成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Meuryn Hughes Cerddor o'r Rhos yn arweinydd C么r Treorci
Mehefin 2006
Meuryn Hughes - Arweinydd newydd c么r Treorci
"Hysbys y dengys y dyn, O ba radd y bo'i wreiddyn" ac mae aelod arall o deulu cerddorol enwog Hughesiaid y Rhos wedi adnewyddu'r cysylltiad rhwng Treorci a'r enw Hughes.

Fis Mawrth, penodwyd Meuryn (sy'n 诺yr i Arwel Hughes, yn nai i Owain Arwel Hughes ac yn or-nai i John Hughes, Treorci, a Willie Hughes, Scranton) yn arweinydd C么r Meibion enwog Treorci.

Ar 么l astudio cerddoriaeth ar gyfer ei radd, bu Meuryn, yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf, yn cyfansoddi a chyhoeddi llyfrau a cherddoriaeth, gan gynnwys ei gyfansoddiadau ei hunan a hefyd waith ei daid a'i hen ewythr - Arwel a John Hughes.

Mae Meuryn wedi ymuno 芒 Ch么r Treorci mewn blwyddyn arbennig yn ei hanes. Eleni, bydd y c么r yn dathlu 60 mlynedd ers ailffurfio'r c么r ar 么l yr Ail Ryfel Byd. Ffurfiwyd y C么r Treorci gwreiddiol ym 1883 ond gohiriwyd yr ymarferion yn ystod yr Ail Ryfel Byd 1939-1945.

Ymhlith arweinwyr enwog C么r Treorci ceir John Haydn Davies a John Cynan Jones a dymunwn y gorau i Meuryn yn yr olyniaeth lachar hon.

Dywedodd Meuryn fod rhaglen hynod o brysur gan y c么r eleni. Rhwng r诺an a mis Tachwedd, byddant yn cynnal 25 o gyngherddau; erbyn diwedd 2006 bydd y c么r wedi perfformio mewn 35 o gyngherddau. Fe gynhelir un o'r cyngherddau yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd gyda Max Boyce a deallwn fod pob sedd yn y neuadd anferth honno wedi ei chymryd cyn i boster ymddangos! Fe gafodd Meuryn brofiad ym myd y corau o fod yn aelod o Gantorion Ardwyn ac yn arweinydd C么r Meibion Caerdydd.

Pan gafodd gynnig y swydd gyda Ch么r Treorci derbyniodd y gwahoddiad ar unwaith. Roedd tynfa'r dref yn fawr. Bu ei hen ewythr, John Hughes, yn arweinydd C么r Capel Noddfa Treorci am flynyddoedd, c么r a fyddai'n perfformio oratorios gan Handel, Mendelssohn, Haydn, Beethoven a Mazart ac eraill yn flynyddol - weithiau cenid tri neu bedwar gwaith mewn un blwyddyn. Yn wir, wedi ymuno 芒 Ch么r Treorci, daeth nifer o gantorion hynaf y c么r at Meuryn i ddangos lluniau ohonynt eu hunain yng Ngh么r Plant Capel Noddfa, Treorci dan arweiniad John Hughes.

Dyma er enghraifft gyfeiriad nodweddiadol at weithgarwch John Hughes yn Herald y Rhos (7 Ionawr 1938):
"Dros wyliau'r Nadolig, 1937 perfformiodd C么r Capel Noddfa Messiah (Handel) ar ddydd Nadolig ac yn ogystal 芒 pherfformio'r oratorio roedd cyngerdd ychwanegol wedi'i gynnal yn y pnawn yn cynnwys Hymn of Praise (Mendelssohn), "O Praise the Lord" o Anthem Chandos (Handel) a darnau gan Bach, Mozart a D. Vaughan Thomas. Y diwrnod canlynol, at Ddydd San Steffan, perfformiwyd Elijah (Mendelssohn). Agorwyd pob perfformiad trwy ganu t么n enwog John Hughes Maelor."

Yn ogystal ag adnewyddu cysylltiadau teuluol 芒 Threorci, mae Meuryn hefyd wedi dod i gysylltiad 芒 ch么r yn Scranton, America lle bu Willie Hughes, brawd ei daid, a chyn arweinydd C么r Plant y Co-op, Rhos, yn g么r feistr. Yn rhifyn mis Mai, 2005 Nene, mi ddaru ni gyhoeddi hanes Meuryn yn arwain gwaith ei daid yng Ng诺yl Gerdd Arwel Hughes yn Philadelphia, U.D.A. Sefydlwyd yr 糯yl gan James Moyer a gafodd ei ysbrydoli i sefydlu G诺yl Philadelphia ar 么l cael y profiad o ganu gwaith gan Arwel Hughes (a'r cyfansoddwr ei hun yn arwain) mewn G诺yl Gerdd yn Scranton ym 1972.

Cysylltodd 芒 Meuryn a oedd wedi bod yn casglu a chyhoeddi gwaith ei daid ac fe'i gwahoddwyd i fynd draw i'r 糯yl yn Philadelphia. Yn ystod pedwar diwrnod yr 糯yl bu'n darlithio ar gyfansoddiadau Arwel Hughes a chael cyfle i wrando ar berfformiadau o Dewi Sant, a Gweddi. Perfformiwyd hefyd waith comisiwn gan Meuryn ei hunan Y Gwynfydau (gwaith i g么r cymysg ac organ) a dau drefniant ganddo o Gwahoddiad ac Ar Hyd y Nos (darn i g么r cymysg, bariton ac organ).

Yn dilyn ymweliad Meuryn ag America, bu C么r o Scranton yn ymweld 芒 Chymru a'r brifddinas ychydig wythnosau'n 么l a chafodd Meuryn gyfle i'w harwain mewn perfformiadau o weithiau Arwel Hughes a hefyd ei drefniant byd-enwog o Tydi, a Roddaist.

Mae Meuryn yn ymwybodol iawn o wreiddiau ei deulu yn y Rhos, ac yn ystod y sgwrs a gafwyd dros y ff么n, fe soniodd, wrth fynd heibio, mor falch fyddai pe cai gyfle i arwain ei G么r Treorci ar lwyfan y Stiwt.

A fyddai gan swyddogion y Stiwt neu un o'n corau lleol ddiddordeb i drefnu rhywbeth tybed? Gair i gall!

Ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i Meuryn yn ei swydd newydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy