ddwys ac roeddwn i'n siarad efo'r doctoriaid yno i ddeall natur ei anafiadau Fel bu lwc, doedden nhw ddim yn rhy ddifrifol ac ar 么l y profion arferol roedd o'n medru hedfan yn 么l adre y diwrnod wedyn. Ond er mwyn cael yr hawl i hedfan, roedd rhaid cael tystysgrif ei fod o' n ddigon iach i hedfan ac un o'r amodau oedd fy mod i'n hedfan efo fo yn ffodus, doedd anafiadau Peter ddim mor ddrwg ac mi ddaeth o allan o'r ysbyty yr un diwrnod."

"Dw'i wrth fy modd yn ymweld 芒'r naill wlad ar 么l y llall," meddai John, "ac o weithio i d卯m Subaru dw'i wedi cael cyfle i weld llawer o lefydd diddorol. Fy hoff le ydy Awstralia - mae popeth mor hamddenol yno a digonedd o lefydd i'w gweld. Ddaru mi aros yno am wyliau efo fy nheulu y llynedd ac mi fydda i'n gwneud yr un peth eleni cyn hedfan ymlaen i Seland Newydd."

Roedd sgwrsio efo John am ei deithiau efo T卯m Ralio Subaru yn un o'r oriau mwyaf diddorol rydyn ni wedi'i gael erioed wrth hel straeon i Nene.

Felly, swyddogion a darllenwyr Nene, o hyn ymlaen, cefnogwch D卯m Ralio Subaru pan fyddwch chi' n gwylio rhaglen Ralio ar S4C!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy