成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Myfanwy Pearce Atgofion am Ysgol y Ponciau
Chwefror 2009
Rhai o atgofion difyr Myfanwy Pearce, sydd nawr yn byw yn Bromsgrove, am ei hamser yn Ysgol y Ponciau.

Dechreuais ysgol yn 2 flwydd a saith mis oed, fis Ionawr 1936, gyda fod fy mrawd wedi cael ei eni. Dw i'n cofio fawr ddim am 'Ddosbarth y Bebis'. Ond mi rydw i'n cofio fy mod wrth fy modd yn eistedd ar y seti bwced pren bychain, y blociau, y ceffyl pren a'r toiled bach yn yr iard. Dw i hefyd yn cofio'r matiau brwyn hirgrwn amryliw y bydden ni'n eu cymryd allan ar yr iard i eistedd arnyn nhw ar ddiwrnod poeth.

Mae f'atgofion yn dechrau efo Dosbarth Miss Richards; y desgiau hirion a'r seti'n rhan ohonyn nhw, y 100 sgwar oedd wedi'i gerfio i mewn i gaead y ddesg yn ei gwneud hi'n amhosibl sgwennu arno efo pensil a phapur.

Roedd Miss Richards bob amser yn gwisgo ei het a'i ch么t i wneud 'drill' ar yr iard! Roedd gynnon ni hefyd fagiau ffa lliwgar hyfryd a 'bands' ar gyfer gwaith t卯m.

Ydych chi'n cofio'r band? Roeddwn i wastad yn cael y triongl...byth y drwm!

Roedd Dydd G诺yl Dewi yn uchafbwynt efo Eisteddfod yn y bore a gwyliau yn y pnawn.

I mi, doedd gan yr Ysgol Gynradd byth yr un cynhesrwydd a theimlad clyd teuluol Ysgol y Babanod. Fy mhrif nod yn yr Ysgol Gynradd oedd cyrraedd Standard 4 a Standard 5, dosbarth Miss Annest Roberts. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n wych, mor garedig ac addfwyn. Roedd hi'n hoffi barddoniaeth a phopeth hardd a bu'n ddylanwad mawr ar fy mywyd ifanc. Ydach chi'n cofio ei si么l Paisley?

Roeddwn i'n meddwl y byd o'r hen gypyrddau derw yn Standard 4 + 5. Gwynt y 'polish' lle roedd Mr Robinson wedi bod yn glanhau.

Dw i'n cofio eistedd ar y peipiau ar ddiwrnodau oer. Mi fydden ni'n rhoi'r poteli llefrith ar y peipiau i'w dadmer. Byddai'n monitor llefrith yn rhoi gwelltyn ymhob potel. Roedd rhaid inni dalu 2 1/2c bob dydd Llun am y llefrith.

'Dych chi'n cofio'r bocs llyfrgell mawr pren a fyddai'n cyrraedd bob mis gan lyfrgell yr hen Sir Ddinbych?

Roedd bod yn 'monitor inc' yn golygu tywallt yr inc i mewn i'r potiau inc bob bore dydd Llun. Doeddwn i ddim yn cael fy newis ar gyfer y gwaith hwn yn aml iawn.

'Dych chi'n cofio mapiau mawr yn dangos y byd ar y wal a'r Ymerodraeth Brydeinig mewn coch?

Tasg arall oedd glanhau sychwr bwrdd du yr athro! Byddai hyn yn golygu ei cymryd allan ar yr iard a'u dyrnu efo pren mesur nes ei bod yn l芒n. Byddech yn dod yn 么l efo llwch sialc drosoch i gyd. Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud y gwaith yma!

Roedd rhaid inni gario ein 'gas-masks' mewn bocsys cardbord. Bob bore bydden ni'n cael y dril 'gas-masks'. Dwi'n cofio gwylio'r mwg yn codi oddi ar y t芒n ar y mynydd ar 么l un cyrch awyr.

Dw i'n cofio mynd am dro drwy'r caeau ger fferm Bank's (ffarm Bryn yr Owen) i gasglu pethau ar gyfer y bwrdd natur. Byddai Miss Roberts yn dweud 'Dowch 芒 jar jam a llinyn wedi'i glymu o gwmpas ei geg i wneud handlen'.

Dyma oedd y cyfnod pan oeddech chi'n casglu jariau a'u cymryd i'r Co-op am 1/2c neu 1c.

Mi roedden nhw'n ddyddiau hapus a gwnes lawer o ffrindiau ac maen nhw'n dal yn ffrindiau er imi adael yr ardal dros 50 mlynedd yn 么l i fynd i ddysgu yng Nghanoldir Lloegr.

Bydd Ysgol y Ponciau yn lle arbennig imi am byth ac mae'r ffaith na fydda i byth yn gweld yr hen adeilad eto yn peri tristwch imi. Diolch byth fod yr atgofion yn aros a bydd yr ysgol yn fyw yn fy nghalon hyd byth.

Gyda llaw, newidiodd Ponkey i Ponciau yn Hydref 1932. Pan oeddwn i yn Ysgol y Babanod roedd y newid ond newydd ddigwydd ac roedd stamp yr enw 'Ponkey' yn dal ar lawer iawn o'r llyfrau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy