成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Y Mari Lwyd Atgyfodi'r Fari Lwyd
Chwefror 2006
Pentref Tal-y-bont yn atgofodi traddodiad y Fari Lwyd i groesawi'r flwyddyn newydd Geltaidd.

Lle bach sy'n fwrlwm o ddiwylliant yw Tal-y-bont. Ac fe gafwyd tystiolaeth i'r perwyl hynny nos Wener, Ionawr y trydydd ar ddeg, 2006 - nad oedd yn ddyddiad anlwcus, i'r gwrthwyneb. Daeth y Fari Lwyd i'r pentref i groesawu'r flwyddyn newydd Geltaidd ac i ffarwelio'r hen flwyddyn.

Daeth criw go lew ohonom ynghyd i gwrdd 芒'r Fari Lwyd i ddechrau yn y Neuadd. Roedd y rhan fwyaf yn blant ac felly cwmni digon bywiog oedden ni.

Yn gyfrifol am y Fari Lwyd ei hun oedd Matthew. Llynedd roedd pen y Fari Lwyd yn un plastig ond eleni fe gafwyd hyd i benglog ceffyl go-iawn, diolch i'r we, os deallaf yn iawn. Ceffyl a berthynai i filfeddyg oedd hwn yn ei ddydd - nad yw'n hysbyseb dda i'r milfeddyg hwnnw. Beth bynnag, bellach mae'n ben Mari Lwyd perffaith.

Mae 'na rywbeth iasoer ynghylch y Fari Lwyd - penglog y ceffyl, sy'n debyg i ylfin aderyn prae, y lliain gwyn, sy'n gwneud i chi feddwl taw ysbryd yw'r Fari. Ond does neb yn ei hofni. Fe'i haddurnir 芒 chlychau pert a rubanau lliwgar.

Ers talwm cadarnle'r Fari Lwyd oedd Sir Forgannwg, ac yn briodol felly gwr o'r sir honno oedd y "meriman" yn ei het silc a'i rubanau al blu, sef Jeremy Turner, y cyfarwyddwr-dramodydd-actor-cerddor-diddanwr-canwr. Efe a ddysgodd inni'r penillion i'w canu ac efe an tywysodd ni o amgylch y pentref gan ganu'i acordion. Ymhlith y penillion oedd un a gofnodwyd gan Miss Jennie Williams wedi i Thomas Edwards ei ganu iddi yn Nhal-y-bont.

Yn unol 芒'r hen draddodiad pardduodd sawl un or pentrefwyr eu hwynebau cyn mynd allan i'r tywyllwch. Wedyn dyma ni'n mynd am dro rownd y pentref. Eto, fel yn yr hen ddyddiau, cynlluniwyd y daith drwy'r ardal ymlaen llaw a gwyddai'r trigolion ym mha d欧 y byddai'r Fari a'i chwmni yn galw. Doedd dim eisiau i neb gael braw wrth agor y drws i ddrychiolaeth wen, hirdal 芒 chanddi safnau ceffyl marw.

Wrth y drysau cenid y geiriau:
Wel dyma ni'n dwad
Gyfeillion dinwad
i ofyn am gennad
i ganu.

Atebid y cwmni gan bobl yn y t欧 dan ganu eu penillion hwythau. Ond fe ychwanegwyd at traddodiad a'i estyn gan Delyth Huws Henllan gan iddi hi lunio a chanu penillion newydd i ateb y Fari a'r meriman a'u firindiau. Ar 么l tipyn o ffraeo cyfeillgar rhwng y bobl yn y t欧 a chwmni'r Fari Lwyd fe agorid y drws. Fel rwy'n deall byddai'r cwmni yn cael cwrw ag ynddo ffrwythau a th么st yn yr her ddyddiau; ond eleni fe ddiwygiwyd y traddodiad eto drwy roi losin a siocledi i'w rhannu rhwng y plant. Mwy dymunol o lawer.

Dibynnai holl naws siriol a chymdeithasol y noson ar Jeremy Turner a'r acordion. Efe oedd enaid yr achlysur ac ni fyddai'r peth wedi gweithio hebddo fe na'r Fari Lwyd hanfodol, wrth gwrs. Wrth i'r osgordd ymlwybro o'r naill annedd i'r llall canai Jeremy'r acordion gan ein calonogi ni i gyd. Daeth yr orymdaith i ben yn Nhafarn y Llew Du, lle adroddodd Jeremy storiau arswyd wrth y plant, gan eu dychryn am eu bywydau cyn mynd i'r gwely.

Rhaid inni gadw'r ddefod hyfryd hon yn fyw, felly, edrychwn ymlaen at droad y flwyddyn nesa yn eiddgar pan gawn atgyfodi'r her Fari Lwyd eto.

Erthygl gan MM


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy