成人快手

Mathau o ymbelydreddPriodweddau ymbelydredd

Mae gan dri gronyn isatomig wahanol wefrau a masau. Mae gronynnau ymbelydrol yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd alffa, beta a gama - ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol ac artiffisial.

Part of FfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Priodweddau ymbelydredd

Mae sylweddau yn ei lwybr yn gallu amsugno ymbelydredd. Er enghraifft, dim ond rhai centimetrau mae ymbelydredd alffa yn ei deithio mewn aer, mae ymbelydredd beta yn teithio degau o gentimetrau mewn aer, ac mae pelydriad gama yn teithio pellteroedd mawr iawn.

Mae pob math o ymbelydredd yn mynd yn llai dwys wrth deithio'n bellach oddi wrth y defnydd ymbelydrol, oherwydd bod y gronynnau neu'r pelydrau yn gwasgaru.

Y mwyaf trwchus yw鈥檙 sylwedd, y mwyaf o ymbelydredd mae鈥檔 ei amsugno. Mae'r tri math o ymbelydredd yn treiddio drwy ddefnyddiau mewn gwahanol ffyrdd.

Pelydr alffa, beta a gama yn treiddio drwy law, pelydriad beta a gama yn treiddio drwy alwminiwm, a phelydriad gama yn cael ei stopio gan blwm.
Figure caption,
Priodweddau treiddio'r gwahanol fathau o ymbelydredd

Ymbelydredd alffa

Ymbelydredd alffa yw'r lleiaf treiddiol. Mae llaw ddynol yn gallu ei atal (neu ei amsugno).

Ymbelydredd beta

Mae ymbelydredd beta yn gallu treiddio drwy aer a phapur. Mae dalen o alwminiwm yn gallu ei atal.

Pelydriad gama

Pelydriad gama yw'r mwyaf treiddigar. Mae hyd yn oed lefelau isel yn gallu treiddio drwy aer, papur neu fetel tenau. I atal lefelau uwch, mae angen llawer o gentimetrau o blwm neu lawer o fetrau o goncrit.

Mae craig ymbelydrol yn rhoi darlleniad uchel iawn o 5 ar gyfrifydd Geiger. Craig wedi'i lapio mewn papur = 4 uned. Craig wedi'i lapio mewn ffoil alwminiwm = darlleniad isel o 1 uned.
Figure caption,
Mesur effaith gwahanol orchuddion ar graig ymbelydrol