Pan fu awdures yn siarad yn Buenos Aires am ei llyfr newydd am y Mimosa cafodd ei synnu fod 15 o bobl yn y gynulleidfa yn hanu o deuluoedd oedd wedi hwylio ar y llong.
Er mai un o dras Wyddelig, wedi ei geni ym Mumbai, yw Susan Wilkinson roedd ei hen, hen, ewythr yn feddyg ar y llong a hwyliodd o Lerpwl dros 140 o flynyddoedd yn ôl gyda'r Cymry cyntaf i ymsefydlu ym Mhatagonia.
Oherwydd y cysylltiad hwn mae'r awdures, sy'n awr yn byw yng Nghanada, wedi ymddiddori yn hanes y llong hwyliau a gludodd 160 o Gymry i Borth Madryn yn 1865.
Cyn diwedd y flwyddyn bydd ei llyfr Saesneg am y Mimosa yn cael ei gyhoeddi gan y Lolfa.
Thomas Greene, 21 oed oedd y meddyg ar y llong ond dywedodd Susan Wilkinson mai wedi ymchwilio i hanes ei hadeiladu a'i mordeithiau y mae hi yn bennaf.
'Fy llong i' Dywedodd i'r llong sydd a rhan mor ramantus yn hanes y Cymry wedi ei thrin fel bod dynol o'i 'genedigaeth' i'w marwolaeth mewn henaint ar arfordir Gorllewin Affrica.
"Wedi'r cwbl rydan ni'n galw llong yn 'hi' ac roeddwn yn drist pan aeth yn hen, ac yn hapus pan oedd wedi cael mordaith deg. Dechreuais feddwl mai hon oedd fy llong i," meddai.
Yn ogystal â'r llong ei hun dywedodd fod y bobl a hwyliodd arni yn bwysig iddi er nad oes llawer o wybodaeth felly yn cael ei gynnwys mewn llyfrau.
"Ond hanes y bobl sydd ddifyrraf," meddai.
Yn y gynulleidfa yn Buenos Aires yn gwrando ar Susan yn sôn am ei llyfr yr oedd dwy chwaer yn eu hwythdegau, Iris a Rhona Lloyd, sy'n or orwyrion i Michael D Jones a Lewis Jones, sefydlwyr y Wladfa.
Roeddynt wedi mwynhau clywed yr hanes unwaith eto a gwrando ar straeon yr oeddynt wedi eu clywed yn blant yn cael eu magu yn uniaith Gymraeg yn y Wladfa.
Merch noeth Dywedodd Susan i flaenddelw'r Mimosa o ferch noeth gael ei dynnu cyn cychwyn o Lerwpl yn dilyn cwyn gan un o'r teithwyr.
Gosodwyd delw mwy syber yn ei le.
Dywedodd hefyd nad oedd dim rhegi nac yfed yn ystod y daith - a dydi hynny ddim yn syndod gan fod tri gweinidog ymhlith y teithwyr!
Wedi i'r llyfr gael ei gyhoeddi yn Saesneg y gobaith yw y bydd yn cael ei gyhoeddi yn y Sbaeneg ar gyfer yr Ariannin.
Cafodd ei llyfr cyntaf, Sebastian's Pride a gyhoeddwyd yn 1988, ei drosi i'r Sbaeneg yn barod.
|