Y mae Cathrin Williams ar ei thrydydd ymweliad ar ddeg â'r Wladfa ym Mhatagonia - ond dywed na welodd hi' erioed o'r blaen mo'r Ariannin fel ag y mae yn awr. Dyma fi yn Ariannin am y trydydd tro ar ddeg, a welais i erioed ddim byd fel yr hyn a welais dros yr wythnosau diwethaf! Mae'n wir imi fod yma adeg chwyddiant mawr 90/91 a'r streic athrawon gafwyd bryd hynny ond doedd hynny'n ddim ond chwarae plant o'i gymharu â'r hyn gafwyd yn ystod cyfnod y gwyliau yma! Roedd amryw wedi bod yn dweud ers imi gyrraedd yma ddechrau Tachwedd iddyn nhw gael eu siomi'n fawr yn yr Arlywydd a etholwyd yn 1999. Gwyddwn hefyd i bawb oedd yn derbyn dros $500 y mis gael toriad o 20% yn eu cyflogau. Yna, dyma glywed am drafferthion difrifol yn y Brifddinas ond gan fod Trelew yn ddigon pell o'r fan honno, doedd neb yn cymryd fawr o sylw. Dwr a bwledi yn Nhrelew Ond y pnawn dydd Iau cyn y Nadolig cafodd rhai o dlodion y dref yma lond bol ar y sefyllfa economaidd oedd yn eu gadael nhw heb ddim, ac fe aethon yn griw i neuadd y dref i gwyno. Mi ddigwyddais i fod yn yr un ardal yr un pryd a chael fy hun ynghanol criw o heddlu yn gwasgar y dorf efo dwr a bwledi (rwber, gobeithio!). Torrwyd ambell ffenestr siop ac aeth y dorf tua'r archfarchnadoedd gan ofyn am fwyd am ddim. Tawelodd pethau mor gyflym ag y dechreuon nhw. Pobl weddus ydi pobl Trelew. Parchus - dosbarth canol' Yn Buenos Aires bu tyrfa'n cadw stwr drwy guro sosbenni a llawer iawn o'r rheini'n bobl barchus, dosbarth canol. Ond yno roedd pethau'n llawer gwaeth nag yma a lladdwyd amryw ac anafu mwy fyth. Ac ynghanol hyn i gyd roedd yr Arlywydd wedi rhoi'r gorau iddi a'i ddirprwy yn cymryd drosodd am ddiwrnod nes cael Arlywydd newydd. Daeth hwnnw, ac roedd pawb yn gobeithio y byddai pethau'n gwella. Wythnos fu hwnnw wrthi! A dyma ddirprwy arall yn gweithredu am ddiwrnod arall, nes cael y pumed Arlywydd mewn ychydig dros wythnos. Record i unrhyw wlad ddatblygedig, debygwn i. A'r sôn yw y bydd pob un o'r pump yn ymddeol ar bensiwn Arlywydd - oes ryfedd fod trafferthion ariannol yn y wlad? Does yna ddim arian Ac achos hyn oll? Y sefyllfa economaidd ddifrifol sydd yn y wlad. Does yma ddim arian. Does gan y llywodraeth ddim digon i'w rannu i'r taleithiau ac felly all y taleithiau ddim talu eu dyledion na chyflogau eu gweithwyr. Sut i oresgyn y broblem? Yn wreiddiol, drwy brintio arian cyfochrog, sydd ddim yn arian yn wir ond y gellir ei wario felly. Y drwg ydi nad ydi pob siop yn fodlon ei dderbyn ac ni ellir ei ddefnyddio at dalu pob bil. Ac mae pobl sy'n cael eu talu gan lywodraeth y dalaith neu'r wlad bellach yn cael eu talu bron yn gyfan gwbl yn yr 'arian' yma. Ac nid yr un arian cyfochrog sydd drwy'r wlad i gyd, felly gwae chi ddod ar eich gwyliau o'r Brifddinas, dyweder, i Chubut a cheisio cael arian o'r banc! O na, lecops roddir yn Chubut ac os mai mewn patacones y cewch eich cyflog allwch chi ddim cael centavo o'r banc yma! Rhesi o bobol tu allan i'r banciau Peth arall sy'n gwneud bywyd yn anodd ydi'r ddeddf newydd sy'n gwahardd codi mwy na $250 yr wythnos. Daeth y ddeddf i fod am fod pawb yn sydyn yn codi eu harian o'r banc gan adael y rheini heb ddim. Pan fo hi'n wythnos talu bil y golau, y nwy a'r ffôn dydi $250 ddim yn ddigon. A chan fod gan bobl gyn lleied o ffydd yn y banciau, mae pawb yn codi'r $250 gynted ag y gallan nhw, fel bod yna resi diddiwedd yn disgwyl eu tro y tu allan i'r banciau. Poen newydd yn awr Rwan, mae yma boen newydd. Penderfynodd yr Arlywydd presennol, Duhalde, newid system ariannol sydd mewn bodolaeth ers i Menem ddod yn Arlywydd. O dan y drefn honno, roedd y peso gyfwerth â'r ddoler Americanaidd, ond rwan ceir 1.4 peso i'r ddoler. Canlyniad y bygwth newid oedd i'r prisiau godi'n afresymol yn y siopau er nad oedd dim un rheswm am hynny. Heddiw, fodd bynnag, maen nhw wedi gostwng eto gan nad oedd neb yn gallu fforddio prynu dim! Beth am y bobl? A'r bobl eu hunain? Maen nhw'n poeni'n fawr, wrth gwrs, a llawer yn ei chael yn anodd cael dau pen llinyn ynghyd. Does dim arian dros ben ar gyfer dim a gwelir hyn mewn pethau fel diffyg twristiaid ar adeg pan fo twristiaeth ar ei anterth gan mai dyma fis y gwyliau. Mae yna lawer o drafod ar y sefyllfa, ond neb, wir, yn gweld ffordd glir allan o'r dryswch. Mae pawb yn cytuno mai drwg mawr y wlad yw arweinyddion llygredig yn pluo eu nyth eu hunain. Ac wyr neb sut i wella'r sefyllfa honno. Am y sefyllfa yma fel y mae hi, bydd y "Cymry" yn goroesi hyn fel y maen nhw wedi goroedi popeth, a hynny heb fwy na mwy o gwyno.
|