Enillodd Geraint ap Iorweth Edmunds y gadair o'r blaen yn 1993 ac yn 1999.
Magwyd ef yn Nhrelew a'r Gaiman lle'r oedd ei dad yn brifathro a'i fam yn athrawes.
Roedd ei deulu yn hanu o Dredegar, Bangor a Blaenau Ffestiniog.
Yn beiriannydd sifil wrth ei alwedigaeth bu'n byw mewn sawl rhan o'r Ariannin.
Ar ôl ymddeol y trodd at lenyddiaeth - i gadw'r Eisteddfod yn fyw.
Mae hefyd yn llenydda ychydig yn Sbaeneg.

|