成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Cau'r Drws Am Y Tro Olaf
Chwefror 2005
Eglwys Sant Ioan Yr Efengylwyr, Rhos. 3ydd Hydref 1853 - 9fed Ionawr 2005
Llai na dwy flynedd yn 么l roedd hanes dathliadau 150 mlwyddiant Eglwys y Plwy yn ymddangos yn Nene.

Yn y rhifyn hwn rydyn ni'n cyhoeddi fod Eglwys y Plwy, Rhos wedi cau. Fore Sul, lonawr 9, 2005 cynhaliwyd y cyfarfod olaf yn Eglwys Sant loan yr Efengylwr dan arweiniad y Ficer, y Parchedig Stuart Evans.

Mae'n ymddangos fod angen gwario ar yr adeilad ond nad oedd Esgobaeth Llanelwy, ar 么l pwyso a mesur anghenion yr Eglwys yng Nghymru ym Mhlwyf y Rhos, yn fodlon rhyddhau grant tuag at gostau atgyweirio. Yn 么l a ddeallwn, mae'r adeilad wedi'i gofrestru ac felly byddai'n anodd ei werthu; prun bynnag go brin y gellid codi tai neu farchnad ar ben y beddau sy'n amgylchynu'r eglwys.

Mae Cyngor yr Eglwysi yn trafod pa ddefnydd y gellir ei wneud o'r adeilad ac mae nifer o awgrymiadau yn eael eu hystyried... ond, ysywaeth, ni ellir oedi gormod o gofio fel y mae adeiladau gweigion y pentre - yn hen ysgolion a chapeli - wedi cael eu fandaleiddio yn ddiweddar.

Ar hyn o bryd mae aelodau'r Eglwys Gymraeg yn cynnal eu gwasanaeth am 9.30 ar fore Sul ac yna, am 11.00, mae aelodau Eglwys Sant loan yn mynd yno i gynnal eu gwasanaeth hwythau yn Saesneg.

O 1404 hyd 1844, roedd pobl y Rhos yn mynd i Eglwys Rhiwabon i addoli a chael eu bedyddio a'u claddu ac ym mynwent Rhiwabon gellir gweld, hyd heddiw, nifer o enwau teuluoedd y Rhos ar y cerrig beddau.

Ond ym 1844 daeth plwyf eglwysig y Rhos i fod. Yn yr un flwyddyn agorwyd Ysgol y Wern, ysgol eglwys. Roedd swyddogion yr Hen Fam, fel y gelwid yr Eglwys Anglicanaidd, wedi gofalu cysegru'r ysgol fel y gellid cynnal gwasanaethau crefyddol ynddi. Byddai ciwrad Rhiwabon yn dod i Ysgol y Wern bob Sul i gynnal gwasanaethau.

Yna, ym 1853, agorwyd Eglwys Sant loan. Roedd wedi ei hadeiladu ar ffurf croes yn yr arddull Normanaidd; mae'n cynnwys toreth o gerfiadau cain yn arddull y cyfnod. Cost yr adeilad oedd 拢2,268. Poblogaeth y Rhos y pryd hynny oedd 4,000. Y pensaer oedd Thomas Penson a chloddiwyd cerrig yr eglwys o hen chwareli'r Wern.

Cynhelid gwasanaethau Cymraeg a Saesneg am yn ail 芒'i gilydd yn Eglwys Sant loan i ddechrau ond, ar 么l agor yr Eglwys Gymraeg (Eglwys Dewi Sant), ym 1892-3, yn Saesneg y cynhelid y gwasanaethau yn y fam eglwys ar y wern. Cwmni Douglas & Fordham fu'n gyfriol am gynllun Eglwys Dewi Sant.

Ym mis Ebrill 1912, cyflwynwyd i'r gwasanaethau yn y fam eglwys ar y Senedd fesur a amddifadai'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru o'i statws fel Eglwys Wladol ac a gymerai oddi wrthi ddeuparth ei gwaddolion. Cafodd y mesur gymeradwyaeth T欧'r Cyffredin ym mis Chwefror 1913. Gan i D欧'r Arglwyddi ei rhodd, ni ddeuai'n ddeddf heb i D欧 Cyffredin ei basio drachefn mewn dwy sesiwn wahanol. Digwyddodd hynny ym mis Gorffennaf 1913 ac ym mis Mai 1914, a derbyniodd mesur datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru y gydsyniaeth Frenhinol ar 18 Medi 1914. Gan fod y rhyfel erbyn hynny yn 45 diwrnod oed, gohirwyd gweithredu'r ddeddf, ac ni ddaeth i rym tan 31 Mawrth 1920.

Ar 1af Mehefin 1920, cysegrwyd A G Edwards yn archesgob Cymru yn Llanelwy.

Yn dilyn datgysylltu, bu cynnydd yn ystod yn 1920au yn aelodaeth yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru; yn wir, Anglicaniaeth oedd yr enwad mwyaf yng Nghymru.

Gwelwyd cynnydd yn aelodaeth yr Eglwys ym mhlwyf y Rhos. Ym 1928 roedd 700 yn cymuno yn Eglwysi Sant Ioan a Dewi Sant y Rhos. Does rhyfedd felly fod galw am godi eglwys arall ym mhlwyf y Rhos.

Felly ym 1928, codwyd trydedd eglwys, sef Eglwys y Santes Fair, Johnstown. Oddi ar Ionawr 8, 2005, does bellach ond dwy eglwys yn y plwyf - Eglwys Dewi Sant ac Eglwys y Santes Fair, Johnstown.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy