成人快手

Gwaith ac egniEgni cinetig

Trosglwyddiad egni yw gwneud gwaith. Gall egni gael ei gadw, mewn EPD, EC ac egni elastig 鈥 fel grym ac estyniad mewn sbring. Mae gan geir nodweddion sy鈥檔 amsugno egni mewn damwain.

Part of FfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Egni cinetig

Mae gan bob gwrthrych sy'n symud (EC). Mae EC gwrthrych yn dibynnu ar y ffactorau hyn:

  • 尘脿蝉
  • buanedd

Egni potensial elastig

Mae grym sy'n gweithredu ar wrthrych yn gallu achosi newid i si芒p y gwrthrych. Mae gwrthrychau elastig yn gallu storio egni potensial elastig os ydyn ni'n eu hymestyn nhw. Er enghraifft, mae hyn yn digwydd wrth ddefnyddio catapwlt.

Newid si芒p

Mae gwrthrychau elastig hefyd yn gallu storio egni potensial elastig os ydyn ni'n eu gwasgu nhw. Er enghraifft, mae hyn yn digwydd pan gaiff p锚l sboncen ei gollwng ar arwyneb caled.

Mae gwaith yn cael ei wneud ar wrthrych elastig pan mae ei si芒p yn newid, ac mae'n storio egni potensial elastig. Gallwn ni gyfrifo faint o egni sydd wedi'i storio wrth ymestyn neu wasgu defnydd elastig, ond does dim angen i ti allu gwneud hynny yn dy arholiad.

Cyfrifo egni cinetig

Dyma'r hafaliad i gyfrifo egni cinetig.

\(\text{EC}=\frac{1}{2}{\text{mv}^{2}}\)

neu

\(\text{EC}=\frac{1}{2}\times{\text{m}}\times{\text{v}^{2}}\)

  • EC yw'r egni cinetig mewn jouleau, J.
  • m yw'r 尘脿蝉 mewn cilogramau, kg.
  • v yw'r buanedd mewn metrau yr eiliad, m/s.

Question

Beth yw egni cinetig car 1,000 kg sy'n teithio ar 5 m/s?