成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Llyr William hefo Bryn Terfel (Llun: John Raymond Jones) Dau fis prysur
Medi 2006
Mae Ll欧r Williams wedi cael dau fis prysurach nag arfer eleni.

Ar ddechrau Gorffennaf roedd yn rhannu'r llwyfan efo Bryn Terfel yng Nghyngerdd Agoriadol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Efo Cerddorfa'r Hall茅 o dan arweinyddiaeth Gareth Jones cyflwynodd Ll欧r ddau gonsierto, y naiII gan Rachmaninov a'r llaII gan Liszt.

Ymhen ychydig o ddyddiau medd Ll欧r yn ymddangos efo Cerddorfa Ffilharmonig' Lerpwl am y tro cyntaf a hynny yn Neuadd Ffilharmonig' y ddinas yn chwarae 3ydd Consierto Beethoven o dan faton Owain Arwel Hughes.

Does dim rhaid dweud mai yn iaith Y Rhos y trafodwyd y gwaith ymlaen llaw!

Dridiau'n ddiweddarach roedd Ll欧r yn hedfan i Minneapolis yn yr Unol Daleithau i gyflwyno'r un gwaith efo Cerddorfa Talaith Minnesota - y tro hwn dan arweinyddiaeth Osma Vanskii.

Wedi dychwelyd roedd dau ddatganiad - un yn ymyl Ipswich a'r llall yn Llundain. Ac yna cyflwynwyd yr un consierto ym Mhroms Cymru yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.

Unwaith eto roedd hwn efo Cerddorfa Ffilharmonig Lerpwl ac Owain Arwel Hughes. .

Roedd newid cywair ar ddechrau mis Awst gan iddo fynd i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe i feirniadu cystadleuaeth Ysgoloriaeth Towyn Roberts.

Yn dilyn roedd tri ymddangosiad yng Ng诺yl Gydwladol Caeredin yn Neuadd Usher.

Yn gyntaf chwaraeodd Bumpawd Schubert i biano a llinynnau, sef 'Y Brithyll.'

Yr oedd hyn efo Pedwarawd yr Hebrides sydd mewn gwirionedd yn gr诺p o offerynwyr Ewropeaidd.

Wythnos yn ddiweddarach roedd i fynd yn 么l yno i chwarae 3ydd Consierto Beethoven efo Osma Vanska a Cherddorfa Talaith Minnesota.

Fodd bynnag dau ddiwrnod cyn hyn cafodd alwad ff么n. Roedd y soprano o America Dawn Upshaw, oedd i fod i ganu efo'r gerddorfa yn y Proms yn y Neuadd Albert, yn wael ac roedden nhw am i Ll欧r gamu i mewn.

Roedd rhaid gadael y Neuadd yn yr egwyl er mwyn mynd i ddal awyren i hedfan i Gaeredin ar gyfer y noson ganlynol!

Gyda llaw, darlledwyd y cyngerdd yn fyw ar deledu 成人快手4 se Radio Tri. Yn 01 Hilary Finch yn y Times roedd y cyflwyniad yn 'life-enhancing!'

Ac fel mae Nene yn cael ei roi i'w wely mae Ll欧r ar ei ffordd yn 么l i Gaeredin am y trydydd penwythnos yn ddilynol. Y tro hwn bydd yn cyflwyno sonata enfawr yr Hamrnerklavier gan Beethoven yn Neuadd Usher.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy