成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Pel droed Clwb P锚l droed Ieuenctid Tal-y-bont
Tachwedd 2007
Am y tro cyntaf ers blynyddoedd bu'r tywydd yn ffafriol ar gyfer dechrau tymor newydd y Cynghrair.

Mae gan Dal-y-bont wyth t卯m yn cystadlu eleni. Mae'r t卯m dan 15 oed, dan reolaeth Dick Squires, wedi setlo lawr yn ystod yr wythnosau diwethaf drwy ennill yn dda yn erbyn Padarn a Llanilar, wedi dechrau simsan pan gollwyd y tair g锚m gyntaf.

Mae gan Dal-y-bont ddau d卯m yn y cynghrair dan 13 oed. Maent yn chwarae p锚l-droed 11 bob ochr am y tro cyntaf. Mae Tal-y-bont A wedi cael dechrau gwych drwy ennill pump o'i chwe g锚m gyntaf ac mae'r t卯m B, sy'n flwyddyn yn iau, wedi ennill tair, colli un a chwarae dwy g锚m gyfartal hyd yn hyn. Roedd yr un golled yn y 'derby' lleol yn erbyn Tal-y-bont A!

Yn yr adrannau i dimau dan 11 oed, chwaraewyd am Gwpan RAFA at ddechrau'r tymor. Wedi dechrau da, collodd Tal-y-bont yn y rownd gynderfynol o 1-0 yn erbyn buddugwyr y gystadleuaeth Cewri Un. Cafwyd perfformiad da gan y Teirw hefyd cyn colli drwy giciau o'r smotyn. O ganlyniad i'r llwyddiant yn y gystadleuaeth hon gosodwyd Tal-y-bont yn yr Uwch-gynghrair am y bedwaredd flwyddyn yn olynol - prawf bod Tal-y-bont yn parhau i gynhyrchu p锚l-droedwyr o safon. Yn y chwe g锚m gyntaf enillwyd dwy a chollwyd pedair. Mae'r Teirw yn chwarae yn Adran 1 ond, ar 么l ennill yn dda yn erbyn Penrhyn-coch ar y diwrnod cyntaf, collwyd y pedair g锚m ganlynol. Mae lle i wella felly.

Mae Merched Tal-y-bont yn cystadlu yn yr ail adran. Ennill tair g锚m, colli dwy ac un g锚m gyfartal yw'r record hyd yn hyn. Byddai'r canlyniadau yn well oni bai fod tair merch, Nia Jones, Gwenno Evans ac Ellie Margrave Jones, yn chwarae i'r t卯m cyntaf yn yr Uwch-gynghrair.

Mae'r Teriyrs yn cynnwys nifer o fechgyn sy'n chwarae mewn t卯m am y tro cyntaf sef: Kieren Kelly, Rhodri Hughes, Gerallt Jenkins, Sion Nelmes, Taliesin Lamott, Matthew Edwards, Josh Mayhew a Bryn Dennis. Yn anffodus gosodwyd y t卯m yn yr adran anghywir ar ddechrau'r tymor a chollwyd sawl g锚m o sgoriau uchel. Ers hynny maent wedi symud i adran is, gan gystadlu'n dda yn y g锚m gyntaf, cyn colli o drwch blewyn, 2-3. Mae gobaith felly am ddyddiau gwell i ddod.

Llongyfarchiadau i Hefin Hopkins, Ryan Thomas a Richard Jenkins sydd wedi cynrychioli Academi Aberystwyth ac Ysgolion Ceredigion y tymor hwn. Cafodd Richard hefyd yr anrhydedd o chwarae ym mhencampwriaeth y WSFA.

Llongyfarchiadau hefyd i Carwyn Hughes a gynrychiolodd Aberystwyth ym mhencampwriaethau HSBC (Tom Yeoman) y tymor hwn. Pob lwc i'r chwaraewyr a hyfforddwyr i gyd gan obeithio y bydd y tywydd teg yn parhau.

Brian Richards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy