成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Susan Rowlands Llwyddiant br卯dwraig leol
Mehefin 2007
Mae Susan Rowlands, Hen Hafod, Ffwrnais, yn fridwraig defaid o fri.

Mae ganddi ddiadell o dros 30 o ddefaid Zwartbles pedigri y bu'n eu magu ers saith mlynedd, a diwedd Mai fe gafodd lwyddiant mawr yn Sioe enwog y Bath & West.

Daeth adref gyda phedair gwobr i gyd, dau gyntaf, un ail ac un pedwerydd. Enillodd un o'r gwobrau cyntaf am ddangos gr诺p o dri, sef un oen hwrdd a dwy oen fenyw. Gosodwyd y gr诺p o dri gan y beirniad ymhlith y pump gorau allan o bedwar ar hugain yn mhencampwriaeth yr holl ddosbarthiadau defaid, ac fe welir Susan yn y llun yng nghwmni'r gr诺p trawiadol hwn o wyn a anwyd eleni.

Fel yr oedd Papur Pawb yn mynd i'r wasg, yr oedd Susan yn paratoi'r defaid ar gyfer Sioe Aberystwyth, ac yna byddai'n dangos yn sioe Castell Newydd Emlyn, cyn troi am y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf. Ond nid dangos defaid yn unig y bydd Susan yr haf hwn, ond beirniadu hefyd.

Derbyniodd wahoddiad i feirniadu dosbarth y defaid Zwartbles yn Sioe Gogledd Cymru yng Nghaernarfon eleni, ac mae'n amlwg fod parch iddi ymhlith aelodau cymdeithas y br卯d. Sefydlwyd Cymdeithas y Defaid Zwartbles yn 1995 er mwyn hyrwyddo'r ddafad hon a ddaw yn wreiddiol o'r Iseldiroedd, ac mae'r gymdeithas yn tyfu o nerth i nerth.

Dywed Susan mai un o fendithion y defaid yw eu bod yn dod ag 诺yn yn rhwydd a bod yr 诺yn wedyn yn rhoi pwysau ymlaen yn gyflym. Maent yn ddefaid tawel a chyfeillgar iawn, ond nid ydynt yn or-hoff o'r glaw. Does ryfedd felly fod gan Susan shed bren ar eu cyfer gyda digon o le ynddi iddynt gysgodi! Bydd rhai o'r defaid magu a'r hyrddod yn cael eu gwerthu mewn arwerthiannau mor bell 芒 Chaerliwelydd (Carlisle), a bydd rhai o'r 诺yn yn cael eu gwerthu i gigydd lleol.

Mae s么n fod eu cig yn cynnwys llai o golestrol na chig defaid eraill, a gobaith Susan yw y bydd mwy a mwy o bobl yn dod i sylweddoli gwerth cadw defaid Zwartbles yn y dyfodol.

  • Sioe Frenhinol Llanelwedd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy