Yr oedd dydd Nadolig 1999 yn un gwahanol iawn i'r arfer i Glyn Evans o 成人快手 Cymru'r Byd. Fe'i treuliodd yn 'torri i mewn' i gaban pren Butch Cassidy a'r Sundance Kid ym mhentref diarffordd Cholila yn yr Ariannin. Yr oedd hynny, wrth gwrs, ar ôl ei ginio Nadolig yn oriau mân y bore. Dyma'r hanes: Cartref Butch a Sundance Hyd yn oed heddiw gallwch ddychmygu Butch Cassidy a'r Sundance Kid yn marchogaeth i lawr y ffordd lychlyd o'u caban pren tuag at ganol pentref tawel Cholila.
Cymylau o lwch yn codi o garnau eu ceffylau a'r ddau ddihiryn yn edrych dros eu hysgwydd yn ofnus o'r gyfraith. O'u blaenau mae Mynydd yr Indiad sy'n Gorffwys - y tu cefn iddyn nhw y caban pren - ysblennydd, yn ei ddydd - a godwyd yn gartref ganddynt iddyn nhw eu hunain ac Etta Place. Ond yn ystod eu cyfnod yn Cholila rhwng 1901 a 1905 fe gawson nhw nid yn unig ddigon o lonydd rhag y gyfraith ond mi ddaethon nhw yn aelodau digon parchus o'r gymdeithas leol hefyd. Gyda Cholila o fewn cyrraedd hawdd i'r gymdeithas Gymraeg yng Nghwm Hyfryd, Patagonia, cafodd y ddau gringo gyfle i gymysgu â rhai o'r Cymry yno hefyd. Y farn a basiwyd o un genhedlaeth i'r llall yw eu bod nhw "Yn bobol glen iawn. Saesneg da ganddyn nhw." Dywedir i Etta Place fod yn rhannu llofft a Chymraes ifanc yn ystod yr ymweliadau hyn. Heb newid dros y blynyddoedd Yr argraff a gawn yw fod pentref Cholila heddiw yn ddigon tebyg i'r hyn oedd o yr adeg honno. "Dydi o ddim wedi newid llawer," meddai un o'r trigolion lleol - yr unig un o fewn y cylch sydd â mynediad i'r we. Yn wir, dim ond gan 150 o bobol y mae yna deleffon.
Mae ambell un yn gofidio na fyddai Cholila wedi gwneud mwy i fanteisio ar ei gysylltiad a'r ddau bandito a fu'n ddeunydd mor lliwgar i Paul Newman a Robert Redford. Y mae son - ond dim ond sôn - am droi'r ty pren a godwyd ganddynt un ai'n amgueddfa neu ganolfan ond bod annealltwriaeth ynglyn â phwy yn union pia fo yn dal pethau'n ôl. I mewn i'r ty Heddiw, ar ôl teithio yno 150km mewn car o dref Esquel gydag Ariel a Marta Huws a'u mab Alan, gwelwn mai dim ond darn o gortyn sy'n cadw'r drysau ynghau gan ei gwneud yn hawdd inni dorri i mewn i gael golwg ar gyflwr y lle. Ac mae'r caban pren a gododd Butch a Sundance yn dal ar ei draed. Y prif ffenestri yn wynebu'r ffordd fel y gellir gweld o bell rywun yn dod â'r cefn tuag at ffrwd fechan y gellid dianc ar frys drwy ddrws cefn i'w chroesi pe byddai angen. Ychydig lathenni i'r chwith, mae'r ty bach yn dal ar ei draed. Mae'n dywyll a llawn awyrgylch. Mae Cholila o ddiddordeb arbennig i ni oherwydd y cysylltiad honedig rhwng y ddau fandito a saethu Llwyd ap Iwan - un o'r gwladfawyr mwyaf blaenllaw - y tu allan i'w siop yn Nant y Pysgod yn y Wladfa. Ond er bod priodoli'r anrhaith i Butch a Sundance yn ei gwneud yn stori dda y mae'n eitha sicr mai dau fandito arall fu'n gyfrifol am hynny. Wrth gwrs nid fel Butch a Sundance yr oedd y ddau yn cael eu hadnabod tra'n ddinasyddion Cholila ond fel Santiago Ryan ac Enrique Plat ac fe arhoson nhw yn dawel ac ymddangosiadol barchus yn yr ardal nes i dditectifs Pinkerton ddod ar eu gwarthaf. Bu Etta Place yn dawnsio â llywodraethwr y dalaith. Dianc a dwyn o fanciau Unwaith yr