成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
R. S. Thomas Rhawd briodasol R. S. Thomas
Ionawr 2003
Tom Ellis sydd yn dadansoddi cerddi'r ddiweddar fardd R.S. Thomas i'w wraig,
Un o nodweddion barddoniaeth R.S.Thomas y bu dim ond ychydig o drafodaeth feirniadol arno ydy'r cyfeiriadau mynych ynddi at ei fywyd priodasol.

Ac ystyried amlder y cyfeiriadau, y mae'n syndod pa mor anodd, o leiaf i rywun ddiddychymyg fel fi, ydy gwneud na phen na chynffon o'r berthynas rhyngddo fo a'i wraig.

Cariad deallusol
Caf y teimlad, yn gam neu'n gymwys, mai cariad deallusol neu arallfydol o bosib, os dyna'r gair, ar draul mesur naturiol o gariad cnawdol a rhywiol, oedd yn bodoli rhyngddyn nhw. Nid ydy hi'n glir bob amser chwaith, bod R. S. ei hun yn fodlon ar y math yma o gariad, pa beth bynnag oedd teimladau ei wraig, oherwydd y mae o'n mynegi'n weddol aml y rhwystredigaeth y teimlodd yn ei fethiant i ddadmer oerni ei wraig.

Maddeued fy narllenwyr i mi am fod mor hy a mentro i'r maes teimladwy hwn. Cymeraf fel cyfiawnhad, sut bynnag, barodrwydd y bardd ei hun i ganu'n hollol agored o bryd i'w gilydd at destun mot breifat a phersonol. Tanlinellir yn hyn o beth, integriti ei farddoniaeth drwyddi draw, beth bynnag a ddywedwn am ei ystyriaeth o deimladau ei briod.

Cyfarfu R.S. 芒'i wraig Elsi yn 1938 pan oedd ef yn giwrad yn Y Waun a hithau yn athrawes celfyddyd yng Nghroesoswallt, a'r ddau yn lletya yn Y Waun. Dywed R .S yn ei hunangofiant fod ei ddarpar wraig, pan gyfarfu 芒 hi am y tro cyntaf, yn arlunydd cydnabyddedig a oedd wedi cynnal arddangosfeydd mewn orielau yn Llundain, a'i bod hi wedi uniaethu ei hun yn drylwyr 芒'r bywyd artistaidd.

Yna, y mae o'n ychwanegu'r frawddeg ddadlennol hon amdano'i hun: "Ysai yntau am ei brofi'i hun yn ei faes o!", brawddeg sy'n awgrymu bod math o gystadleuaeth rhwng y ddau yn egino ym meddylfryd y bardd. Ac wrth gwrs, er gwaethaf enwogrwydd cynnar Elsi Eldridge, a oedd yn ei galluogi hi i dderbyn comisiynau mawr eu bri megis y murlun adnabyddus yn Ysbyty Gobowen, fe ddaeth enwogrwydd ei g诺r yn y man i'w bwrw hi i'r cysgod.

Ar ben hynny, does dim dwywaith nad oedd carwriaeth R. S. yn un hynod o anarferol, os nad yn wrthnysig, gyda'r bai, os oes rhaid gosod bai yn syrthio'n sgw芒r ar ei ysgwyddau o. Fe fyddai'r merchetwr mwyaf digywilydd, heir s么n am wr bonheddig, yn gresynu at ymddygiad y bardd tuag at ei gariad, hyd yn oed yng nghyfnod cynnar eu carwriaeth.

Y mae enghraifft o'r ymddygiad hwnnw i'w chael yn ei hunangofint pan fo'n ymhelaethu'n ddigon ddidaro ar ddigwyddiad y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dymuno ei anghofio.

Yr oedd Elsi yn berchen at Austin 7 bychan yr aethon nhw ynddo yn ystod haf 1938 am wyliau i'r Alban, gan fod R.S yn awyddus i glywed Gaeleg yn cael ei siarad. Dyma sut y mae'r bardd yn disgrifio'r digwyddiad a welodd fel tro trwstan, er y bydd sylwebydd gwrthrychol ar 么l darllen yr hanes yn ei weld fel tro dychrynllyd. Dyma eiriau R. S. allan o'i hunangofiant :

Roedd rhyw gynllun annelwig ym meddwl y dyn (y mai o'n s么n amdano'i hun yn y trydydd person) i geisio dal llong MacBrayne o Mallaig am un o'r ynysoedd, ond oherwydd cyflwr drwg y ffordd, daethant i olwg y porthladd yn union mewn pryd i weld y llong yn gadael y cei.

Doedd dim amdani ond meddwl am rywbeth arall. Gwelodd y ciwrad gwch wrth y cei a llongwr newydd ddod ohono."A ydych chi'n mynd i'r ynysoedd?' gofynnodd braidd yn anobeithiol. "Pa ynysoedd?" gofynnodd y llall. Wyddai o ddim "Yn Soay rydw i'n byw", meddai'r Ilongwr, "Ai 芒chi yno os mynnwch " Hei Iwc! Aeth yn 么l at y ferch, ac ymhen rhyw hanner awr roedd yn ffarwelio 芒 hi, ac yn cychwyn am ynys nad oedd erioed wedi clywed s么n amdani.

