成人快手

Gwaith, EPD ac EC

Ceir

Mae gan injans ceir wahanol feintiau (cynhwysedd) a sgorau p诺er. Er enghraifft, efallai y bydd gan gar teulu bach injan 1.2 litr ond bydd gan sbortscar injan 3 litr. Yn gyffredinol, mae injans 芒 chynhwysedd mwy yn fwy pwerus.

Mae injans mwy pwerus mewn ceir yn gallu gwneud gwaith yn gyflymach na rhai llai pwerus. O ganlyniad, mae'r rhain fel arfer yn teithio'n gyflymach ac yn teithio'r un pellter mewn llai o amser, ond mae angen mwy o danwydd arnynt hefyd. Mae defnyddio mwy o danwydd yn costio mwy ac yn cael mwy o effaith ar yr amgylchedd.

Tabl sy'n cymharu Mondeo gyda RX8.
Figure caption,
Cymharu Mondeo ag RX8

Mae鈥檙 tanwydd sy'n cael ei ddefnyddio gan wahanol gerbydau a pha mor bell maen nhw'n gallu teithio yn dibynnu ar ffactorau fel:

  • gyrru i fyny llawer o riwiau
  • cludo llwythi mawr
  • gyrru'n gyflym
  • gyrru ar ffyrdd ag arwynebau garw
  • gyrru heb ddigon o aer yn y teiars

Colledion aerodynamig

Mae si芒p cerbyd yn bwysig iawn. Gallwn ni cerbydau i gynhyrchu llai o wrthiant aer wrth iddynt symud, sy'n golygu y byddan nhw'n defnyddio llai o danwydd ac yn gallu mynd yn bellach.

  • Mae sbortsceir yn si芒p . Mae siapiau cerbydau mwy llyfn eisoes wedi gwneud llawer i leihau llusgiad, ond mae gostyngiadau pellach o 20-30% yn bosibl.
  • Gallwn ni osod taflwyr gwynt ar flaen lor茂au a charafannau.
  • Ar y llaw arall, mae rhoi blychau to ar geir neu gyrru 芒'r ffenestri ar agor yn cynyddu gwrthiant aer. Mae cynyddu gwrthiant aer yn golygu defnyddio mwy o danwydd, ac felly ni fydd y cerbyd yn gallu teithio mor bell.

Colledion oherwydd ffrithiant

Yn ogystal 芒 ffrithiant 芒'r aer oherwydd si芒p a maint y cerbyd, mae'r ffrithiant rhwng teiars y car ac arwyneb y ffordd, a'r ffrithiant rhwng olwynion ac echelau'r car, hefyd yn effeithio ar faint o danwydd mae'r car yn ei ddefnyddio. Yn aml, rydyn ni'n galw hyn yn wrthiant rholio'r car.

Mewn cerbydau sy'n rhedeg ar betrol, mae dros 62% o egni'r tanwydd yn cael ei golli yn y peiriant tanio mewnol oherwydd mae'n aneffeithlon iawn o ran trawsnewid egni cemegol y tanwydd yn egni mecanyddol.

Mae egni'n cael ei golli i:

  • ffrithiant yn yr injan
  • pwmpio aer i mewn ac allan o'r injan
  • colledion gwres

Wrth yrru mewn mannau trefol, mae llawer o egni - tuag 17% yn cael ei golli wrth segura wrth oleuadau neu mewn traffig. Mae technolegau fel systemau tanio/generadu integredig yn helpu i leihau'r colledion hyn drwy ddiffodd yr injan yn awtomatig pan fydd y cerbyd yn stopio, a'i hailddechrau ar unwaith pan fydd y gyrrwr yn pwyso'r cyflymydd.

Gwrthiant rholio

Mae gwrthiant rholio yn mesur y grym sydd ei angen i symud y teiar ymlaen, ac mae mewn cyfrannedd union 芒 phwysau'r llwyth mae'r teiar yn ei gynnal. Gallwn ni ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau newydd i leihau'r gwrthiant rholio. Mae hyn yn cynnwys gwell dyluniadau ar wadnau ac ysgwyddau'r teiars a defnyddio deunyddiau gwell yn y belt a'r arwynebau tyniant yn y teiars.

Ar gyfer ceir teithwyr, mae gostyngiad 5-7% yn y gwrthiant rholio yn cynyddu effeithlonrwydd tanwydd 1%. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso'r gwelliannau hyn yn erbyn tyniant, gwydnwch a s诺n.