成人快手

Nodweddion diogelwch mewn ceir

Mewn damwain car, mae'r car, ei gynnwys a'r teithwyr yn yn gyflym. Maen nhw'n profi mawr oherwydd y newid , sy'n gallu achosi anafiadau. Mae gan geir modern nodweddion diogelwch sy'n amsugno mewn damweiniau. Mae鈥檙 rhain fel rheol yn cynnwys:

  • gwregysau diogelwch
  • bagiau aer
  • cywasgrannau

Mae'r nodweddion hyn yn lleihau anafiadau i'r bobl yn y car drwy amsugno egni o'r ardrawiad. Mae'r nodweddion hyn yn amsugno egni wrth newid si芒p. Mae hyn yn lleihau anafiadau i'r bobl yn y car. Maen nhw'n gwneud i'r newid momentwm ar gyrff y teithwyr gymryd mwy o amser, sy'n lleihau'r grymoedd ac unrhyw anafiadau sy'n digwydd o ganlyniad.

Gwregysau diogelwch

Mae gwregysau diogelwch yn dy gadw di mor ddiogel 芒 phosibl y tu mewn i'r car mewn damwain. Fodd bynnag, maen nhw wedi'u cynllunio i ymestyn ychydig bach mewn damwain. Mae hyn yn cynyddu'r amser mae'n ei gymryd i fomentwm y corff gyrraedd sero, ac felly'n lleihau'r grymoedd arno.

Bagiau aer

Mae bagiau aer yn cynyddu'r amser mae'n ei gymryd i fomentwm y pen gyrraedd sero, ac felly'n lleihau'r grymoedd arno. Maen nhw hefyd yn gweithredu fel clustog feddal ac yn atal toriadau i'r croen.

Cywasgrannau

Rhannau o gerbyd sydd wedi'u cynllunio i wasgu mewn ffordd reoledig yw cywasgrannau. Maen nhw'n gwneud i newid momentwm y gyrrwr a'r teithwyr gymryd mwy o amser mewn damwain, sy'n lleihau'r grymoedd.

Llun o'r ochr, o gar sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad. Mae'n dangos y cywasgrannau a'r bagiau aer wedi'u chwythu.
Figure caption,
Llun o'r ochr, o gar sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad. Mae'n dangos y cywasgrannau a'r bagiau aer wedi'u chwythu.