Ysgol Gymraeg yr Andes - diwedd tymor
Roedd y ganolfan yn llawn. Roedd Marina wedi cael y plant meithrin i ganu ac i actio yn arbennig a phob dosbarth wedi bod yn brysur iawn a llawer wedi ysgrifennu sgetsus eu hunain.
I ddilyn y noson, ar ol cael tamed o fwyd blasus iawn, roedd pen-blwydd Victor Elis, un o'r myfyrwyr, ac i ddiweddu Cwis.
Roedd Romina a Gladys wedi bod yn brysur; cafwyd hwyl ardderchog ac yr oedd wedi hanner nos arnom yn gadael y ganolfan, a phawb yn chwerthin llond eu bol a siarad wrth y giat yr amser yna o'r nos.
Rini o Esquel

|