成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Cwn Defaid Treialon Cwn Defaid
Medi 2006
Cynhaliwyd ein treialon eleni ar gaeau Cynnull Mawr, drwy ganiat芒d caredig Hywel a Luned Williams, ddydd Mercher Awst 2il.
Roedd yn ddiwrnod braidd yn oer a gwyntog ond yn ddigon addas i dreialon - yn llawr gwell, yn wir, na thywydd crasboeth Gorffennaf.

Cafwyd y rhediad cyntaf ychydig wedi 7.30 y bore a'r olaf ychydig cyn saith o'r gloch yr hwyr. Doedd y defaid ddim yn rhy anodd i'w trafod ond roedd yn anodd cael ambell gi i groesi'r clawdd i'r cae pellaf a'r defaid yn tueddu i gymryd llwybr am y bwlch rhwng y ddau gae.

Ar ddiwedd y dydd diolchodd y cadeirydd, Enoc Jenkins, i Hywel a Luned am fenthyg y caeau a'r defaid i'r treialon ac i'r beirniad, Mr. Irwel Evans, Pentre Gwnnws, Tyngraig, Ystrad Meurig. Yna wedi diolch i'r llywyddion, Mr a Mrs John Hughes, Pencwm, gwahoddodd hwy i rannu'r gwobrau.

Enillwyd y cawg rhosynnau, er cof am Richard Edwards, Lletyllwyd, am rediad gorau'r dydd gan Eirian Morgan a'i gi Fred. Ef hefyd enillodd y dosbarth dull cenedlaethol. Fel y llynedd, Islwyn Jones a'i ast, Gael, enillodd y wobr er cof am Mary Edwards a Jenkin Morris, am y rhediad orau cyn hanner dydd. Ef hefyd enillodd y cwpan, rhoddedig gan y diweddar Iona Rowlands er cof am ei brawd, Evan Hopkins, am y rhediad orau yn y dull De Cymru.

Enillydd y dosbarth cyfyngedig i Geredigion a'r cwpan rhoddedig gan y diweddar Ken Jones er cof am D. J. Williams Cynnull Mawr, oedd John Price a'i gi Ben. Erwyd Howells a'i gi Black enillodd y dosbarth nofis yn y dull cenedlaethol a Martha Morgan a Becs y nofis yn y dull De Cymru. Erwyd Howells hefyd enillodd y gystadleuaeth leol a gynhaliwyd ar y nos Fawrth.

Cynhaliwyd cystadlaethau cneifio yn hwyr y prynhawn gydag Emyr Davies, Llety Ifan Hen, yn beirniadu. Y canlyniadau oedd: Cneifio 芒 gwellau: 1. Ken Evans, Coedgruffydd; 2. Dafydd Jenkins, Tanrallt; 3. Enoc Jenkins; Tyngraig. Cneifio peiriant - agored: 1, Dilwyn Evans, Tynant; 2, Enoc Jenkins; 3, Rhydian Evans, Tynant. Cneifio - aelodau C.Ff.I: 1. Rhydian Evans; 2. Elgan Evans, Tynant; Cneifio - C.Ff.I dan 21: 1. Elgan Evans; 2. Sion Evans, Neuadd Fawr.

Cafwyd diwrnod llwyddiannus unwaith eto eleni, ond gyda'r treialon cenedlaethol Cymru yn dechrau yn fore trannoeth yn ardal Y Wyddgrug, daeth llai o gystadleuwyr na'r llynedd i Dalybont.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy