Yr oedd yr nifer arferol o stondinau yn orlawn o nwyddau o bob math. Yr oedd yn achlysur cymdeithasol hefyd ac yr oedd y byrddau yn llawn o rai yn mwynhau platiad o ddanteithion, cwpanaid o de a sgwrs. Yr oedd gan bob stondin wobrau i'w hennill yn yr raffl ac aeth nifer ohonom adref a bagiau llawn o fargeinion. Yr oedd yn brynhawn hynod o ddifyr ac mae gennyf le i ddiolch i swyddogion a phwyllgor yr neuadd am drefnu'r cyfan mor effeithiol. Fel y gwyddoch mae'r neuadd ar gael i nifer o fudiadau am bris rhesymol ond nid yw'r hyn a dderbyniwn yn ddigon i dalu costau tanwydd ac ati. Rhaid gofalu hefyd fod arian wrth gefn gwrdd 芒'r costau o gynnal a chadw. Bydd yr 拢1000 a dderbyniwyd yn yr ffair eleni yn gyfraniad gwerthfawr tuag at gynnal yr neuadd. Diolch i chwi a ddaeth i'n cefnogi. Edrychwn ymlaen i groesawu tyrfa dda i'r cyngerdd ym mis Chwefror. Diolch yn fawr. Ithel Jones, Cadeirydd
 |