Bardd o Gwm Tawe yng Nghymru a enillodd gadair Eisteddfod y Wladfa eleni.
Roedd T Graham Williams, Cefnfab, wedi cyfansoddi cerdd ar y testun Egin a seiliwyd hi ar ddatblygiad Undodiaeth yng Nghymru.
Pwnc y mae Mr Williams wedi darlithio llawer arno gan gyflwyno Iolo Morganwg mewn golau newydd.
Ac yntau'n methu â bod yn bresennol yn yr eisteddfod yn Nhrelew cynrychiolwyd ef yn seremoni'r cadeirio gan Elvey MacDonald a oedd ar ymweliad. Bydd yn awr yn trefnu i gludo'r gadair i Gymru.
O Riwfawr, a chynt o Gefn Bryn Brain yng Nghwm Tawe Uchaf, y daw Cefnfab ac mae eisoes wedi ennill dros 60 o gadeiriau a thair coron ac ar hyn o bryd mae'n codi caban pren yn gartref iddynt!
Roedd Archdderwydd Cymru - Dic Jones - ym Mhatagonia eleni ar gyfer seremoni Gorsedd y Beirdd Patagonia. Cyrhaeddodd yno gyda'i wraig a'i ddwy chwaer ac mewn tywydd heulog braf yr oedd ymhlith 12 o aelodau newydd a dderbyniwyd yn aelodau o Orsedd Patagonia.
Croesawodd Gabriel Restucha, Maer y Gaiman, 17 o Gymry oedd wedi mynd draw yno gydag Elvey MacDonald. Yng nghwmni rhai o'i staff - Waldo Williams, Sonia Baliente a Juan (Siôn)Davies, estynnodd groeso i'r criw, oedd yn cynnwys Islwyn Evans, Ysgol Gerdd Ceredigion, un o feirniaid yr Eisteddfod.
Cafodd yr ymwelwyr gyfle i weld Llyfr Cyngor y Dref, a ysgrifennwyd y Gymraeg a'r Sbaeneg yn y flwyddyn 1885, 20 mlynedd ar ôl glaniad y Cymry cyntaf.
|