Ymhyfrydwn yn yr anrhydedd a ddaeth i Mr Bob Williams, Pen-y-wern, o gael ei ethol yn Llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig eleni. Nid dyma'r tro cyntaf i'r anrhydedd ddod i ran y teulu, oherwydd gwasanaethodd tad Bob fel Llywydd y Gymdeithas yn 1974-75. Mae derbyn yr anrhydedd hwn yn arwydd o'r parch sydd ymhlith aelodau'r Gymdeithas i gyfraniad Bob ar hyd y blynyddoedd, nid yn unig fel bridiwr stoc o safon uchel ei hun, ond hefyd fel beirniad cystadlaethau'r da duon mewn sioeau amaethyddol bach a mawr ac fel hyrwyddwr y br卯d yn gyffredinol. Y mae hwn yn gyfnod cyffrous yn hanes y Gymdeithas am ei bod yn tyfu o nerth i nerth, ac yr ydym yn sicr y bydd llewyrch arni tra bydd Bob yn Llywydd. Pob dymuniad da iddo gyda'r gwaith.
 |