成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Mererid yn dal copi o papur Pawb, Catrin Edwards, Eleri a Menna Breese Ar ben y mynydd gyda Papur Pawb
Ebrill 2008
Dyma ni yn dod i ddiwedd ein taith, yn sefyll ar glacier Franz Josef ar arfordir gorllewinol ynys y De, Seland Newydd.

Buodd Catrin a finnau yn teithio am 5 mis a daeth Eleri a Menna i ymuno 芒 ni am y mis olaf. Ychydig fwy nag wythnos ar 么l i'r llun yma gael ei dynnu roeddem n么l gartref, wedi gweld golygfeydd digyffelyb a chael antur fythgofiadwy!

Dechreuodd Catrin a finnau ein taith yn Auckland, Seland Newydd n么l ym mis Hydref gydag Anwen a Sioned. Siwrne hir a blinedig yw teithio i ben draw'r byd!

Er mawr syndod i ni gyd, wrth ddechrau at ein taith i'r gogledd o Auckland clywsom am ysgol arbennig - un Gymraeg o'r enw Glamorgan ac arwydd yr ysgol oedd Draig goch, digon i neud ni sylweddoli pa mor agos i adre yr oeddem.

Ymlaen i Paihia o'r ysgol, glanfa gyntaf pobl Brydeinig yn y 19 Ganrif. Yn y Waitangi Treaty House clywsom hanes y wlad ifanc; y cytundeb rhwng y Maori a'r Prydeinwyr a chwedlau Maori am sut gaeth y wlad ei chreu. Ardal boblogaidd yw hon hefyd i fynd ar gwch i wylio dolffin, anifeiliaid cyfeillgar iawn, a bendigedig oedd eu gweld yn agos.

Aethom i Oleudy Cape Reinga, sef pwynt mwyaf gogleddol o Seland Newydd, safle ysbrydol iawn i'r bobl Maori, credant mai o'r man yma mae eu hysbryd yn teithio i'r nefoedd ar 么l marwolaeth. Mae hefyd yn fan arbennig oherwydd gallwch weld m么r y Tasman a'r Pacific yn cyfarfod, golygfa syfrdanol. Coeden frodorol Seland Newydd yw'r Kauri, a ddim yn bell o'r goleudy mae Duw eu coed - Tane Mahuta - coeden Kauri sy'n sefyll dros 165 troedfedd.

Cawsom groeso mawr yn Mitai, Rotorua, canolfan ddiwylliannol Maori, gwelsom sawl c芒n traddodiadol gan gynnwys yr Haka a chael hanes eu traddodiadau cyn-Ewropeaidd a bwyta Hangi llond ein boliau!

Tra yn Taupo, wnaeth y pedair ohonom neidio allan o awyren o 15,000 troedfedd - lwcus bod bobo ddyn a pharasiwt yng nghlwm i ni! Yn yr un lle aethom ar gwch cyflym oedd yn gallu mynd ar hyd d诺r a oedd ond yn 4 modfedd o ddyfnder a throi 360掳 ar geiniog.

Yn Queenstown roedd y pedair o Geredigion yn teimlo'n anturus iawn wedi ein naid o awyren a doedd dim amdani ond gweld Queenstown o'r awyr ond y tro yma yng nghlwm i gwch! Gwelsom olygfeydd anhygoel o'r parasail.

Tra yn Christchurch roeddem ddigon ffodus i fod yno tra'r oedd Sioe Amaethyddol Flynyddol y ddinas ymlaen, tipyn o wahaniaeth o Sioe Talybont ond llai na'r Sioe yn Llanelwedd ac roedd cyflymder y cystadlaethau cneifio a lapio gwl芒n werth eu gweld.

Am 7 wythnos buom yn teithio o amgylch Ynys y Gogledd ac Ynys y De cyn dweud ffarwel wrth i Catrin a finnau fynd i Awstralia. Ar 么l blynyddoedd o weld y Sydney Opera House a'r Harbour Bridge ar gerdyn post, mewn llyfr neu yn goleuo lan adeg y Flwyddyn Newydd profiad afreal yw sefyll o dan y tirnodau byd-enwog yma, a cherdded tu fewn yr adeilad a chlywed hanes a drama'r adeiladu.

Dechreusom daith bws a oedd yn ein cludo o Sydney i Cairns at hyd arfordir y dwyrain a'r arhosiad cyntaf oedd cyfarwyddo'n hunain gydag anifeiliaid brodorol Awstralia megis Koala bears, cangar诺, wallabies, crocodeil a dingoes.

Yn Surfers Pardise cawsom wers syrffio aflwyddiannus ond llawer o sbort; eto i gyd nid yw tonnau Borth ac Aberystwyth yn barod amdanom neu falle dyle hwnna fod ffordd arall rownd.

Buom ar ynys dywod fwyaf Awstralia sef Fraser Island ble'r oedd y tywod mor bur yng nghanol yr ynys roeddent yn eich annog i frwsio'ch dannedd a golchi'ch gwallt ynddo.

Nesa, i Rockhampton - canolfan biff Awstralia er mai mynd i ffarm crocodeil wnaethom ni! Tra yn Cairns cawsom y cyfle anhygoel i fynd i snorclo ar y Great Barrier Reet gan weld pysgod lliwgar ac amseru da oedd gan Tommo o Radio Ceredigion gan mai ar y ffordd n么l o'r Reef oeddem ni pan wnaeth e ffonio ni i ddweud Nadolig Llawen!

Cawsom ychydig o hanes traddodiadau'r bobl Aborigini yn Tjapukai a hyd yn oed gwers at sut i daflu bwmerang! Gwers arall aflwyddiannus...

Ar 么l gwario 'Dolig yn Cairns, Alice Springs oedd pen ein taith fach nesa mewn bws 4x4 at draws anialdir. Arhosom ar "cattle station" yn ganol unman ac roedd yn ddiddorol clywed maint y ffermydd yma, y rhai bath rhwng 4 ac 8000 km sgw芒r a'r mwyaf yn Ne Awstralia tua 42000 km sgw芒r. Mae'r tir mor eang, nid quad gafodd ei ddefnyddio, yn hytrach hofrennydd yw eu ceffyl gwaith!

O Alice Springs aethom ar drip i weld y garreg goch enwog - Ayres Rock. Mae'n debyg mai rhydu y mae'r tirwedd ac o hynny daeth y lliw coch. Roedd codi am chwarter i 4 werth yr ymdrech i gerdded tua 6 milltir o amgylch Ayres Rock tra'r oedd yr haul yn gwawrio.

O'r anialdir yma aethom i Fiji; tipyn o newid byd! Cawsom ein cyfarch ym mhobman gan g芒n Bula, eu c芒n o groeso. Buom yn aros ar y brif ynys yn Lautoka, Nadi a Korolevu ar y Coral Coast gan wario mwyafrif o'n hamser yn bola heulo dan goed palmwydd cyn mynd i aros ar ynys Bounty yn y Mamanucas ac ynys Nacula yn y Yasawas i neud yr un peth! Ar ynys Bounty roeddent yn arfer ffilmio'r rhaglen deledu realaeth 'Celebrity Love Island'. Fe wnaethom ychydig mwy na bola heulo yma- aethom i snorclo gan ein bod yn "pro's" ar 么l bod ar y Great Barrier Reef ac roedd y Reef yma i weld mwy lliwgar. Ar ynys Nacula cawsom dipyn o sioc gan ein bod yn agos iawn i seiclon! Digon o gynnwrf ar yr ynys yna!

Hedfan o Fiji n么l i Auckland wedi'r seiclon i gyfarfod Eleri a Menna yn eu dillad Gaeaf. Ar eu hail ddiwrnod yn Seland Newvdd ail-ddechreuodd yr anturiaethau. Anelu am y gogledd eto yn bedwarawd gwahanol, a chyfle i Eleri a Menna gael hanes y wlad.

Yn Wellington aethom i'r unig dafarn Gymraeg yn hemisffer y de a chael awyr iach drennydd ar y cwch i ynys y De. Ar y ffordd lawr i Franz Josef, arhosom i weld Pancake Rocks a blowholes, yr enw wedi dod o ffurfiant y graig. Profiad rhyfedd oedd cerdded at glacier Franz Josef mewn tywydd braf a gwaith caled! Ond roedd cwmni da gennym, y digrifwr Russ Abbott!

Tro Eleri nawr i wneud ei Skydive yn Taupo, a'r tair ohonom yn ceisio dyfalu pa un o'r dotiau bach yn yr awyr oedd Eleri.

Y man olaf i ni ymweld cyn dychwelyd i Auckland oedd y Coromandel Peninsula a thrip i Hot Water Beach, traeth a oeddech yn palu am bwll o dd诺r a oedd yn gallu bod mor boeth a 60掳.

Ar ein noson olaf, dywedom ffarwel wrth Seland Newydd o'r Skytower, wedi cael amser anhygoel ond eto i gyd yn edrych ymlaen at ddod gartref a churo taith y cardiau post!

Mererid James


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy