Mae ysfa yn nifer fawr o bobl ifanc heddiw i hel eu pac ac i fynd i deithio. Dyma fu hanes nifer fawr iawn o bobl ifanc wedi'r haf.
Rhai i Awstralia, eraill i Seland Newydd a rhai i chwilio am wreiddiau eu teuluoedd ym Mhatagonia. Yn wahanol i nifer o'i chyfoedion a ffrindiau mae merch o Lanuwchllyn wedi mynd i weithio i'r Falklands oddi ar arfordir Ariannin am bedwar mis. Mae Manon Roberts wedi rhoi'r gorau i fyd addysg a mynd i lapio gwlân yno. Meddwl yn barod am rywle arall Ac er mai am gyfnod byr y bydd hi yno dydi hi ddim yn bwriadu aros adre yn hir wedi iddi ddychwelyd ychwaith. "Does wybod ble'r â'i nesa. Dwi'n cofio clywed hanes gwr yn gollwng pin ar fap i wybod i ble y byddai'n teithio nesaf, efallai mai dyma fydd fy hanes innau, does wybod," meddai. Er i Manon gychwyn ar gwrs celf yng Ngholeg Iâl Wrecsam yn dilyn ei Lefel A yn Ysgol y Berwyn penderfynodd dros nos bod awch arni i fynd i deithio. "Dwi wedi bod yn lapio gwlân ers bron i dair blynedd yng Nghymru. Ac felly penderfynu mynd dramor i feddu ar brofiad mewn gwledydd eraill. Falklands gyntaf pwy â wyr lle nesaf," meddai. Ac y mae hi hefyd a'i bryd ar ddilyn cwrs gradd mewn prifysgol wedi iddi ddychwelyd - er does wybod pryd fydd hynny! Byw yn y gwyllt "Mae lot wedi synnu bod awch arnai i fynd i'r Falklands, yn hytrach nag Awstralia neu Seland Newydd, ond dwi'n barod am y sialens. "Dwi ar ddeall y byddaf yn byw yn y gwyllt yn ystod yr wythnos yn gweithio ac yna yn cael dod i lawr i'r dref i aros mewn carafanau yn ystod y penwythnosau. "A pham ddim y Falklands; mae digon o bobl wedi pregethu nad oes dim coed na dim arall yno dim ond defaid, ond dyna ni, mynd yno i wneud arian ydw i a dwi'n sïwr y bydd yna rhyw fath o fywyd cymdeithasol yno hefyd." Er ei bod hi'n chwerthin yn braf wrth feddwl am ei thaith i wlad arall mae'n cyfaddef hefyd ei bod ychydig yn bryderus. "Dwi'n meddwl bod unrhyw un sydd yn camu ar awyren y dyddiau yma yn nerfus - ond mi fyddai'n iawn ar ôl cyrraedd," meddai.
Dim siopau "Dwi wedi cyfarfod un neu ddau o'r rhai fydd yno gyda mi a dwi'n adnabod merch o'r Falklands sydd wedi bod yn y wlad yma yn lapio gwlân. Felly dwi'n ymwybodol o'r ffaith nad oes yno ddim siopau gan ei bod hi yn siopa, siopa, siopa pan fo hi yma yng Nghymru." Er bod lapio gwlân yn waith caled dywed Manon ei bod yn edrych ymlaen at fynd i ganol y cesys i weithio'n galed ac, wrth gwrs, i chwarae'n galed. "Nid lapio gwlân yw'r swydd ddelfrydol, gyda gorfod codi'n gynnar yn y bore, lanolin yn y briwiau a baw defaid yn fy ngwallt, ond mae'n gyfle gwych i weld y byd ac i gael hwyl," meddai.
|