oedd dynion Pinkerton a'u hanadl ar eu gwar fe ddihangon nhw ymhell i ddehau Patagonia lle bu'n rhaid iddyn nhw ail-ddechrau ymosod ar fanciau wrth i'w harian brysur ddarfod. Roedd eu lladrad yn Rio Gallegos yn un arbennig o bowld. Agor cyfrif yn y banc, byw yn fras yn un o westai gorau'r dref am bythefnos gan gymysgu a'r byddigions lleol cyn dychwelyd i'r banc nid yn unig i gau eu cyfrif eu hunain ond i wagio cyfrif pawb arall hefyd! Diwrnod mynd am dro Diwrnod i fynd allan am dro ydi'n dydd Nadolig ni ym Mhatagonia. Ac ar ein ffordd i Cholila yr oeddem yn pasio teuluoedd eraill yn cynneu tanau ar lannau afonydd a llynnoedd ar gyfer coginio cigoedd i'w bwyta gyda bara a gwin coch. Yr oedd y 'Cinio Nadolig' wedi ei hen fwyta erbyn hyn - rhwng hanner nos a thri o'r gloch fore'r Nadolig fel mae'n digwydd. Mwy cymhedrol nag yng Nghymru Dydi'r Nadolig ddim yn cyrraedd Esquel mor gynnar ag y mae'n cyrraedd Cymru. Rhagfyr 8 - dydd gwyl esgyniad y Forwyn Fair - yw'r diwrnod traddodiadol i ddechrau gosod trimins a goleuadau yn y siopau gyda nwyddau eraill yn cael eu symud i'r naill ochr i wneud lle i bethau Nadoligaidd. Ond dydi'r dwymyn brynu ddim yn gwallgofi pawb fel ag yng Nghymru a bach yw'r gwario mewn cymhariaeth gan ein hatgoffa o'n Doligau ni rai blynyddoedd yn ôl bellach. Nid bod yr Archentwyr yn ymhoni fod unrhyw rinwedd yn hynny. "Does ganddon ni mo'r arian sydd gennych chi. Ond pe byddai, fe fyddem ninnau yn gwario yn union fel chwithau; waeth inni fod yn onest ddim," meddai un wraig. Dim ond tridiau cyn y diwrnod y mae bwrlwm yn y siopau ac ar y gornel strydoedd Rivadavia a 25 de Mayo yn Esquel y mae Santa ysgafndroed yn rhannu melysion ac yn bygwth dawnsio ar ganol y stryd cyn cael smôc efo'i ffrindiau wrth fwrdd ar y pafin. Hawl i fod yn wirion Penllanw'r prysurdeb yw prynhawn y 24: "Mae'r bobl wedi cael eu cyflogau o'r diwedd," eglurir imi. "Ac maen nhw am ei wario i gyd. Drwy'r flwyddyn maen nhw'n byw yn fain ond yr adeg hon maen nhw'n mynd yn wirion - a phwy all eu beio? Maen nhw'n cael digon chydig weddill y flwuddyn. Mae ganddyn nhw hawl i un wythnos, does bosib." Ond mae eu gwiriondeb hwy yn un dipyn rhatach na'n un hafradus ni yng Nghymru. Mae dyn meddw mewn dillad gaucho yn estyn ei law wrth ichi basio, "Dim ond un peso. Does bosib fod ganddo chi un peso i'w rhoi." Llond bwrdd o fwyd Yng nghartref Ariel a Marta mae'r pryd Nadolig wedi bod yn cael ei baratoi gydol y dydd. Erbyn un ar ddeg y nos yr ydym i gyd yn eistedd o amgylch bwrdd sydd mewn peryg o sigo dan bwysau y fath amrywiaeth o gigoedd oer a salads a gwin coch. Dywed y teledu ei bod yn 33 gradd C ym Muenos Aires ac yn teimlo fel pe byddai'n 36. Yn yr un ddinas cymerwyd 125 o bobl i'r sbyty wedi iddyn nhw or-ddathlu. Yn Esquel mae'r cymylau'n isel a chawodydd yn bygwth. Erbyn tri y bore yr ydym yn fodlon iawn ei byd wedi cael ein gwala a'n gweddill o fwyd da a gwin. Wrth ddringo'r grisiau trefnwn i fod ar ein traed yn gynnar fore'r Dolig ar gyfer cychwyn am wyth, gyda bwyd sbâr yng nghist y car, tuag at Cholila i ymweld a ffrindiau - a chartref Butch a Sundance a brofodd yn eu dydd Nadolig digon tebyg, mae'n siwr, yng ngwres yr haul.
|