Ar 么l pum mlynedd o ddysgu a chwarae ac o chwerthin a chrio dywedwyd ffarwel mewn steil!
Eleni am y tro cyntaf daeth un o draddodiadau'r UDA i Forgan Llwyd.
Do, fe ddaeth y 'Prom'. Clwb Golff Clay's Farm oedd lleoliad prom gadael cyntaf Ysgol Morgan Llwyd ar nos Fercher, Mai 18fed.
Wrth i'r disgyblion gyrraedd llanwyd y dreif gyda 'limos' hir gwyn, un neu ddau binc ac ambell i Rolls Royce urddasol.
Ond nid 'Pringle' oedd gwisg y noson ond ffrog hir a tuxedo.
Allan o'r limos daeth gwledd i'r llygaid - merched hardd mewn ffrogiau hir o bob lliw, defnydd a steil a'r gwallt a'r colur yn berffaith.
Nid oedd y bechgyn wedi ein siomi chwaith yn eu siwtiau smart a'r bo teis.
Heb yn wybod i ni roed Mr Gareth Evans, Pennaeth Blwyddyn 11 wedi trefnu ein bod yn derbyn rhodd i gofio'r noson.
Derbyniodd y merched lwy garu a'r bechgyn par o gyfflincs a'r ddraig goch arnynt.
Diolchwyd i Mr Evans gan Kathryn Pearson a Rachel Davies, nid yn unig am ei waith yn trefnu'r noson ond hefyd am ei ofal diflino drosom yn sytod y ddwy flynedd diwethaf.
Fel gyda phob parti da gorffenwyd y noson gyda disgo a dywedasom ffarwel gyda dawns, sws ac ambell ddeigryn.
Ond roedd mwy o hwyl i ddod gan mai dydd Iau oedd ein diwrnod gadael go iawn, ac unwaith eto profwyd bod Ysgol Morgan Llwyd yn gwneud bob dim mewn steil.
Am unwaith anghofiwyd y rheolau gwisg ac am y clustlysau bondigrybwyll, diwrnod o hwyl ydoedd o'r dechrau i'r diwedd.
Ynghyd a'r ysgrifennu ar grysau traddodiadol cafwyd seremoni gwobrwyo disgyblion am eu cyfraniad 'answyddogol' i fywyd ysgol, karaoke, rownderi yn erbyn staff a gemau potes.
Ond uchafbwynt y dydd, os nad y pum mlynedd oedd y ffeit ff么m. 147 o bob ifanc heini cyffrous a disgwylgar wedi eu cloi yn y cyrtiau tenis gyda 300 can o ff么m! Dan chwifio breichiau a cholli dagrau yr aethom adre'r prynhawn hwnnw.