Un mlynedd ar ddeg yn ôl, ym mis Mawrth 1996, agorwyd yr ysgol feithrin gyntaf yn Nhrelew, ysgol feithrin Y Ddraig Fach.
Yr oedd hwn yn ddechrau tymor o addysg Gymraeg sydd wedi parhau hyd heddiw diolch i fenter rhieni awyddus yn cynnwys; Sandra Jones de Hugas, Adriana Roberts a Jorge Pfleger, Violeta Brooks de Roberts a'i brawd George, Daniel Aphesbero a'i wraig, Waldo Williams a Fabiana González, Alejandra González (a'u rhieni yn gydweithwyr dibynadwy: Rudy a Norma), Dona Hughes, Ana Davies de Rosetto a'i nain, Proserpina Morgan de Davies, yn bresennol ar gyfer yr agoriad, a'i rhieni, Ansel a Celia, parod eu cymorth yn wastad, Rhona Lloyd a Leandro Secchi,
Cafodd gwisg ysgol o goch, gwyrdd a gwyn, sy'n adlewyrchu pwrpas addysgiadol yr ysgol o feithrin iaith a diwylliant Cymru, ei llunio gan y rhieni a'r athrawes a'r un cynllun sy'n cael ei ddefnyddio gan ysgol yr newydd yr Hendre a agorwyd yn ddiweddar yn Nhrelew.
Ariannwyd yr ysgol feithrin wreiddiol trwy daliadau gan y rhieni a derbyniwyd rhoddion o ddeunydd addysgiadol a cherddorol gan gwmnïau fel Y Lolfa a Sain yng Nghymru.
Ar gyfer prynu deunydd dechreuol a dodrefn cafwyd rhodd gan Delith Pugh de Jones o'r Gaiman.
Mewn quincho - adeilad tu allan i'r tŷ ar gyfer defnydd dyddiol - o eiddo'r athrawes, yn ardal San Davíd (Dewi Sant) yn Nhrelew, dechreuodd Mónica Jones de Jones y gwaith o hadu'r diwylliant Cymreig, gyda chymorth ei gŵr, Gwyn, a'u merch Geraldine.
Bu'r dosbarthiadau yn llwyddiannus iawn a buan oedd y plant yn adrodd ac yn canu'r Gymraeg mewn nosweithiau llawen ac eisteddfodau lleol yn Y Gaiman ac yn Nhrelew.
Mae angen diolch hefyd i May Williams de Hughes a gyfrannodd yn frwdfrydig.
Trosglwyddwyd yr ysgol feithrin i ddwylo Cymdeithas Dewi Sant wedi i Mónica a'i theulu ymfudo i Gymru am gyfnod yn 1997.
Peth da yw cofnodi'r atgofion am yr ysgol feithrin cyn iddynt fynd ar goll a diolch i'r llond llaw o rieni, rhai ohonynt heb gysylltiad o gwbl â Chymru, am wneud diwylliant a iaith Cymru yn rhan o'u hunaniaeth Patagonaidd.
Dreigiau bach cyntaf yr ysgol feithrin oedd Adriana Apehesbero, Adriana Pfleger, Juan Pfleger, Ainara Hugas, Glyn Williams, Nicolás González, Leandro Ruy Secchi Lloyd, Leila Mauriz, Francisco Rossetto Davies a Maia Garzonio.
|