Arhosodd R S ar yr ynys am wythnos gyfan. Fe fyddai'n anodd i unryw ferch ddygymod 芒 maddau, heb s么n am ddeall, y weithred anystyriol honno gan ei chariad yn nyddiau cynnar eu carwriaeth. Nid ydy R.S. yn cofnodi ymateb Elsi, and prin nad adawodd y digwyddiad graith ar eu perthynas.

Cerddi Elsi, ei wraig
Felly, gyda'r cefndir yna mews cof, fe edrychaf at rai o'r cerddi hynny sydd a chyfeiriad at ei wraig ynddyn nhw. Ychydig iawn o gyfeiriadau sydd yn y cerddi cynnar; y cyntaf hyd y gwelaf ydy'r gerdd Ap Huw a gyhoeddwyd yn 1955, dros ddeng mlynedd ar 么l ei gerdd gyhoeddedig gyntaf. Yr Huw, wrth gwrs, oedd tad R. S, sef Thomas Huw Thomas, neu Tommy Twice chwedl y diweddar Arglwydd Cledwyn, oedd yn ei gofio fel m锚t ar un o'r llongau fferi yn hwylio o Gaergybi i Ddulyn. (Y mae'n ddiddorol gyda llaw, sylwi bod R.S. yn ei hunangofiant yn defnyddio'r hen air "ceubal" am fferi: yr oedd yn ddysgwr o ddifri ac yn ddefnyddiwr geiriadur selog bid siwr).

Nid ydy'r gerdd yn un arbennig o dda. Ynddi y mae'r bardd yn cyfeirio yn fyr iawn at y pedwar person yn ei fywyd, sef ei dad, ei fam, ei wraig a'i unig blentyn.

Dyma'r cyfeiriad at ei wraig:
... Let me begin
With her of the immaculate brow
My wife: she loves me. I know how.

Wel, popeth yn iawn hyd yma os anwybyddwn yr amwysedd yn y tri gair olaf a'r ansoddair cryptig immaculate a all awgrymu ansensitifrwydd di-ofid i ddarllenydd synicaidd. Chwe mlynedd yn ddiweddarach, sut bynnag, agorir y llen tipyn oddiar y dirgelwch, pryd y cawn y bardd yn awgrymu'n weddol bendant bod y llawenydd priodasol cyntaf yn colli peth o'i fywiogrwydd.

Cerdd penblwydd priodas
Sgrifennodd R.S. gerdd yn dathlu, neu efallai yn cofnodi, penblwydd ei briodas yn bedair ar bymtheg mlwydd oed yn 1961. Teitl y gerdd ydy Anniversary. Dyma'r ddau bennill cyntaf :

Ninteen years now
Under the same roof
Eating our bread,
Using the same air;
Sighing, if one sighs,
Meeting the other's
Words with a look
That thaws suspicion.
Ninteen years now
Sharing life's table,
And not to be first
To call the meal long
We balance it thoughtfully
On the tip of the tongue
Careful to maintain
The strict palate.

Prin bod angen dadansoddi'r ddau bennill sy'n siarad yn glir drostynt eu hunain. Serch hynny, fe hoffwn i grybwyll y syniad a gesglir oddi wrthynt, mai cwpl soffistigedig a disgybledig sydd yma.

Y mae gorffwylldra di-hud wythnos ar un o Ynysoedd Heledd wedi hen ddiflannu dan ddisgyblaeth 19 mlynedd o fywyd priodasol. Y mae'r naill yn ymwybodol bellach o gysegredignwydd y llall, ac yn wyliadwrus i gadw dysgl y briodas yn wastad.

Ni fydd storm yn digwydd ar yr aelwyd yma byth, a all chwythu ei hun allan ac adfer yr hen hinsawdd,a honno o bosibl mor heulog ag erioed yn sgil y cymodi. Tebycach o lawer ydy claearder rhwng dau unigolyn hunanfeddiannol yn ymwybodol o'r angen i gadw eu cyfathrach dan reolaeth. Nid ydy'r sefyllfa yn un sy'n argoeli'n dda am wynfyd diofal o gyd-fyw.

Pum mlynedd yn ddiweddarach yn 1966 - cyhoeddodd R. S. gerdd fechan dan y teitl Gifts, cerdd sydd mor llwythog ei goblygiadau nes bod yn wyrth fechan fel crynodeb o drybini'r bardd. Dyma ran ohoni:

To my wife all I have
Saving only the love
That is not mine to give.
To my one son the hunger.

Anfodlon 芒'i fywyd rhywiol
Y mae'r dystiolaeth yn cynyddu bod y briodas ymhell o fod yn foddhaol i'r bardd. Y mae'r rhoddion a dderbyniodd - calon gref, stumog wan, ofn a chywilydd (yn rhan gyntaf y gerdd) - yn cynrychioli'r etifeddiaeth ddynol a wnaeth y dyn yr hyn ydyw.

