Flwyddyn yn 么l bu farw'r diweddar Edgar Humphreys, Penlon, Tal卢y-bont, Ceredigion, yn 99 mlwydd oed; ef oedd yr olaf o'r rhai brofodd fyw a gweithio yn yr ardal anghysbell honno ll;e saif cronfa Nant-y卢moch heddiw.
Bu ucheldir Pumlumon a'r cyffiniau yn agos fawn at ei galon drwy gydol ei oes, a thra gallai parhaodd ei ddiddordeb mewn arferion cefn gwlad, megis hela a physgota.
Wrth lwc, fe'i bendithiwyd a chof eithriadol am y blynyddoedd cynnar a chaled hynny yn yr unigeddau llwm.
Yn ffodus, roedd Gwilym Jenkins, Llety'r Bugail, Tal-y-bont yn ddigon hirben i sylweddoli mor amhrisiadwy oedd yr atgofion hyn a bod angen i rywun eu cofnodi cyn iddi fynd yn rhy ddiweddar. Felly, yn nechrau'r 1990au aeth Gwilym Jenkins ati, gyda'i gamera fideo, i holi Edgar Humphreys am ei filltir sgwar a'i fywyd lliwgar. O ganlyniad, lluniwyd fideo ddogfen werthfawr iawn o ffordd
o fyw sydd bellach wedi diflannu'n llwyr o'r tir, ac hefyd o gymeriad rhadlon a ffraeth a ddechreuodd ei yrfa fel bugail mynydd ond a fu'n gweithio wedi hynny fel coedwigwr, chwarelwr ac adeiladwr.
Yn awr, ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, daw cyfle prin i weld y portread gwerthfawr hwn fel rhan o'r gweithgareddau i godi arian tuag at Gronfa Sioe'r Cardis 2010.
Trefnir dwy noson, er mwyn rhoi cyfle i weld y fideo yn ei chyfanrwydd. Yn rhan 1, a ddangosir rhwng 7.30 a 9 or gloch nos Fercher 20 Ionawr yn Neuadd Goffa Tal-y-bont, fe ddilynwn 么l-traed Edgar Humphreys o fan ei eni yng nghyffiniau Cwm Symlog i Fwlchstyllen, Llechwedd卢mawr a Hengwm Annedd.
Yn rhan 2, a ddangosir am 7.30 nos Fercher 3 Chwefror, cychwynnir ger Capel Tabor, ar bwys cronfa Nant-y-moch, cyn symud ymlaen i Lyn Plas-y卢mynydd, Llyn Pen-rhaeadr, Cwm Einion, Cwm Tynant a Chwm Ceulan.