成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Emsyl James Emsyl ar daith
Ebrill 2007
Dyddiadur Emsyl James o Dal-y-bont, sydd ar daith o gwmpas y byd.

Wel, erbyn hyn dwi wedi bod o Dal-y-bont, o Gymru, i ffwrdd o deulu a ffrindiau am dros bum mis yn teithio a gweithio (ychydig) ar ben fy hunan. Mae'r amser wedi hedfan ond mae gen i atgofion arbennig o'r HOLL lefydd dwi wedi ymweld 芒 nhw, yr holl bobl dwi wedi cyfarfod a'r holl brofiadau dwi wedi eu cael.

Dechreuais ym mwrlwm dinas Hong Kong yn blasu'r bwydydd gwych ac yn gwylio'r bobl yn byw eu bywydau o ddydd i ddydd. Roeddwn yn aros tu allan i ardal dwristaidd Kowloon, oedd yn braf, gan deimlo sut ddinas a phobl sydd `na go-iawn. Yna, treuliais fis yng ngwlad Thai, o fwrlwm gwyllt dinas Bangkok i dawelwch prydferth ynysoedd y de i wylltineb a phentrefi anial mynyddoedd y gogledd. Mae hi'n wlad ddiddorol ag iddi sawl wyneb.

Bellach, mae yna rwydwaith enfawr o backpackers yn teithio trwy Dde Ddwyrain Asia felly roedd hi'n hawdd cyfarfod teithwyr eraill ar fws, tr锚n neu awyren neu yn yr hostelau rhad sy'n amlwg iawn yno.

Dathlais y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn ninas lewyrchus Sydney, Awstralia. Mae olion yr arian a ddaeth yn sgil y gemau Olympaidd yn y flwyddyn 2000 yn amlwg yma ac roedd gwylio'r t芒n gwyllt yn ffrwydro o bont harbwr Sydney yn ffordd wych o groesawu'r flwyddyn 2007. Bum yn gweithio mewn bwyty yn y ddinas ac yn gwneud gwaith gofal plant i hel pres er mwyn crwydro ymlaen eto trwy'r outback anial, coch, sych lawr i ddinas Adelaide ar hyd y Great Ocean Rd, trwy ddinas fywiog, ifanc a hwyliog Melbourne cyn hedfan i Seland Newydd ac yma ydw i ar hyn o bryd.

Wrth siarad 芒 theithwyr eraill ar hyd y daith roedd pawb yn canmol prydferthwch naturiol Seland Newydd a dwi'n si诺r fod nifer o ddarllenwyr Papur Pawb wedi ymweld 芒 gwlad y Kiwis dros y blynyddoedd. Mae gan y ddwy ynys odidog olygfeydd anghredadwy, trefi cyfeillgar hyfryd, gweithgareddau gwyllt a bwyd lleol blasus, er piti am y tywydd Cymraeg! Teithiais o gwmpas mewn fan oedd yn lawer o hwyl ac yn rhoi rhyddid i aros ble bynnag a fynnom bob nos.

Yr uchafbwynt oedd gwneud naid o awyren uwchben llyn anferth Taupo ar ynys y gogledd! Profiad bythgofiadwy oedd gweld y wlad o uchder o 15,000 troedfedd a hedfan uwch ei phen. Trodd nerfusrwydd yn gyffro o fewn eiliadau. Amhosib yw riportio pob dim mewn ychydig o eiriau. Mae gen i ddeufis o'r daith ar 么l o weld teulu yn Hawaii i weld rhai o brif ddinasoedd cyffrous gorllewin America. Cipolwg cyflym ar Ganada cyn dychwelyd i Gymru ar gyfer tywydd cynnes Haf 2007 (!).

Tan Toc, Emsyl.


Cyfrannwch

Ysgol Penweddig
Cadw golwg ar y daith.Braf gweld eich bod yn cael amser da.
Thu Jan 10 14:25:10 2008

Emsyl, Seattle!!
Wow Cian. Diolch am dy neges, wedi ffeindio hwn ar ddamwain,piti - dim ond pedwar diwrnod sydd gen i arol! Falch clywed dy fod di'n mwynhau'r daith - swnio yn gret! Ddim yn gwybod pryd nes di ysgrifennu hwn ond gobeithio dy fod yn mwynhau Seland Newydd gymaint a fi - gwlad brydferth iawn a gymaint i wneud yna, falch clywed bod ti'n mynd i dde america hefyd - nesa ar fy list i! Joia fe! Fyddai n么l yn Nhal-y-Bont amser hyn wythnos nesa! Emsyl x
Wed May 9 19:06:17 2007

Cian Llywelyn o Dal-y-bont
Dyna oedd syndod, gweld ti ar dudalen blaen bbc'r canolbarth. Mae'n swnio fel bo ti'n cael amser uffernol o dda! Dwi yn Sydney ar hyn o bryd, newydd gyrru o Perth dros y ddau fis diwethaf mewn fan, a hefyd wedi neidio allan o awyren. Oedd e'n anhygoel! Treuliais pythefnos yn Japan cyn cyrraedd Oz, a nawr dwi ar fin mynd draw i Seland Newydd am fis. Mae'n dda i glywed dy fod di'n hoffi e cymaint; dwi methu aros i gyrraedd, er byddai'n drust i adael Sydney. Wedyn ymlaen i Dde America, trwy Chile, Yr Ariannin, Bolivia a Pherw, gyda Hedydd a cwpl o ffrindiau eraill.Pob lwc am weddill dy deithio, gobeithio wnei di fwynhau cymaint ag wyt ti'n amlwg wedi bod!Cxx
Sun Apr 29 01:51:08 2007


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy