成人快手

Mathau o ymbelydreddRhif atomig a rhif m脿s

Mae gan dri gronyn isatomig wahanol wefrau a masau. Mae gronynnau ymbelydrol yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd alffa, beta a gama - ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol ac artiffisial.

Part of FfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Rhif atomig a rhif m脿s

Rhif proton a rhif niwcleon

Rhif proton (Z) atom yw nifer y protonau sydd ynddo. Mae gan bob atom o elfen benodol yr un rhif proton (nifer o brotonau). Mae gan atomau elfennau gwahanol niferoedd gwahanol o brotonau. Er enghraifft, mae gan bob atom ocsigen wyth proton ac mae gan bob atom sodiwm 11 proton.

Rhif niwcleon (neu rif m脿s) atom yw cyfanswm nifer y protonau a'r niwtronau sydd ynddo. Dydy rhif niwcleon atom byth yn llai na'r rhif proton. Mae鈥檔 gallu bod yr un fath, ond fel arfer mae'n fwy.

Symbolau cemegol llawn

Os wyt ti'n gwybod y rhif proton a'r rhif niwcleon, galli di gyfrifo faint o bob gronyn isatomig sydd mewn atom. Mae symbol cemegol llawn elfen yn dangos ei rhif niwcleon (A) yn y top, a'i rhif proton (Z) yn y gwaelod.

Atom Clorin, gyda rhif m脿s 35 a rhif atomig 17.
Figure caption,
Symbol llawn atom clorin

Mae'r symbol yn dweud wrthyt ti bod 17 proton yn yr atom clorin. Bydd 17 electron ynddo hefyd, oherwydd mae nifer y protonau a'r electronau mewn atom yr un fath.

Mae'r symbol hefyd yn dweud wrthyt ti bod cyfanswm nifer y protonau a'r niwtronau yn yr atom clorin yn 35. Galli di gyfrifo nifer y niwtronau drwy dynnu'r rhif atomig o'r rhif m脿s. Yn yr enghraifft hon, mae'n 35 鈥 17 = 18 niwtron.