Yn naturiol, felly, y mae'n rhoi'r cwbl i'w wraig, ar wahan i un peth. Ac yr un mor naturiol, nid ydy o'n abl i roi hynny, sef ei charu hi gyda'r math o gariad y mai hi yn ei ddisgwyl. O ganlyniad y mae o'n newynu am rywbeth amgenach o'r briodas. I gadarnhau naturioldeb y peth hwnnw, fe fydd ei fab yn etifeddu yr un hen chwant.

Yn 么l fy narllediad i, felly, dyma'r bardd yn rhoi ei anfodlonrwydd efo ochr rywiol y briodas ar goedd yn weddol glir, a chofier bod ei wraig yn fyw ac yn debyg o ddarllen ei waith cyhoeddedig.

Yn yr un gyfrol 芒 honno yr ymddangosodd y gerdd Gifts, sef Pieta y mae cerdd fer arall, Exchange, sydd yn fwy diamwys a chwerw byth :

The old bed
Remains made
For two; spirits
Mate apart
From the sad flesh
Growing thinner
On time's diet
Of bile and gall.

Os bu cerdd erioed yn haeddu'r teitl 'Chwerwder y Ffynhonnau', dyma hi. Y neges ydy, wrth gwrs, bod y berthynas rhwng y gwr a'i wraig wedi dod i fod yn un hollol anghorfforol yn llawn ystyr yr ansoddair. Y mae'r ymrannu oddi wrth ei gilydd wedi cyrraedd cyflwr sydd nid yn unig yn rhywiol ond sydd bron yn llythrennol, nes bod y briodas i bob pwrpas ar ben.

Yr unig beth bellach ydy ymddwyn yn gymdeithasol barchus - spirits/ Mate apart/ From the sad flesh - trwy ymarfer y ddisgyblaeth w芒r y soniais amdani gynnau. Ond ni all y bardd ymatal rhag mynegi ei rwystredigaeth yn y trosiad ysgytiol o'r cnawd trist yn teneuo. On time's diet/ 'Of bile and gall. All dyn ddim ond dyfalu beth oedd ymateb y wraig wrth ei ddarllen.

Wedi cyhoeddi Exchanges yn 1966 fe fu dros ddeng mlynedd o fudandod yn ei ganu am ei fywyd priodasol. Ond pan ddaeth cerdd o'r diwedd ym 1977, bu newid cywair trawiadol ynddi; yr oedd y chwerwder wedi ei leddfu'n sylweddol.

Teitl y gerdd ydy 'The Way of It', ac yn ei phennill cyntaf y mae'r bardd yn talu teyrngedau cynnes i'w wraig:

She is at work
always,mending the garment
of our marriage....
... If there are thorns
in my life, it is she who
will press her breast to them and sing.

Gonestrwydd diysgog
Does dim modd gwadu diffuantrwydd y teimlad yn wyneb gonestrwydd diysgog R.S. trwy gydol ei waith. Ac yn wir, cadarnheir y diffuantrwydd hwnnw yn ail bennill y gerdd, pan fo'r bardd yn hanner dwrdio ei wraig, neu a leiaf yn ei beirniadu:

Her words, when she would scold
are too sharp. She is busy
after for hours rubbing smiles
into the wounds.

Mae'n werth nodi yma efallai, wrth fynd heibio fel petai, defnydd R. S. o'r gair after yn hytrach nag afterwards. I ambell glust y mae'r ffurfiant after yn chwithig iawn, yn ddi-bwrpas ac yn annodweddiadol o'r bardd. Yn yr ail bennil hefyd, y mae R. S. yn amau didwylledd ei wraig wrth ei dderbyn ef fel gwr yn y lle cyntaf, megis y gall merch briodi dyn am ei bres ac nid am iddi fod mewn cariad.

I saw her,
When young and spread the panoply
Of my feathers instinctively
to engage her. She was not deceived,
but accepted me as a girl
will under a thin moon
in love's absence as someone
she could build a home with
for her imagined child.

Go brin, fel y gwelsom gynnau, y lledaenodd ei blu. Daw cwestiwn ei ddiffuantrwydd yn benben yma, felly y cwestiwn y ceisiaf ei ateb yn ddiweddarach.

Yn y cyfamser, fel un na chyfansoddodd linell o farddoniaeth erioed, mentraf gynnig beirniadaeth oddrychol arall. Trueni na adawodd allan o'r gerdd y geiriau, 'in love's absence, y mae 'under a thin moon', yn ymadrdd hyfryd ynddo'i hun i ddynodi diffyg cariad.

Camgymeriad bid siwr ydy euro aur, gwaeth fyth ydy rhoi plwm arno. Beth bynnag am hynny, gwelwn newid digamsyniol yn ymddygiad R.S. tuag at ei wraig yn ymddangos yn ei farddoniaeth. Tybed a fydd y newid yn cryfhau fel yr 芒 yn hyn? I'w barhau y mis nesaf.

Tom Ellis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy