成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Mrs Elizbaeth Ann Hughes yn paratoi i fynd i fyny mewn hofrennydd. Ar i fyny yn 100 oed!
Mawrth 2008
Roedd dydd Sadwrn y 9fed o Chwefror yn ddiwrnod mawr yn 7, Plas yn Rhos. Roedd Mrs Elizabeth Ann Hughes yn dathlu ei phen blwydd yn 100 oed.
Ond y peth cyntaf yr oedd yn rhaid i'r tynnwr lluniau ei wneud pan alwodd yno oedd gofyn pa un oedd Mrs Hughes - gan ei bod hi'n edrych mor ifanc!

Fe gafodd Elizabeth Ann Hughes ei geni yn Wrecsam yn 1908 ac yno y bu hi'n byw nes iddi briodi 芒 William Thomas Hughes a dod i fyw gydag o yn 54, Yr Hobin Cast yn Ionawr 1934. Gan ei bod hi wedi byw yn y Rhos ma felly am bron i dri chwater canrif y mae'n debyg ei bod hi'n llawn haeddu cael ei galw yn un ohonon ni!

Adeiladwr oedd ei g诺r ac roedd yn un o deulu a fagwyd yn yr hen Lloyd St, sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Bu farw William ym 1976 ac felly mae Mrs Hughes wedi bod yn weddw ers deuddeg mlynedd ar hugain ond mae nifer o'r teulu yn dilyn yn ei waith fel adeiladwr.

Roedd tri o blant ganddi - Joan sy'n byw yn Stryt Newydd, David John ym Mryn y Brain a'r diweddar Gwilym oedd yn byw yn Stryt Osborne. Mae deuddeg o wyrion a dau ar bymtheg o or-wyrion. Maent yn deulu agos iawn ac fe ddaeth pob un (ar wah芒n i un oedd ar y cyfandir) i'r parti a gafodd ei gynnal iddi yn Plas yn Rhos. A Mrs Hughes ydy'r cyntaf i gydnabod gwerth y gefnogaeth a'r cariad y mae hi'n ei dderbyn gan y plant a'r teulu. Yn ogystal ag agosatrwydd y gymdeithas yn gyffredinol.

Fe dderbyniodd Mrs Hughes gerdyn oddi wrth y frenhines yn dymuno'n dda iddi yn ogystal ag oddi wrth Rhodri Morgan ar ran y cynulliad a Paul Murphy yr Ysgrifennydd Gwladol. Hefyd fe ddaeth Mrs Joan Lowe Maer Bwrdeistref Sirol Wrecsam i'w llongyfarch yn bersonol.

Ond os oedd y dydd Sadwrn ei hun yn ddiwrnod llawen a bythgofiadwy efo'r parti pen blwydd yn goron arno, yna roedd y diwrnod canlynol yn fwy cyffrous a chofiadwy fyth. Achos y bore hwnnw, a hithau erbyn hynny'n gant ac un diwrnod oed fe aeth Mrs Hughes ar ymweliad yr holl ffordd i'r Trallwng. Nid i ymweld a theulu na chyfeillion. Na hyd yn oed i'r farchnad. Ond i gael reiden mewn hofrennydd, os gwelwch yn dda! Dyna rywbeth yr oedd hi wastad wedi ei flysio ond na lwyddodd i'w gyflawni yn y can mlynedd blaenorol. Felly ar fore oer, rhewllyd fe aeth ei mab a'i merch yng nghyfraith a hi i'r Trallwng yn y car ac fe aeth un o'i hwyrion sydd yn berchen ar drwydded i yrru hofrennydd a'i nain i fyny i'r awyr am awr iawn.

Ac fe fwynhaodd hi bob munud o'i thaith yn hofran yn uchel uwchben y wlad gan deithio mor bell a Chroesoswallt a'r Waun a thu hwnt a chael edrych i lawr ar olygfeydd oedd yn hen gyfarwydd iddi hi o ongl hollol newydd.

Llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i Mrs Hughes am sawl blwyddyn a reiden arall.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy