成人快手

Egni potensial disgyrchiant

Mae gwrthrych yn gallu bod ag egni oherwydd ei fudiant, ei safle a'i anffurfiad. Ar y Ddaear, mae grym disgyrchiant yn gweithredu arnat ti drwy'r amser. Os wyt ti uwchben arwyneb y Ddaear, mae gen ti egni potensial (wedi'i storio). Rydyn ni'n galw鈥檙 egni hwn yn egni potensial disgyrchiant (EPD).

Mae swm yr EPD sydd gan wrthrych ar y Ddaear yn dibynnu ar y ffactorau canlynol:

  • 尘脿蝉
  • uchder uwchben y ddaear
Mae Llyfr A a Llyfr B ar silff lyfrau. Mae Llyfr B ddwywaith trwch Llyfr A. Mae Llyfr C ar ail silff lyfrau. Ar yr ail silff mae Llyfr C union o dan Llyfr A, ac mae ganddo drwch tebyg.

Yn y diagram:

  • mae gan bob llyfr ar y silff EPD
  • mae gan lyfr A fwy o EPD na llyfr C oherwydd mae'n uwch
  • mae gan lyfr B fwy o EPD na llyfr A oherwydd mae ei f脿s yn fwy

Os yw gwrthrych yn cael ei godi, mae gwaith yn cael ei wneud yn erbyn grym disgyrchiant. Mae'r gwrthrych yn ennill egni. Er enghraifft, byddai llyfr C yn ennill EPD pe bai'n cael ei godi i'r silff uwch wrth ochr llyfrau A a B.

Cyfrifo newidiadau i EPD (haen uwch)

Dyma'r hafaliad i gyfrifo egni potensial disgyrchiant.

\(\text{EPD} = {\text{m}}\times{\text{g}}\times{\text{h}}\)

  • EPD yw'r egni potensial disgyrchiant mewn jouleau, J.
  • m yw'r 尘脿蝉 mewn cilogramau, kg.
  • g yw cryfder y maes disgyrchiant mewn newtonau y cilogram, N/kg.
  • h yw'r newid uchder mewn metrau, m.

Question

Defnyddia鈥檙 wybodaeth uchod i ateb y cwestiwn.

Mae llyfr 芒 尘脿蝉 o 0.25 kg yn cael ei godi 2 m i'w roi ar silff lyfrau. Os yw g yn 10 N/kg, faint o egni potensial disgyrchiant mae'n ei ennill?