成人快手

Gwaith

Mae gwaith yn cael ei wneud wrth i rym weithredu ar gorff sy'n symud. Mae gwaith yn cael ei wneud pryd bynnag mae grym yn symud rhywbeth.

Mae rhai enghreifftiau cyffredin o waith yn cynnwys cerdded i fyny'r grisiau, codi gwrthrychau trwm, tynnu sled a gwthio troli siopa.

Mae dyn yn gwthio bocs gyda grym o 10 newton er mwyn ei symud 2 metr.
Figure caption,
Mae dyn yn gwthio blwch 芒 grym o 10 Newton i'w symud drwy bellter o 2 fetr

Cyfrifo'r gwaith sy'n cael ei wneud

Dyma'r hafaliad sy'n rhoi'r berthynas rhwng y gwaith sy'n cael ei wneud, y grym sy'n cael ei roi, a'r pellter symud i gyfeiriad y grym.

\(\text{gwaith sy'n cael ei wneud} = {\text{grym}}\times{\text{pellter}}\)

\(\text{W} = {\text{F}}\times{\text{d}}\)

Yn yr hafaliad hwn:

  • rydyn ni'n mesur W (gwaith) mewn jouleau (J)
  • rydyn ni'n mesur F (grym) mewn newtonau (N)
  • rydyn ni'n mesur d (pellter) mewn metrau (m)

Yn yr enghraifft uchod, mae 10 N yn cael ei roi ar waith i symud y blwch 2 m.

Gwaith sy'n cael ei wneud = 10 脳 2 = 20 J

Bydd y triongl hwn yn dy helpu i aildrefnu'r hafaliad.

Triongl gyda "gwaith sy'n cael ei wneud" yn y pig. Mae "grym wedi'i luosi gyda phellter" ar hyn y gwaelod. Mae llinell lorweddol yn gwahanu'r ddwy linell o destun.

Mae unedau gwaith yr un fath ag egni, sef jouleau. Mae hyn oherwydd mai egni yw鈥檙 gallu i wneud gwaith. Rhaid bod gen ti egni er mwyn gwneud gwaith. Does dim rhaid i ti wneud gwaith os oes gen ti egni, fodd bynnag (dydy egni potensial ddim yn gwneud gwaith).

Yn benodol, yn yr enghraifft uchod, allai person ddim gwthio'r blwch (ac felly wneud gwaith) heb egni. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn hafal i'r egni sy'n cael ei drosglwyddo, hynny yw, gwaith = egni sy'n cael ei drosglwyddo.

Gall gwrthrych fod ag egni oherwydd ei:

  • safle (egni potensial)
  • mudiant (egni cinetig)
  • anffurfiad (egni elastig)