成人快手

Grym ar sbring a systemau syml eraill

Mae grymoedd yn gallu newid si芒p gwrthrych. Pan mae gwrthrych elastig fel sbring cael ei ymestyn neu ei wasgu, mae'n storio egni potensial elastig. Mae estyniad gwrthrych elastig mewn union 芒'r grym sy'n cael ei roi arno.

Deddf Hooke

Pan mae gwrthrych elastig, fel sbring, yn cael ei ymestyn, yr enw ar y cynnydd hyd yw estyniad. Mae estyniad gwrthrych elastig mewn cyfranned union 芒鈥檙 grym sy鈥檔 gweithredu arno.

\(\text{F} = {\text{k}}\times{\text{x}}\)

  • F yw鈥檙 grym, mewn newtonau, N.
  • k yw 鈥榗ysonyn y sbring鈥, mewn newtonau y fetr, N/m.
  • x yw鈥檙 estyniad mewn metrau, m.

Mae鈥檙 hafaliad hwn yn gweithio ar yr amod nad yw鈥檙 terfan elastig yn cael ei basio. Os yw sbring yn cael ei ymestyn ormod, er enghraifft, ni fydd yn dychwelyd i鈥檞 hyd gwreiddiol pam gaiff y llwyth ei dynnu oddi arno.

Cysonyn y sbring

Mae cysonyn y sbring, k, yn wahanol i wahanol wrthrychau a deunyddiau. Mae鈥檔 bosibl cynnal arbrawf i鈥檞 ddarganfod. Er enghraifft, caiff hyd sbring heb ei lwytho ei fesur. Yna, caiff gwahanol f脿sau eu llwytho ar y sbring, ac mae鈥檙 sbring yn cael ei fesur bob tro. Yr estyniad yw鈥檙 hyd newydd, tynnu鈥檙 hyd gwreiddiol (heb ei lwytho).

Graff sy'n dangos Deddf Hooke.
Figure caption,
Graff yn dangos Deddf Hooke, estyniad wedi鈥檌 blotio鈥檔 erbyn grym

Gan dybio fod y terfan cyfrannol (terfan elastig) ddim yn cael ei orlwytho, bydd graff grym yn erbyn estyniad yn dangos llinell syth sy鈥檔 pasio drwy鈥檙 tarddiad. Cysonyn y sbring, k, yw gradffa鈥檙 llinell. Po fwyaf gwerth k, y mwyaf yw anystwythder y sbring.