成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Hen bryd hefyd!
Mawrth 2002
Llyfr yn 么l mewn llyfrgell ysgol ar 么l 133 o flynyddoedd - a heb orfod talu'r ddirwy o 拢485
Mae Nene yn diolch i Miss Betty Gough, Johnstown am anfon y stori anhygoel hon i'r papur. Anfonwyd yr hanes i Emlyn a Glenys Charles gan eu mab, Gareth, sy'n byw ac yn dysgu yn Ne Lloegr, ar 么l iddo ei weld yn y Lincolnshire Echo a'r Market Rasen Mail tua mis yn 么l.

Wonderful Inventions gan John Timbs oedd enw'r llyfr a fenthyciodd rhyw ddisgybl neu'i gilydd o lyfrgell Ysgol de Aston, Market Rasen, Swydd Lincoln - a hynny pan oedd y Frenhines Victoria ar yr orsedd, Gladstone ar fin dod yn Brif Weinidog a Monet a Cezanne yn dechrau rhoi paent ar gynfas. Y flwyddyn oedd 1868.

Mae'n rhaid bod hwnnw a sawl un arall wedi cael blas ar y llyfr gan iddo fod allan o'r llyfrgell am 133 o flynyddoedd!

A ble cafwyd hyd i'r llyfr? Ar silff yn hen Gapel Seilo, Johnstown.

Crwydro'r wlad am 30 mlynedd
Rwan, ni chafodd Capel Seilo ei adeiladu tan 1893/4 felly bu'r llyfr yn crwydro'r wlad am ryw 30 o flynyddoedd o leia' cyn i rywun ddod 芒 fo i'r capel a'i adael yno.

Y llynedd, pan gaewyd Capel Seilo, cafodd Jeff Potter afael ar y llyfr. Mae Jeff Potter yn byw yn Haywards Heath, West Sussex ac yn delio mewn hen lyfrau.

Sylwodd yntau ar enw Ysgol de Vere wedi'i stampio ar y llyfr ac aeth at ei gyfrifiadur i weld a oedd yr ysgol yn dal ar agor heddiw ac ymhle.

Daeth o hyd i'r ysgol yn Market Rasen, Swydd Lincoln a sylwodd fod yr ysgol yn cynnig amnest a maddeuant am unrhyw lyfr o lyfrgell yr ysgol oedd wedi ei gadw dros yr amser.

Y ddirwy arferol fyddai 1c am bob diwrnod dros amser a doedd dim angen gormod o fathematics i ddyfalu y byddai dirwy o 拢485 ar y llyfr.

Llythyr hynod o ffraeth
Felly penderfynodd Jeff Potter sgrifennu llythyr hynod o ffraeth at brifathro'r ysgol yn cynnig anfon y llyfr yn 么l, gan gyfeirio at y ffaith na fyddai'n dasg amhosib dod o hyd i'r "Cymro bach" a gymerodd y llyfr o'r llyfrgell a'i adael yn Johnstown, gan mai dim ond 104 o ddisgyblion oedd yno ym 1868.

Awgrymodd yn gynnil y gellid dechrau ar y gwaith ditectif trwy chwilio am olion "bysedd Cymreig" ar dudalennau'r llyfr, gan ychwanegu mai act o edifeirwch ar ran y bachgen, mae'n debyg, a barodd iddo benderfynu gadael y llyfr mewn lle o addoliad.

Prifathro o Ogledd Cymru
Cafodd Jeff Potter ateb yn 么l gan ddirprwy brifathro presennol yr ysgol, Alun Jones, sydd er mawr syndod yn hanu o Ogledd Cymru ac yn 'nabod ardal Wrecsam yn dda.

Yn anffodus nid oedd cofrestri'r ysgol cyn 1870 ar gael felly ni ellid dweud a oedd rhywun o ardal Johnstown yn ddisgybl yno ai peidio. Fodd bynnag, diolchodd iddo am anfon y llyfr yn 么l a......na, ni fyddai'n mynnu ei fod yn talu'r ddirwy i'r llyfrgell!

Y bwriad yw, yn 么l pob s么n, gosod y llyfr i'w arddangos mewn lle go amlwg yn yr ysgol. Felly os ydych chi'n aros yn Market Rasen rywbryd, ewch i weld y tamaid o Johnstown sydd yn Ysgol de Vere yno - ond peidiwch 芒 chymryd arnoch eich bod yn nabod ardal Johnstown yn enwedig os buoch chi a'ch teulu'n aelodau yn hen Gapel Seilo!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy