Profiad bythgofiadwy oedd y daith i Batagonia. Ffodus oeddem i gael brodor o'r Wladfa,. Mair Edwards, nawr o'r Bala, i'n harwain.
Teithiodd deg ohonom o ardal Llandeilo am hanner awr wedi chwech y bore i ymuno â 30 o Ogledd Cymru.
Cyrhaeddom Borthladd Awyr Gatwick a hedfan odd yno am chwech yr hwyr i Madrid, ac ar awyren arall i'r Ariannin gan lanio ym Maes Awyr Ezeiza Buenos Aires.
Gwledd am bumpunt Treuliasom bedair noson yn ardal Florida o'r ddinas a'r noson gyntaf cawsom wledd arbennig am bum punt (yn ein harian ni) yn cynnwys stecen cig eidion oedd yn fwy o faint ac yn fwy blasus na dim a gefais erioed yng Nghymru!
Ar y dydd Mawrth bu'r daith drwy'r ddinas yn agoriad llygad gyda'r uchafbwynt yn ymweliad â Chromen Eva Peron a fu farw yn 1952 yn 33 oed.
Mae'r rhan fwyaf o hanes y wraig ryfeddol hon yn dal i fod yn ddirgelwch.
Cawsom hwyl wrth weld Sioe Tango yn Elviejo Almacen.
Cawsom gyfle i gael trip mewn bad ar yr afon Plat i weld ynysoedd ei delta a bu inni gerdded i'r porthladd a chael fferi i ochr arall y delta i ymweld â thalaith Uruquay sy'n debyg iawn i wlad Portiwgal mewn sawl ystyr.
Bore Gwener oedd y diwrnod inni adael am Batagonia gan hedfan o Faes Awyr Aeroparque i gyrraedd Trelew ac ymlaen i Esquel - Tref yr Ysgall - wrth droed yr Andes, gwyn gan eira, er ei bod yn ddiwrnod braf o wanwyn.
Canolfan gymdeithasol Braf a chynnes oedd croeso Cymry'r Wladfa yn y Ganolfan Gymdeithasol, a adeiladwyd drwy ymdrech ddyfal a diffuant Hazel Charles Evans, nawr o Landybie.
Cafodd gymorth Rini Griffith a thros ddwy flynedd bu'r ddwy yn codi arian trwy "werthu brics" am bunt yr un.
Er syndod i ni, roedd bwydlen Gwesty Tehuelche - ac, yn wir, bedwar gwesty arall - mewn Cymraeg a Sbaeneg.
Dyma her i westai Cymry-Cymraeg gyda'r Saesneg ddylai'r arfer fod!
Camp ceffyl Ymlaen a ni fore Sadwrn ar dren hynafol La Trochita neu yr Old Patagonian Express ac yna ar fws i Drefelin a gafodd ei henwi felly, gan i John Daniel Evans sefydlu melin yno.
Braf oedd cael ymweld a'i gartref a elwir heddiw yn "Cartref Taid" a gwrando ar ei wyres yn sôn amdano yn fanwl yn y Sbaeneg a'i gyfieithu i ni gan Shirley a Paula.
Tafliad carreg o'r tŷ gwelsom fedd a chofeb Malacara - ceffyl enwog John Daniel Evans.
Dywed yr hanes i 30 o Indiaid ymosod arno ef a thri Chymro arall yn Nyffryn y Merthyron - Valle Martires - ar Fawrth 4, 1884, pan oeddent yn teithio i gyfeiriad yr Andes i chwilio am aur.
Lladdwyd tri -Richard B. Davies o Lanelli, John Hughes Caernarfon a John Parry o Ddinbych - ond llwyddodd John Daniel Evans i ddianc drwy gyflymder anhygoel ei geffyl chwim.
Eglurodd ar ôl cyrraedd adref iddo allu cyfleu i'w geffyl y sefyllfa ddifrifol ac i'r ceffyl lwyddo i neidio'n wyrthiol dros ddibyn ac afon. Methodd yr Indiaid a'i ddal.
Felly, arbedwyd bywyd John Daniel Evans gan ei geffyl arbennig.
Erbyn iddo gyrraedd adref, gwelwyd coesau a charnau'r ceffyl yn waed i gyd a hynny, gan nad oedd wedi ei bedoli.
Wedi gofal manwl gan ei feistr diolchgar gwellodd Malacara o'i anafiadau ac fe fu byw am 25 mlynedd hyd 1909.
Wedi'r fath orchest rhaid oedd gosod cofeb deilwng iddo.
Cyn ymadael a Threvelin rhaid oedd ymweld a Chaffi Nain Maggie i gael te Cymreig 'slawer dydd sef; -te, bara ac ymenyn, caws, jam a tharten.
Parc Cenedlaethol Drannoeth, y Sul, ymweld a Pharc Cenedlaethol Los Alceres, cael taith ar gwch gan gynnwys cinio a chyrraedd Capel Seion, Esquel, i oedfa'r hwyr dan arweiniad y pregethwr gwadd, y Parch Byron Davies, Maesteg.
Swm y casgliad oedd £100-hyn yn cyfateb a £1,000 o bunnoedd yn arian yr Ariannin.
Cafwyd seibiant ddydd Llun felly dydd Mawrth bu, taith o 11 awr trwy filoedd ar filoedd o aceri o dir diffaith heb goed na pherth i Drelew.
Da oedd cael cyrraedd Gwesty Libertador ac yno cwrdd a Dafydd Wigley a'i briod Elinor Bennett, beirniad cerdd yn Eisteddfod y Wladfa yn Nhrelew.
Carreg fedd Dydd Mercher daeth cyfle i fynd i El Tombo i weld y pengwin cyn ymweld â Chapel Berwyn yn Rawson ac yn ôl i Drelew
i ymweld â Chapel Moreia a gweld bedd Lewis Jones a'i briod Ellen. Cofiaf y geiriau ar y garreg fedd: "A egyr ei genau yn ddoeth a chyvraith trugaredd sydd ar ei thavod hi."
Roedd Dydd Iau yn ddiwrnod Cyhoeddi Eisteddfod 2005, cyfle i weld aelodau newydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd yn y Gaiman a the a chacennau eto yn festri Capel Bethel.
Yn y prynhawn cefais y profiad personol unigryw o ymweld ag Eglwys Dewi Sant Dolavon ble bu cefnder fy nhad, John Washington Jones, gynt o Faeshenarth, Rhydcymerau yn weinidog rhwng 1920 a 1926.
Ei gapel arall oedd Moreia, Trelew.
Daeth y diwrnod i ben gydag ymweliad â fferm lle megir bustych Henffordd a diddorol iawn oedd y rhod ddŵr a oedd yn sicrhau cyflenwad o ddŵr i'r tir.
Diwrnod yr Eisteddfod Diwrnod y bu hir ddisgwyl amdano oedd dydd Gwener, diwrnod yr Eisteddfod a barhaodd tan yn hwyr iawn.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn gymnasiwn a da oedd gweld Baner y Ddraig Goch yn chwifio ochr yn ochr a Baner yr Ariannin.
Teimlais fod yr agoriad yn drawiadol iawn. Canwyd Anthem Genedlaethol y wlad a bu gweddi gan y Parch Carwyn Arthur, brodor o Lanymddyfri ac yna bechgyn a merched yn dawnsio'r Tango.
Uchel oedd safon y cystadlaethau i gyd a da oedd gweld Elinor Bennett yn feirniad cerdd a'i phriod Dafydd Wigley yn gwmni diddan i bawb.
Bore Sul aed i Gapel Bethel y Gaiman i gael ymuno mewn Cymanfa.
Roedd y capel yn orlawn a nifer fawr yn gorfod aros y tu allan, ond yn ymuno â'r canu hyfryd serch hynny.
Roedd yno saith arweinydd - pump o'r Wladfa ac Elinor Bennett a Gwilym "Plas" Llwyndyrus o Gymru.
Y
n ystod yr oedfa cafwyd eitemau, un yr emyn ar y dôn Clawdd Madog a ganwyd gan enillydd yr unawd yn yr Eisteddfod, Hywel Williams o Landudno, ac unawd gan Nia, merch Gwilym "Plas".
Yn bresennol roedd, Dafydd Wigley, Elvey Macdonald a Hector Ariel Macdonald y trefnydd cerdd.
Ymhlith y rhai a ganwyd mewn hwyl tebyg i eiddo'r Diwygiad, i gyfeiliant organ tebyg i'r American Reed Organ, yn cael ei chwarae gan Ceris Gruffudd Aberystwyth - Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin - oedd: Mae D'eisiau Di bob awr a Hapus Awr.
Canwyd rhai penillion yn Sbaeneg ac yn y Gymraeg ar yn ail a diddorol a bendithiol oedd clywed pawb yn canu Dyma gariad fel y moroedd ar Dôn y Botel wrth adael y capel.
Wedi'r canu brwdfrydig da oedd cael cyfle i fwynhau asado neu farbaciw mewn canolfan.
Gweld y morfilod Bore Llun teithiasom i gyfeiriad Puerto Piramide yn Mhenryn Valdes er mwyn mynd ar fwrdd llong i'n cludo i weld y morfilod yn y bae a chael cyfle i dynnu lluniau ohonynt.
Ymlaen yr aethom i'r Borth Madryn i weld ble y glaniodd y Cymry oddi ar y llong Mimosa ar Orffennaf 28, 1865.
Gwelsom rai o'r ogofau lle bu i lawer ohonynt fyw am rai wythnosau. Profiad annifyr iawn i'r Cymry alltud, wedi edrych ymlaen, siŵr o fod, at gael gwell byd yno, nad oedd yn bosibl yn y Gymru dlawd bryd hynny.
Ardal ddigon diffaith oedd ardal Bryn Gwyn a welsom wrth deithio ar fore Mawrth.
Wedi cinio hanner dydd yn y Tŷ Gwyn fe'n cludwyd i ymweld âa'r Amgueddfa yn y Gaiman a'r Ysgol Gymraeg cyn dychwelyd i'r Tŷ Gwyn am de.
Dydd Mercher ,rhaid oedd gadael yn fore am Faes Awyr Trelew er mwyn hedfan y daith o ddwy awr i gyrraedd Buenos Aires ar gyfer y daith tuag adref.
Rhaid oedd aros am wyth awr am yr awyren a fyddai'n ein cludo i ddinas Madrid.
Wna'i ddim anghofio'r diwrnod hwnnw a minnau'n dathlu fy mhen-blwydd yn drigain oed.
Da o beth i ni fod Mair Edwards, arweinydd y parti, wedi trefnu parti i ni mewn gwesty moethus yn ninas Buenos Aires a hynny wedi lliniaru tipyn ar yr aros.
Gadawsom am ddeg o'r gloch y nos a chyrraedd Madrid am ddeg y bore drannoeth.
Rhaid oedd mynd ar fwrdd awyren arall i'n cludo i Gatwick erbyn pedwar o'r gloch y prynhawn ond roedd hi'n dri o'r gloch fore Gwener pan gyrhaeddom dref Llandeilo ar ôl teithio gan gyfrif y gwahaniaeth o bedair awr rhwng amser Cymru ac amser y Wladfa, parhaodd y daith 38-awr.
Gofynnwyd sawl cwestiwn gan ffrindiau a chymdogion a'r amlaf oedd; "Wnes ti fwynhau?" a'r ateb pendant yw; "Do mas draw." Ac os daw cyfle am ymweliad arall fe fyddaf yn awyddus iawn i ddychwelyd. Beth am i chi ddod gyda fi?
|